Gwneud cais nawr am astudiaeth ôl-raddedig

Mae amser i ymuno â ni o hyd. Dewiswch o blith mwy na 200 o raglenni a dewch o hyd i’ch cwrs meistr perffaith ar gyfer mis Medi 2026.

Gostyngiad o 20% i gyn-fyfyrwyr

Gall graddedigion Prifysgol Caerdydd gael gostyngiad o 20% mewn ffioedd dysgu ar raddau Meistr.

Mae’r gostyngiad yn berthnasol i bob gradd Meistr amser llawn a rhan-amser sy’n cael eu haddysgu ar y campws.

Gwneud cais – Canllaw

Yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i wneud cais am gwrs ôl-raddedig a addysgir neu gwrs ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd, gyda’n canllaw cam wrth gam, gan gynnwys beth i’w ddisgwyl ar ôl i chi gyflwyno eich cais.
Postgraduate open day

Pam astudio ym Mhrifysgol Caerdydd?

Students having a hot drink

Rhagolygon gyrfaol rhagorol

Ble bynnag rydych chi ar eich taith yrfaol, gall ein tîm o gynghorwyr gyrfaoedd proffesiynol eich helpu i gyflawni eich nodau drwy roi arweiniad personol i chi ar bopeth, boed datblygu sgiliau a chwilio am swyddi neu baratoi am gyfweliadau a chymorth ymarferol.

Ymchwil flaengar

Ymhlith yr 20 prifysgol orau yn y DU am ansawdd cyffredinol ein hymchwil. Cadarnhawyd bod 90% o’n hymchwil gyda’r gorau yn y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021. Rydym hefyd yn un o brifysgolion blaenllaw Grŵp Russell sy’n uchel iawn ei fri.

Student working on a laptop

Students talking

Bywyd myfyrwyr

Mae nifer o resymau dros garu Caerdydd – yn enwedig i fyfyrwyr. Mae’n aml ar y rhestr o’r dinasoedd prifysgol mwyaf fforddiadwy yn y DU, a daeth yn drydydd ym Mynegai Costau Byw Myfyrwyr 2025 NatWest. Ond nid dyna’r cyfan. Mae Undeb y Myfyrwyr, sy’n gartref i fwy na 200 o gymdeithasau myfyrwyr a 65 o glybiau chwaraeon, yn cynrychioli ein myfyrwyr ac yn darparu amrywiaeth o weithgareddau, gwasanaethau a chyfleusterau amrywiol a chynhwysol sy’n cyfoethogi bywyd y myfyrwyr.

Cymorth rhagorol i fyfyrwyr

Rydym am eich helpu i wneud y gorau o’ch profiad fel myfyriwr ôl-raddedig drwy wneud yn siŵr eich bod yn gallu cael gafael ar unrhyw gefnogaeth ychwanegol fydd ei hangen arnoch. O gyngor ariannol a chwnsela cyfrinachol i wasanaethau anabledd a gofal rhagorol i blant, mae ein gwasanaethau cefnogol yma i’ch cefnogi bob cam o’r ffordd.

Student support

Cyfleusterau o’r radd flaenaf

Mae ein cyfleusterau TG modern yn golygu ei fod yn hawdd i chi gyrchu amrywiaeth o ganllawiau, offer ac adnoddau i gefnogi eich astudiaethau a’ch ymchwil, ac mae ein llyfrgelloedd cyfforddus yn cynnig ystod eang o adnoddau gwybodaeth mewn print ac ar-lein. Mae’r oriau agor estynedig – gan gynnwys gyda’r hwyr, ar benwythnosau a mynediad 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos yn ein dau brif safle yn eich galluogi chi i weithio ar yr adegau sydd orau i chi.

Oes gennych chi gwestiwn?

Oes gennych chi gwestiwn?