Dechreuwch eich stori Caerdydd chi

“Dw i’n teimlo ein bod ni i gyd yn rhannu cyfrifoldeb tuag at ein gilydd a’n cymuned, yn y brifysgol a thu hwnt.”

Dr Sarju Patel

Uwch Ddarlithydd, Meddygaeth

Sut mae eich cyfnod yn y brifysgol wedi’ch siapio chi fel addysgwr?

Mae Caerdydd wedi bod yn sbardun twf i fi fel addysgwr. Dw i wedi dod i ddeall mai fy rôl i yw creu amgylcheddau cynhwysol a chefnogol, lle mae myfyrwyr yn teimlo bod croeso iddyn nhw a’u bod yn gallu bod yn nhw’u hunain. Mae cefnogaeth y brifysgol ar gyfer dulliau addysgu arloesol, a’n hymrwymiad i osod y myfyriwr yn ganolog i’r dysgu, wedi fy ngalluogi i ddatblygu a mireinio fy ymagwedd tuag at addysg feddygol — dw i wedi dysgu mai’r hyn sydd bwysicaf yw’r hyn sy’n cael ei ddeall, nid faint galla i ei gyflwyno. Mae gen i gydweithwyr anhygoel, a dw i wedi dysgu cymaint ganddyn nhw. Dw i’n gobeithio eu bod nhw’n teimlo’r un ffordd tuag ata i.

Pam ydych chi’n hoff o fod yn rhan o’r gymuned yng Nghaerdydd?

Dw i wedi cael y fraint o weithio gyda chymaint o gydweithwyr ysbrydoledig, sy’n ymgorffori cyfuniad unigryw Prifysgol Caerdydd o drylwyredd academaidd ac ysbryd cymunedol. Dw i’n teimlo ein bod ni i gyd yn rhannu cyfrifoldeb tuag at ein gilydd a’n cymuned, yn y brifysgol a thu hwnt. Mae ein myfyrwyr yn awyddus i gymryd rhan mewn prosiectau sy’n mynd ymhell tu hwnt i’w hymrwymiadau addysg feddygol. Mae’n bleser gweithio gyda nhw a dysgu ganddyn nhw. Dw i’n credu bod y gwaith rydyn ni’n ei wneud yn gwella iechyd cymunedau difreintiedig ac yn agor drysau i wahanol lwybrau a gyrfaoedd i’n myfyrwyr, a thrwy wneud hynny, yn newid bywydau.

Gyda’n gilydd, gallwn
drawsnewid addysg i wella cymdeithas

Beth sy’n gyrru eich angerdd am addysg feddygol?

Fel Uwch Ddarlithydd, fy angerdd yw siapio’r genhedlaeth nesaf o weithwyr meddygol. Dw i’n angerddol am eu helpu nhw i ddatblygu, nid yn unig fel clinigwyr, ond fel pobl sy’n deall sut i feddwl yn feirniadol, cydymdeimlo’n ddwfn ac ymgysylltu’n ystyrlon â’r byd o’u cwmpas. Mae meddygaeth yn ymwneud cymaint â chysylltiad dynol ag y mae â gwyddoniaeth, a dw i’n gobeithio helpu i siapio ein myfyrwyr yn ymarferwyr meddygol sy’n deall sut mae braint ac anfantais yn effeithio ar iechyd a lles. Bydd hyn yn cael effaith sylweddol wrth fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd, ac anghydraddoldebau ar raddfa ehangach. Yn fwy eang, mae bod yn addysgwr yn fy helpu i fyfyrio’n fwy dwfn, a dod yn berson gwell.

Beth yw eich barn ar werth gweithio ar y cyd ym maes addysg feddygol?

