Gwella dy sgiliau STEM
Archwiliwch eich dewisiadau yn Prifysgol Caerdydd
Dyma gyfle i chi ennill y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i lwyddo mewn byd sy’n newid yn gyflym.
Oes gennych chi ddiddordeb mewn archwilio ffiniau gwyddoniaeth, dod o hyd i atebion peirianneg cynaliadwy, datblygu technoleg neu gymhwyso mathemateg i ddatrys problemau’r byd go iawn?
Mae ein graddau israddedig STEM sy’n canolbwyntio ar y dyfodol wedi’u cynllunio i’ch herio a’ch ysbrydoli.
Dewch o hyd i’ch gradd
Pam astudio gyda ni?
#1
Prifysgol y Flwyddyn yng Nghymru
3ydd
Undeb Myfyrwyr gorau yn y DU
1af
Dinas fwyaf cyfeillgar yn y DU
Y 12 uchaf
yn y DU o ran cyflogadwyedd graddedigion
Arweiniad Prifysgolion Da The Times and Sunday Times 2026 | Gwobrau Dewis Myfyrwyr Whatuni 2026 | Gwobrau Dewis Darllenwyr Condé Nast Traveller | Times Higher Education
Gwybodaeth am fywyd myfyrwyr STEM
Rhagor o wybodaeth
Rhagor o wybodaeth
Felly, beth am ymuno â ni?
Gloywi eich sgiliau STEM a gadael eich marc ar y byd.
Gan fod gennyn ni gyfleusterau o’r radd flaenaf a thîm addysgu byd-enwog, bydd gennych chi bopeth y bydd arnoch chi ei angen i ffynnu ym Mhrifysgol Caerdydd a thu hwnt. Yn fwy na hynny, byddwn ni’n eich cefnogi bob cam o’r ffordd.
Gyda’n gilydd, gallwn ni greu dyfodol mwy disglair a chynaliadwy.





