Dechreuwch eich stori Caerdydd chi

Gyda’n gilydd, gallwn ni
fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd
“Helo, Chloe yw fy enw i. Rwy’n dod o Surrey, ac rwy’n astudio Ffrangeg a Sbaeneg. Rwy’n teimlo’n angerddol am newid yn yr hinsawdd oherwydd bod y byd yma’n hardd ac yn anhygoel, ac rwy’n gwybod y gallwn ni ymladd, gan arfer ein deallusrwydd a’n hangerdd, i achub y blaned ac achub ein hunain. Gyda’n gilydd gallwn ni frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd.”
Chloe Cox (BA)
Ieithoedd Modern
Mae Chloe yn astudio Ffrangeg a Sbaeneg ym Mhrifysgol Caerdydd, ac mae hi o’r farn bod ieithoedd yn rhoi’r gallu iddi gysylltu â phobl o bob cefndir. Mae hi wrth ei bodd gyda’r ffaith bod siarad iaith frodorol rhywun yn deimlad mor bersonol, a gwerth y cysylltiad sy’n dod yn sgil hynny.

Mae Chloe yn angerddol iawn dros newid yn yr hinsawdd, ac mae hi’n credu y gallwn ni, trwy gydweithio, frwydro yn erbyn effaith newid yn yr hinsawdd gan ddefnyddio ein deallusrwydd a’n hangerdd i achub ein planed.

Ei rhieni yw ei hysbrydoliaeth oherwydd eu bod nhw bob amser wedi ceisio gwneud y peth iawn ar gyfer yr amgylchedd. Mae hi’n credu y gallwn ni ddilyn yn ôl eu traed a gwneud gwahaniaeth — a hynny drwy gamau bach neu ymdrechion mwy.

Mae hi eisiau bod yn rhan o fudiad sy’n gwneud gwahaniaeth, ac rydyn ni o’r farn bod Chloe yn graddio o Brifysgol Caerdydd yn mynd i fod yn gam enfawr i’r cyfeiriad cywir iddi.

Darllenwch fwy o straeon fel stori Chloe

Gyda’n gilydd, gallwn ni

Tidiane Bangoura (MA)

Cysylltiadau Cyhoeddus Rhyngwladol

Gyda’n gilydd, gallwn ni

Palak Jain (MBA)

Gweinyddu Busnes

Gyda’n gilydd, gallwn ni

Joshua Tandy (BSc)

Gwyddorau Biofeddygol

Tidiane Bangoura (MA)

Cysylltiadau Cyhoeddus Rhyngwladol

Palak Jain (MBA)

Gweinyddu Busnes

Joshua Tandy (BSc)

Gwyddorau Biofeddygol