Penwythnos yr Aduniad Mawr
Mewn cydweithrediad ag Undeb Myfyrwyr Caerdydd, rydyn ni’n cynllunio Penwythnos yr Aduniad Mawr cyntaf erioed ar gyfer cyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Ond mae angen eich help chi i sicrhau bod y digwyddiad hwn yn llwyddiant ysgubol!

Gofynnon ni – ateboch chi!
Fe wnaeth tua 1,000 o gyn-fyfyrwyr lenwi ein harolwg. Roedd dros hanner ohonoch chi, 57% i fod yn fanwl gywir, eisiau dod yn ôl ym mis Gorffennaf, felly rydyn ni wedi pennu’r dyddiad! Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at eich croesawu chi i Benwythnos yr Aduniad Mawr ddydd Gwener 17 – dydd Sul 19 Gorffennaf 2026! Bydd hyn yn syth ar ôl wythnos y seremonïau graddio a bydd y ddinas yn brysur, felly dewch yn ôl i gwrdd â phawb ac i barhau i ddathlu!
Nodwch y dyddiad:
17 -19 Gorffennaf 2026
Nodwch hwn ar eich ffôn, yn eich dyddiadur, neu ar galendr y gegin! Cofiwch ei nodi yn rhywle!
Dewch i ail-fyw’r amseroedd da!
Ymhlith y gweithgareddau mwyaf poblogaidd a bleidleisiwyd drostyn nhw oedd derbyniad diodydd, noson clwb yn Undeb y Myfyrwyr, barbeciw, teithiau o amgylch yr adrannau a diod yn nhafarn Y Taf!

Helpu i lunio traddodiad newydd Caerdydd
Mae angen gwirfoddolwyr arnon ni i’n helpu i drefnu’r digwyddiad enfawr hwn ac i roi’r gair ar led. Oes gennych chi ddiddordeb? Cofrestrwch i fod yn Gapten Dosbarth Penwythnos yr Aduniad Mawr!
Cofrestrwch nawr i fod y cyntaf i glywed pan fydd tocynnau’n mynd ar werth.
Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n clywed pryd mae tocynnau’n mynd ar werth. Cofrestrwch i gael y newyddion i gyn-fyfyrwyr drwy e-bost.
Mewn cydweithrediad ag
