Dechreuwch eich stori Caerdydd chi

“Mae Prifysgol Caerdydd yn arbennig oherwydd y ddinas. Mae wedi’i gynllunio mewn ffordd mor braf fel bod y campws ar wasgar yng nghanol y ddinas, ac mae’n lle bach. Felly, mae pawb gyda’i gilydd ac mae’n ddinas ddiogel a braf iawn.”
Konstantinos Kousouris (BSc 2021)
Rheoli Busnes
“Y peth pwysicaf wnes i ei ddysgu o astudio yng Nghaerdydd oedd meddwl yn feirniadol. Roeddwn i’n hoffi sut y cafodd y cyrsiau eu llunio, mewn ffordd nad oedd yr hyn roeddech chi’n ei ddysgu byth yn ddigon – roedd angen i chi brosesu’r math hwn o ddata a’i wneud yn wybodaeth.”
Yn ôl Konstantinos, y peth pwysicaf iddo ei ddysgu o’i gyfnod yng Nghaerdydd oedd meddwl yn feirniadol. Mae’n deg dweud bod y sgil hon wedi gosod Konstantinos ar y trywydd iawn – oherwydd mae ei yrfa fel entrepreneur yn sicr wedi creu argraff.

Konstantinos yw cyd-sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Blink. Straen ariannol yw un o’r pryderon mwyaf ymhlith Gen Z, ac mae cwmni newydd technoleg ariannol Blink yn helpu oedolion ifanc i reoli eu harian a theimlo eu bod yn cymryd rheolaeth.

Gyda’n gilydd, gallwn ni
gefnogi taith pawb at lwyddiant

“Fy hoff le yng Nghaerdydd oedd Undeb y Myfyrwyr. Mae gen i lawer o atgofion hyfryd o’r lle.”

Enillodd Blink ei fuddsoddiad cyntaf gan Startupbootcamp, un o’r cronfeydd mwyaf yn Ewrop, ac ers hynny mae wedi ennill gwobr gan Fanc Cenedlaethol Gwlad Groeg yng nghystadleuaeth cychwyn busnes fwyaf y wlad.

Mae Konstantinos wedi’i restru yn Forbes 30 dan 30 2024 Gwlad Groeg ac mae wedi cyrraedd Rownd Derfynol Byd-eang ar gyfer Gwobrau Cyn-fyfyrwyr Study UK ym maes busnes ac arloesi.

O ran rhoi rhywfaint o gyngor i’w hun yn ifanc, mae’n dweud ‘mwynhewch y daith’ – rhywbeth y gallen ni i gyd ei wneud ar hyd y ffordd!

“Pe bawn i’n gallu rhoi cyngor i fy hun yn iau, fydden i’n dweud, mwynha dy hun.”
“Fe wnaeth bod yn fyfyriwr rhyngwladol fy helpu i feddwl mewn ffordd wahanol, cymryd cam yn ôl a gweld y darlun ehangach. Mae gan bobl o wahanol wledydd werthoedd gwahanol”

Barod i ddechrau ar eich stori Caerdydd?

Dewch o hyd i’ch cwrs, mae eich stori Caerdydd yn dechrau yma

Cofrestrwch am fwy o wybodaeth

Sgwrsio â’n myfyrwyr presennol

Darllenwch fwy o straeon fel stori Konstantinos

Gyda’n gilydd, gallwn

Shruti Tripathi Chopra (MA 2011)

Newyddiaduraeth Ryngwladol

Gyda’n gilydd, gallwn
Diksha Dwivedi (MA 2014)
Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Chyfathrebu
Gyda’n gilydd, gallwn
Sagnik Basu (MA 2019)
Y Cyfryngau Digidol a Chymdeithas

Prifysgol y Flwyddyn Yng Nghymru 2026

Mae Prifysgol Caerdydd wedi cael ei henwi’n brifysgol rhif un yng Nghymru yn yr Good University Guide 2026 gan The Times a’r Sunday Times. Rydym yn falch o gael ein cydnabod am ddarparu profiad addysgol rhagorol i’n myfyrwyr i ddilyn graddau sy’n darparu effaith a newid byd go iawn. Gyda’n gilydd, gallwn wneud i bethau gwych ddigwydd.