Dyna’r unig ffordd. Rydyn ni i gyd yn gweld y byd o’n lens croestoriadol ni, boed hynny’n hil, rhywedd neu gyfeiriadedd rhywiol. Drwy weithio ar y cyd, gallwn ni sicrhau ein bod ni’n gwneud y penderfyniadau gorau, a’r rhai mwyaf cynhwysol, ac yn modelu’r ymddygiadau rydyn ni’n eu disgwyl gan ein myfyrwyr — sef meddygon y dyfodol. Yng Nghaerdydd, mae arbenigedd cyfunol, amlddisgyblaethol ac amrywiol ein staff yn helpu myfyrwyr i ddatblygu arferion gweithio cynhwysol, sydd ond yn gallu bod o fudd i gleifion, eu cyfoedion, eu darpar gydweithwyr a’r gymuned ehangach.

Beth yw eich gweledigaeth ar gyfer dyfodol addysg feddygol?

Dw i’n rhagweld dyfodol lle mae addysg feddygol yn fwy integredig, cynhwysol ac ymatebol i anghenion cymdeithas. Mae angen i ni geisio cofleidio technolegau uwch fel realiti rhithwir (VR) a deallusrwydd artiffisial (AI) a theclynnau efelychu i greu profiadau trochol. Mae hyn yn galluogi myfyrwyr i ymarfer sgiliau a gweithdrefnau clinigol mewn amgylcheddau di-risg, gan roi cyfleoedd i feistroli technegau cyn profi senarios bywyd go iawn.

Y tu hwnt i ddatblygu ein dealltwriaeth o feddygaeth, mae angen i ni sicrhau bod ein myfyrwyr yn barod i ymdrin ag agweddau cymdeithasol maes iechyd. Dw i’n credu drwy gofleidio amrywiaeth a’i hintegreiddio ym mhob agwedd ar ein cwricwlwm, gallwn hyfforddi meddygon sydd nid yn unig yn iachawyr ond sydd hefyd yn eiriolwyr dros gyfiawnder a thegwch mewn gofal iechyd.

Beth ydych chi’n credu ‘Gyda’n gilydd, gallwn…’?

Gyda’n gilydd, gallwn drawsnewid addysg feddygol i wasanaethu anghenion ein cymdeithas amrywiol yn well. Drwy weithio ar y cyd, gallwn greu amgylchedd dysgu cynhwysol lle mae pob myfyriwr yn ffynnu, yn datblygu’r sgiliau angenrheidiol i ddod yn ddarparwyr gofal iechyd tosturiol a chymwys, a meithrin dealltwriaeth ddyfnach o ofal cleifion a moeseg feddygol.

“By working collectively, we can ensure we make the best, most inclusive decisions and role model the behaviours we expect of our students — the medics of the future.”
“Drwy weithio ar y cyd, gallwn ni sicrhau ein bod ni’n gwneud y penderfyniadau gorau, a’r rhai mwyaf cynhwysol, ac yn modelu’r ymddygiadau rydyn ni’n eu disgwyl gan ein myfyrwyr — sef meddygon y dyfodol.”

Darllenwch fwy o straeon fel stori Dr Patel

Mae ein graddedigion yn unfarn unllais ar y weledigaeth at y dyfodol. O harneisio ein sgiliau, ein dysg a’n safbwyntiau amrywiol, gallwn greu newid cadarnhaol, arloesi a chreu byd gwell i genedlaethau’r dyfodol. Mae graddedigion 2024 yn dweud eu dweud wrthon ni.
Gyda’n gilydd, gallwn

ymlafnio i sicrhau bod pawb yn llwyddo

Adam Searle (BSc)

Rheoli Busnes

Gyda’n gilydd, gallwn

sicrhau bod mathemateg yn fwy hygyrch i fenywod

Erin Cavan (BSc)

Mathemateg

Gyda’n gilydd, gallwn

newid y byd drwy ffiseg

Kavetha Karunaseelan (BSc)

Ffiseg

Adam Searle (BSc)

Rheoli Busnes

Erin Cavan (BSc)

Mathemateg

Kavetha Karunaseelan (BSc)

Ffiseg