Dechreuwch eich stori Caerdydd chi

“Mae symud i wlad newydd yn anodd. Mae cychwyn busnes newydd yn anodd. Os ydy’r bobl iawn yno i’ch helpu chi, mae’n gwneud bywyd yn llawer haws.”

Sagnik Basu (MA 2019)

Y Cyfryngau Digidol a Chymdeithas

“Symudais i America gyda $300 yn fy mhoced, ac roedd yn rhaid i fi ddechrau o’r newydd am yr eildro yn fy mywyd. Un o’r rhesymau mawr ces i lwyddiant yn hynny o beth oedd oherwydd fy mod i’n gwybod bod gen i wybodaeth a chefndir technegol oddi wrth Brifysgol Caerdydd.”
Ar ôl gorffen ei radd meistr yn 2018, symudodd Sagnik i’r Unol Daleithiau i ddilyn gyrfa yn y cyfryngau. Gyda dim ond $300 yn ei boced a dim cysylltiadau, cychwynnodd ar ei fywyd newydd – ac mae’n diolch i Brifysgol Caerdydd am roi’r hyder a’r wybodaeth iddo allu gwneud hynny.

Ymunodd â’r Daily Caller yn Washington DC fel Uwch Gynhyrchydd, lle enillodd wobrau am ei waith yn dogfennu gwaith anghyfreithlon gan gartelau mewn perthynas â mariwana. Cafodd ei gyfweliad gyda Llywodraethwr Florida Ron DeSantis sylw yn y Daily Mail, y papur newydd Saesneg ei iaith gyda’r nifer fwyaf o ddarllenwyr yn y byd.

Gyda’n gilydd, gallwn ni

baratoi’r genhedlaeth nesaf ar gyfer y byd go iawn

“Mae’n swnio fel ystrydeb, ond roeddwn i’n awyddus iawn i ddysgu gan bobl ddawnus. Athrawon Prifysgol Caerdydd oedd y rhain, a staff y JOMEC yn gyffredinol, a’r ffaith bod yr ysgol hon yn rhoi cymaint o bwyslais ar ymchwil, fyddai’n rhoi’r holl wybodaeth oedd angen arnaf i cyn camu i’r byd go iawn.”
Yn 2022 daeth yn Bennaeth y Cyfryngau Cymdeithasol ac Uwch Olygydd yn FOX Media lle mae’n datblygu sioeau newyddion a phodlediadau yn ymwneud â chwaraeon, diwylliant poblogaidd, a gwleidyddiaeth.

Mae’n credu mai’r hyn sy’n gwneud Caerdydd yn arbennig yw ei bod yn denu myfyrwyr o bob cwr o’r byd ac yn rhoi’r cyfleoedd iddyn nhw roi eu stamp ar bethau. Yn ôl Sagnik, does dim byd mwy pwerus na chael criw o bobl o gwmpas bwrdd nad ydyn nhw’n edrych yn debyg i’w gilydd, nad ydyn nhw’n siarad yr un iaith nac yn rhannu’r un profiadau, gan wneud y bwrdd hwnnw’n fwy ac yn well.

Mae’n anrhydedd i ni fod yn rhan o’r daith hon ac mae lle i Sagnik wrth ein bwrdd bob amser.

“Rwy’n credu bod angen pobl sy’n fwy talentog na chi wrth eich ochr chi drwy’r amser. Ac mae Caerdydd yn digwydd bod yn fan lle mae llawer o bobl amrywiol o bob cwr o’r byd yn dod at ei gilydd i adeiladu pethau.”
“Yr hyn sy’n gwneud Prifysgol Caerdydd yn arbennig yw’r ffaith ei fod yn ganolbwynt i bobl amrywiol sy’n gwneud pethau amrywiol. Yn y pen draw, mae hyn yn gwneud y brifysgol yn lle gwell bob dydd.”

Darllenwch fwy o straeon fel stori Sagnik

Gyda’n gilydd, gallwn ni

Shruti Tripathi Chopra (MA 2011)

Newyddiaduraeth Ryngwladol

Gyda’n gilydd, gallwn ni

Diksha Dwivedi (MA 2014)

Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Chyfathrebu

Gyda’n gilydd, gallwn ni

Konstantinos Kousouris (BSc 2021)

Rheoli Busnes

Shruti Tripathi Chopra (MA 2011)

Newyddiaduraeth Ryngwladol

Diksha Dwivedi (MA 2014)

Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Chyfathrebu

Konstantinos Kousouris (BSc 2021)

Rheoli Busnes