Penwythnos yr Aduniad Mawr

17 – 19 Gorffennaf 2026

Mae Undeb Myfyrwyr Caerdydd a Phrifysgol Caerdydd yn falch o gyflwyno Penwythnos yr Aduniad Mawr – y digwyddiad cyntaf o’i fath i gyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd!

Dim ots a wnaethoch chi raddio’r llynedd neu ddegawdau’n ôl, dyma gyfle i ailgysylltu â ffrindiau, ailymweld â’ch hoff leoedd yng Nghaerdydd a chreu atgofion newydd.

Tocynnau ar werth nawr

Mae tocynnau ar gyfer digwyddiadau nos Wener a nos Sadwrn yn £13 (a ffioedd yn ychwanegol), a gallwch chi hefyd archebu tocynnau ar gyfer amrywiaeth o ddigwyddiadau a gweithgareddau ymylol sy’n rhad ac am ddim. Peidiwch ag oedi – rydyn ni’n rhagweld y bydd llawer o ddiddordeb ac y bydd pob tocyn yn cael ei werthu!

Penwythnos i’w gofio

Dewch i fwynhau’r awyrgylch arbennig yn rhan o noson fythgofiadwy yn Undeb y Myfyrwyr, gan gynnwys manteisio ar gyfle unigryw i ymweld â’r campws am un penwythnos yn unig. Dyma ddigwyddiad i holl gyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd a’r sefydliadau a’i rhagflaenodd. Mae croeso i westeion nad ydyn nhw’n gyn-fyfyrwyr hefyd.

17 – 19 Gorffennaf 2026

Amserlen y penwythnos

17 Gorffennaf 2026

Gŵyl nos Wener

Ymunwch â ni ar y campws o 6pm ar gyfer parti stryd i gyn-fyfyrwyr! Dechreuwch y penwythnos mewn steil drwy dreulio noson hafaidd yn y ddinas rydych chi’n ei charu. Mwynhewch ddiod i’ch croesawu, cerddoriaeth fyw, bwyd stryd a bariau.

Ar ôl 10pm, ewch i’r Taf i barhau â’r hwyl!

Lecture theatre
18 Gorffennaf 2026

Gweithgareddau dydd Sadwrn

Dewiswch y digwyddiadau ymylol yr hoffech chi fynd iddyn nhw fel ‘Ychwanegiadau’ (Add-Ons) ar ôl i chi ychwanegu tocynnau nos Wener/nos Sadwrn at eich archeb.
• Darlith wadd gyda’r arbenigwr bywyd gwyllt a’r darlledwr Dr Rhys Jones (BSc 1999, MPhil 2003, PhD 2010).

• Y Llymaid Cyntaf yn y Woody! Mwynhewch brynhawn Sadwrn hamddenol yn y Woodville yn gwrando ar glasuron indie’r 80au a’r 90au gyda’r DJ Chris Fidler (BA 1996).

• Dewch i hel atgofion drwy fynd ar daith o amgylch Undeb y Myfyrwyr, mynd ar daith Hanes Menywod a galw heibio’r adeiladau.

• Amrywiaeth o ddigwyddiadau ymylol a chyfarfodydd cymdeithasol dan arweiniad cyn-fyfyrwyr – Os ydych chi eisiau trefnu digwyddiad, cinio neu gyfarfod cymdeithasol ar gyfer eich cwrs, eich neuadd breswyl neu eich cymdeithas, rhowch wybod i ni a byddwn ni’n helpu i roi gwybod i bawb.

• Bydd amser rhydd i fynd yn ôl i hen leoedd cyfarwydd a gweld y ddinas.

• Ddydd Sadwrn a dydd Sul, bydd y Taf ar agor i gyn-fyfyrwyr a gwesteion am fwyd, diodydd, hwyl a gemau.

18 Gorffennaf 2026

Nos Sadwrn

Ni fyddai’n aduniad heb noson allan yn Undeb y Myfyrwyr.

Am un noson arbennig, rydyn ni’n dathlu’r nosweithiau clybio yn Undeb y Myfyrwyr a ddiffiniodd genedlaethau, naill ai yn Solus, The Hanging Gardens, Terminal 396 neu’r Plas, sef enw’r lleoliad heddiw. Ydych chi’n hel atgofion am ddydd Llun yn Fun Factory neu ddydd Mercher yn Rubber Duck? Ydych chi erioed wedi colli, neu’n mynd i golli, YOLO?

Dewch i ail-fyw eich cyfnod yn lasfyfyriwr, ailgysylltu â hen ffrindiau a dawnsio drwy’r nos lle gwnaethoch chi greu cymaint o atgofion.

19 Gorffennaf 2026

Bore dydd Sul

Cyn ei throi hi am adref, meddyliwch am uchafbwyntiau’r penwythnos, hel atgofion a dweud ffarwel. Mwynhewch frecinio neu ginio yn un o’r lleoliadau sy’n cynnig gostyngiadau ar fwyd a diod yn ystod Penwythnos yr Aduniad Mawr, gan gynnwys Ramons, y Pen & Wig, Tafarn Blackweir, Caffi Metchy a’r Flora.

Llety

Mae Gwesty’r Angel yng nghanol y ddinas yn cynnig gostyngiad arbennig o 15% i gyn-fyfyrwyr Caerdydd ar archebion uniongyrchol. Fe gewch chi fanylion llawn ar sut i hawlio’r gostyngiad yn eich e-bost cadarnhau. Fel arall, ewch i croesocaerdydd.com i weld opsiynau eraill o ran llety.

Ymunwch â’r sgwrs

Cysylltwch â chyn-fyfyrwyr eraill cyn y digwyddiad a defnyddiwch ein cymunedau ar-lein i roi gwybod eich bod yn dod.

Mewn cysylltiad â