Dechreuwch eich stori Caerdydd chi

“Yn fy marn i, yr hyn sy’n gwneud Prifysgol Caerdydd yn arbennig yw’r amrywiaeth a’r diwylliannau sy’n dod ynghyd ynddi.”

Diksha Dwivedi (MA 2014)

Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Chyfathrebu
“Roedd dod yma am y tro cyntaf yn gam i’r gwyll. A bod yn onest, rwy’n teimlo ‘mod i’n berson hyderus heddiw yn bennaf oherwydd ‘mod i wedi astudio yng Nghaerdydd.”
Yn ôl Diksha, hyd yn oed mewn byd lle mae deallusrwydd artiffisial yn chwarae rhan fwyfwy amlwg, does dim byd mwy pwerus na phobl yn adrodd straeon – ac yn y bôn, pobl yn ceisio’r gwirionedd ac adrodd eu straeon a fydd wir yn ein helpu i newid meddylfryd eraill a gwneud cynnydd.

A hithau’n sylfaenydd gwefan newyddiaduraeth sy’n cael ei phweru gan bobl AkkarBakkar.com a’r asiantaeth frandio YOSO Media, mae Dishka wir yn arbenigwraig yn ei maes, ac mae hi wedi llywio strategaethau cynnwys arloesol a thechnegau adrodd straeon pwerus, gan gyrraedd miliynau yn fyd-eang.

Gyda’n gilydd, gallwn ni

newid meddyliau drwy adrodd straeon

Mae Diksha hefyd wedi ysgrifennu sawl llyfr ac yn ddiweddar mae wedi dod yn Gadeirydd Cymdeithas Cyn-fyfyrwyr India Prifysgol Caerdydd, gan gyd-arwain ein Cangen yn New Delhi. Mae hi’n dweud mai Prifysgol Caerdydd sy’n gyfrifol am ei haddysgu i geisio’r gwir, a chofio mai’r gwir yw sylfaen newyddiaduraeth bob amser.

Cenhadaeth eithaf Diksha yw rhoi’r gallu i sylfaenwyr ac entrepreneuriaid fynegi eu straeon, cysylltu â’u cynulleidfaoedd, ac adeiladu brandiau personol sy’n para.

“Fy hoff le yng Nghaerdydd yw bar Undeb y Myfyrwyr. Dyna lle ges i fy niod gyntaf o gwrw, dwi’n meddwl!”
“Chwilio am y gwirionedd yw nod newyddiaduraeth, rhywbeth sydd wedi mynd yn angof i nifer erbyn heddiw, ond dwi’n cofio hyn diolch i Gaerdydd.”

Darllenwch fwy o straeon fel stori Diksha

Gyda’n gilydd, gallwn ni

Shruti Tripathi Chopra (MA 2011)

Newyddiaduraeth Ryngwladol

Gyda’n gilydd, gallwn ni

Sagnik Basu (MA 2019)

Y Cyfryngau Digidol a Chymdeithas

Gyda’n gilydd, gallwn ni

Konstantinos Kousouris (BSc 2021)

Rheoli Busnes

Shruti Tripathi Chopra (MA 2011)

Newyddiaduraeth Ryngwladol

Sagnik Basu (MA 2019)

Y Cyfryngau Digidol a Chymdeithas

Konstantinos Kousouris (BSc 2021)

Rheoli Busnes