Dechreuwch eich stori Caerdydd chi

“Caerdydd yw fy lle arbennig i, yn bendant. Mae’r lle yma wedi rhoi popeth i fi.”

Shruti Tripathi Chopra (MA 2011)

Newyddiaduraeth Ryngwladol
“Ces i fy magu yng Nghaerdydd. Des i yma pan oeddwn i’n 19 oed, dyma le wnes i fy ngolch fy hun am y tro cyntaf. Dyma’r tro cyntaf i fi goginio. Y tro cyntaf i fi wneud paned o de. Rwy’n cofio teimlo fel oedolyn cyfrifol am y tro cyntaf yma.”
Mae Shruti eisiau bod yn newyddiadurwr â phroffil uchel ac yn ysbrydoliaeth i fyfyrwyr rhyngwladol.

Wedi’i geni yn India, Shruti yw Prif Olygydd Financial News a Private Equity News, dau gyhoeddiad News Corp sy’n cael eu darllen gan gwmnïau cyllid mwyaf y byd ers bron i 30 mlynedd. Shruti yw golygydd ieuengaf erioed y cyhoeddiadau, y person o liw cyntaf a’r fenyw gyntaf i’w phenodi i’r swydd hon.

Gyda’n gilydd, gallwn ni
chwalu’r rhwystrau i greu ystafell newyddion fwy amrywiol
“Y peth gorau am astudio Newyddiaduraeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Caerdydd oedd elfen ymarferol y cwrs. Roeddwn ni’n dod i’n darlithoedd bob dydd gan deimlo fel newyddiadurwyr. Un diwrnod fydden ni’n ysgrifennu erthygl newyddion, ac ar ddiwrnod arall yn cynhyrchu sioe radio, ac yna’n defnyddio offer y brifysgol a mynd i wneud pecynnau newyddion.”
Dechreuodd Shruti ei gyrfa newyddiaduraeth yn neuaddau Prifysgol Caerdydd, gan fenthyg offer yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant i wneud pecynnau newyddion ar gyfer Media Wales. Galluogodd hynny ei helpu i sicrhau ei swydd newyddiaduraeth gyntaf yn Llundain – breuddwyd yn dod yn wir am rywun nad Saesneg yw ei iaith gyntaf.

Mae Shruti yn hyrwyddwr amrywiaeth a chynhwysiant, gan arwain ar gyhoeddi rhestr 100 o Fenywod Mwyaf Dylanwadol mewn Cyllid sy’n denu sylw enwau mawr y diwydiant.

Mae hi’n credu y gallwn ni chwalu rhwystrau gyda’n gilydd a chreu ystafell newyddion fwy amrywiol — rhywbeth mae Prifysgol Caerdydd bob amser yn ymdrechu tuag ato.

“Mae’r Blackweir Tavern yn lle annwyl i fi. Ar ein ffordd nôl o Adeilad Bute, ac yn methu trafferthu coginio, fyddwn ni’n mynd i gael pizza bach yn y dafarn.”

“Ym Mhrifysgol Caerdydd y dysgais i fod yn garedig, i fod yn gydweithredol, ac i ofalu am fy ffrindiau a chydweithwyr. Rwy’n gobeithio fy mod i’n parhau i ddilyn yr egwyddorion hyn heddiw.

Darllenwch fwy o straeon fel stori Shruti

Gyda’n gilydd, gallwn

Sagnik Basu (MA 2019)

Y Cyfryngau Digidol a Chymdeithas
Gyda’n gilydd, gallwn

Diksha Dwivedi (MA 2014)

Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Chyfathrebu
Gyda’n gilydd, gallwn

Konstantinos Kousouris (BSc 2021)

Rheoli Busnes

Sagnik Basu (MA 2019)

Y Cyfryngau Digidol a Chymdeithas

Diksha Dwivedi (MA 2014)

Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Chyfathrebu

Konstantinos Kousouris (BSc 2021)

Rheoli Busnes