Dechreuwch eich stori Caerdydd chi

“Doeddwn i ddim yn gallu ystyried gwneud unrhyw beth arall yn y brifysgol heblaw am dreulio mwy o amser yn creu ac yn dysgu am gerddoriaeth.”

Ceri Jones (BMus 2003)

Cerddoriaeth

“Rwy’n dod o gyrion Llundain, felly’r rheswm wnes i benderfynu dod i Gaerdydd oedd y ffaith fy mod i wrth fy modd gyda’r syniad bod Caerdydd yn brifddinas. Roedd fy rhieni’n Gymry, felly roeddwn i’n hoff iawn o’r syniad o fyw yng Nghymru am y tro cyntaf, lle byddai pawb yn gallu ynganu fy enw’n gywir, sy’n wych.”
Mae Ceri o’r farn bod cymunedau cryf yn cael eu creu pan fyddwn ni’n cydweithio — a dechreuodd adeiladu ei chymuned wrth astudio Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.

Ar ôl symud o yrfa lwyddiannus a barodd ddeng mlynedd yn y byd rheoli cerddorfaol i fod yn addysgwr ar fwyd, awdur bwyd a chogydd, mae Ceri wedi ennill cyfres o lwyddiannau, gan gynnwys cyhoeddi llyfr coginio gyda Pavilion/Harper Collins, ac addysgu ar gannoedd o ddosbarthiadau coginio, gan ysbrydoli pobl o bob oed i goginio gyda’r cynhwysion sylfaenol.

Gyda’n gilydd, gallwn ni

adeiladu cymunedau cryf
Mae ei dosbarthiadau yn y Garden Museum yn Llundain, lle mae’n gweithio’n rhan-amser ar hyn o bryd yn addysgwr ar fwyd, yn canolbwyntio ar fwyd sy’n seiliedig ar blanhigion i blant, teuluoedd a’r gymuned leol. Mae ei dosbarthiadau wedi cynnwys nifer o brosiectau a oedd wedi’u rhagnodi’n gymdeithasol, lle mae coginio gyda’i gilydd wedi cael effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl y rheiny a gymerodd ran.

Mae Ceri yn ein haddysgu bod bwyd yn ffordd wych o ddod â phobl at ei gilydd, a dysgodd hi goginio yng Nghaerdydd tra’n rhannu tŷ gyda phedair merch arall sy’n dal i fod yn ffrindiau agos iddi hyd heddiw.

“Pe bawn i’n gallu rhoi cyngor i fy hun yn iau, byddwn i’n dweud bydd yn hyderus a chred ynot ti dy hun.”
“Fe wnaeth fy nghyfnod yng Nghaerdydd ddylanwadu arnaf i mewn sawl ffordd. Rwy’n credu bod peidio â byw gartref am y tro cyntaf wedi gadael i fi fod yn fi fy hun. Dyma le dysgais i sut i goginio!”

Darllenwch fwy o straeon fel stori Ceri

Gyda’n gilydd, gallwn ni

Shruti Tripathi Chopra (MA 2011)

Newyddiaduraeth Ryngwladol

Gyda’n gilydd, gallwn ni

Diksha Dwivedi (MA 2014)

Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Chyfathrebu

Gyda’n gilydd, gallwn ni

Konstantinos Kousouris (BSc 2021)

Rheoli Busnes

Shruti Tripathi Chopra (MA 2011)

Newyddiaduraeth Ryngwladol

Diksha Dwivedi (MA 2014)

Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Chyfathrebu

Konstantinos Kousouris (BSc 2021)

Rheoli Busnes