Mae pethau rhyfeddol yn digwydd yma
Cymerwch y cam nesaf i chi ac i weddill y byd
Arbedwch £3,000 ar eich ffioedd dysgu gydag un o’n hysgoloriaethau gradd meistr. Mae’r ysgoloriaethau cystadleuol hyn ar gael ar gyfer astudiaethau amser llawn a rhan-amser.
7 Ebrill a 7 Gorffennaf yw’r dyddiadau cau ar gyfer ceisiadau 2025.

Mae ein digwyddiadau a’n diwrnodau agored yn ffordd wych o ddarganfod mwy am astudiaethau ôl-raddedig yng Nghaerdydd.
Ymunwch â ni ar y campws mewn diwrnod agored neu dewch i un o’n gweminarau i siarad â staff ac i gael atebion i’ch cwestiynau.
Yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i wneud cais am gwrs ôl-raddedig a addysgir neu gwrs ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd, gyda’n canllaw cam wrth gam.

Yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i wneud cais am gwrs ôl-raddedig a addysgir neu gwrs ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd, gyda’n canllaw cam wrth gam.
Pam astudio ym Mhrifysgol Caerdydd?

Rhagolygon gyrfaol rhagorol
Ble bynnag rydych chi ar eich taith yrfaol, gall ein tîm o gynghorwyr gyrfaoedd proffesiynol eich helpu i gyflawni eich nodau drwy roi arweiniad personol i chi ar bopeth, boed datblygu sgiliau a chwilio am swyddi neu baratoi am gyfweliadau a chymorth ymarferol.
Ymchwil flaengar
Ymhlith yr 20 prifysgol orau yn y DU am ansawdd cyffredinol ein hymchwil. Cadarnhawyd bod 90% o’n hymchwil gyda’r gorau yn y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021. Rydym hefyd yn un o brifysgolion blaenllaw Grŵp Russell sy’n uchel iawn ei fri.

Bywyd myfyrwyr
Mae nifer o resymau dros garu Caerdydd – yn enwedig i fyfyrwyr. Mae’n aml ar y rhestr o’r dinasoedd prifysgol mwyaf fforddiadwy yn y DU, a daeth yn ail ym Mynegai Costau Byw Myfyrwyr 2023 Natwest. Ond nid dyna’r cyfan. Mae Undeb y Myfyrwyr, sy’n gartref i fwy na 200 o gymdeithasau myfyrwyr a 65 o glybiau chwaraeon, yn cynrychioli ein myfyrwyr ac yn darparu amrywiaeth o weithgareddau, gwasanaethau a chyfleusterau amrywiol a chynhwysol sy’n cyfoethogi bywyd y myfyrwyr.
Cymorth rhagorol i fyfyrwyr
Rydym am eich helpu i wneud y gorau o’ch profiad fel myfyriwr ôl-raddedig drwy wneud yn siŵr eich bod yn gallu cael gafael ar unrhyw gefnogaeth ychwanegol fydd ei hangen arnoch. O gyngor ariannol a chwnsela cyfrinachol i wasanaethau anabledd a gofal rhagorol i blant, mae ein gwasanaethau cefnogol yma i’ch cefnogi bob cam o’r ffordd.

Cyfleusterau o’r radd flaenaf
Mae ein cyfleusterau TG modern yn golygu ei fod yn hawdd i chi gyrchu amrywiaeth o ganllawiau, offer ac adnoddau i gefnogi eich astudiaethau a’ch ymchwil, ac mae ein llyfrgelloedd cyfforddus yn cynnig ystod eang o adnoddau gwybodaeth mewn print ac ar-lein. Mae’r oriau agor estynedig – gan gynnwys gyda’r hwyr, ar benwythnosau a mynediad 27 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos yn ein dau brif safle yn eich galluogi chi i weithio ar yr adegau sydd orau i chi.