Dechreuwch eich stori Caerdydd chi

Gyda’n gilydd, gallwn ni
fynd i’r afael â thlodi a newyn byd-eang
“Nid breuddwydio’n unig yw’r dasg. Mae’n rhaid ichi freuddwydio a cherdded tuag at eich breuddwyd. Drwy gwrdd â phobl o wledydd gwahanol o bedwar ban y byd, rwy’n dysgu am ddiwylliannau newydd ac mae pobl yn dysgu oddi wrtho i. Ac o’m rhan innau, ac fel un rwy’n siŵr, pan fyddwn ni’n ymuno a dod at ein gilydd, gallwn gyflawni byd heb newyn. Dyma’r hyn rwy’n credu ynddo, a dyma sy’n fy sbarduno.”

Tidiane Bangoura (MA)

Cysylltiadau Cyhoeddus Rhyngwladol
Mae taith Tidiane o’i fan geni yng Ngweriniaeth Gini yng Ngorllewin Affrica i Gaerdydd yn adlewyrchu ymrwymiad dwfn i wneud gwahaniaeth ar raddfa fyd-eang. Daeth yma i ehangu ei wybodaeth a’i sgiliau cyfathrebu, gan ddewis cwrs gradd Meistr mewn Cysylltiadau Cyhoeddus Rhyngwladol i wneud hynny.

Mae’n gobeithio codi lleisiau’r rhai sydd mewn angen, gan ddefnyddio ei addysg i gryfhau ei waith ym maes cyfathrebu dyngarol. Ym maes Tidiane, mae mor bwysig gallu cysylltu â phobl o bob cwr o’r byd — ac yng Nghaerdydd mae wedi cael llwyfan gwych i gwrdd â phobl o gefndiroedd amrywiol, i ddysgu ganddyn nhw, ac i rannu ei brofiadau.

Mae dywediad yn ei famwlad: ‘Ni all bag gwag sefyll ar ei ben ei hun.’ I Tidiane, mae hyn yn golygu nad oes modd creu newid ystyrlon heb sylwedd a heb wybodaeth.

Mae Tidiane yn edrych ymlaen at ddechrau ei waith eto gyda Rhaglen Bwyd y Byd, lle bydd yn dod â dealltwriaeth a sgiliau newydd yn ôl i helpu i fynd i’r afael ag ansicrwydd bwyd. Mae’n credu bod modd dod â newyn i ben, gydag ymdrech ar y cyd – ac rydyn ni’n cytuno â hynny.

Darllenwch fwy o straeon fel stori Tidiane

Gyda’n gilydd, gallwn ni

Chloe Cox (BA)

Ieithoedd Modern
Gyda’n gilydd, gallwn ni

Palak Jain (MBA)

Gweinyddu Busnes
Gyda’n gilydd, gallwn ni

Joshua Tandy (BSc)

Gwyddorau Biofeddygol

Chloe Cox (BA)

Ieithoedd Modern

Palak Jain (MBA)

Gweinyddu Busnes

Joshua Tandy (BSc)

Gwyddorau Biofeddygol