Dechreuwch eich stori Caerdydd chi

Gyda’n gilydd, gallwn ni
greu cymdeithas gynaliadwy a chyflawni potensial bywyd dynol.
“Helo, Palak ydw i. Rwy’n dod o India. Des i i Brifysgol Caerdydd i astudio gradd Meistr mewn gweinyddu busnes. Pan fydd gen i rôl arwain, bydda i’n gwarantu fy mod yn fenyw ym maes cyllid sy’n siarad am arian, ond ar ben hynny am gynaliadwyedd. Gyda’n gilydd gallwn ni greu cymdeithas gynaliadwy a chyflawni potensial bywyd dynol.”
Palak Jain (MBA)
Gweinyddu Busnes
Mae gan Palak, ein myfyriwr Gweinyddu Busnes (MBA) o India, ddyheadau mawr. Mae hi’n gobeithio cyfrannu at adeiladu cymdeithas fwy cynaliadwy lle mae busnesau ac unigolion yn cydweithio. Mae hi’n teimlo bod gyda’n gilydd, gallwn ni gyflawni ein potensial dynol — ac rydyn ni’n edrych ymlaen at barhau i weithio gyda hi i’w helpu i gyflawni ei nod.

Dewisodd MBA oherwydd ei bod o’r farn mai dyma’r radd berffaith i’ch gosod ar wahân, gan eich helpu i ddatblygu sgiliau arwain ochr yn ochr â sgiliau rheoli a thasgau beirniadol eraill hefyd. Mae hyn, ynghyd â gwerth cyhoeddus Ysgol Busnes Prifysgol Caerdydd, yn creu sylfaen wych i Palak gamu i’r rôl arweinyddiaeth y mae’n ei gweld i’w hun yn y dyfodol.

Mae ei hastudiaethau yma wedi ei hannog i ailystyried cynaliadwyedd, sut mae’n cyflawni hyn yn bersonol ym mhopeth y mae’n ei wneud, ac ar raddfa fwy, sut y gall busnesau symud tuag at ei gyflawni hefyd. Mae hi eisiau arwain mewn ffordd sy’n cynnwys cynaliadwyedd yn rhan greiddiol o bob agwedd ar fusnes, gan ddod â thwf a chyfrifoldeb cymdeithasol ynghyd. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld beth mae Palak yn ei wneud nesaf.

Darllenwch fwy o straeon fel stori Palak

Gyda’n gilydd, gallwn ni

Chloe Cox (BA)

Ieithoedd Modern

Gyda’n gilydd, gallwn ni

Tidiane Bangoura (MA)

Cysylltiadau Cyhoeddus Rhyngwladol

Gyda’n gilydd, gallwn ni

Joshua Tandy (BSc)

Gwyddorau Biofeddygol

Chloe Cox (BA)

Ieithoedd Modern

Tidiane Bangoura (MA)

Cysylltiadau Cyhoeddus Rhyngwladol

Joshua Tandy (BSc)

Gwyddorau Biofeddygol