Dechreuwch eich stori Caerdydd chi

Konstantinos yw cyd-sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Blink. Straen ariannol yw un o’r pryderon mwyaf ymhlith Gen Z, ac mae cwmni newydd technoleg ariannol Blink yn helpu oedolion ifanc i reoli eu harian a theimlo eu bod yn cymryd rheolaeth.
“Fy hoff le yng Nghaerdydd oedd Undeb y Myfyrwyr. Mae gen i lawer o atgofion hyfryd o’r lle.”
Enillodd Blink ei fuddsoddiad cyntaf gan Startupbootcamp, un o’r cronfeydd mwyaf yn Ewrop, ac ers hynny mae wedi ennill gwobr gan Fanc Cenedlaethol Gwlad Groeg yng nghystadleuaeth cychwyn busnes fwyaf y wlad.
Mae Konstantinos wedi’i restru yn Forbes 30 dan 30 2024 Gwlad Groeg ac mae wedi cyrraedd Rownd Derfynol Byd-eang ar gyfer Gwobrau Cyn-fyfyrwyr Study UK ym maes busnes ac arloesi.
O ran rhoi rhywfaint o gyngor i’w hun yn ifanc, mae’n dweud ‘mwynhewch y daith’ – rhywbeth y gallen ni i gyd ei wneud ar hyd y ffordd!