Cyfleoedd ôl-raddedig yn y Biowyddorau
O gadwraeth amgylcheddol, i driniaethau ar gyfer canser – symudwch eich gyrfa yn ei blaen drwy wneud cwrs ôl-radd ym Mhrifysgol Caerdydd.
Os yw eich cefndir ym maes bioleg, y biowyddorau neu’r gwyddorau bywyd, mae cymaint o yrfaoedd cyffrous ar gael i chi, a thrwy ddefnyddio’r sgiliau, gwybodaeth a phrofiad cywir, gallwch fynd i’r afael â heriau byd-eang mwyaf ein hoes.
P’un a ydych yn chwilio am gymhwyster yn y diwydiant rydych ynddo ar hyn o bryd, neu am ddatblygu eich sgiliau a’ch gwybodaeth ymhellach i allu dilyn gyrfa benodol, gall gwneud cwrs ôl-radd ym Mhrifysgol Caerdydd eich rhoi ar ben ffordd. O astudio effaith newid yn yr hinsawdd ar gnydau, i ddatblygu triniaethau newydd ar gyfer canser, neu ddeall sut i lanhau cefnforoedd llygredig y byd – mae gennym gwrs i chi!
Mae’r byd yn aros am wyddonydd fel chi. Felly, beth rydych chi’n aros amdano?
Pori drwy ein cyrsiau MSc
Ariannu eich gradd ôl-raddedig
Efallai y byddwch yn gymwys ar gyfer amrywiaeth o gyfleoedd ariannu i gefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd gan ddechrau yn 2022-23 – gan gynnwys ein Hysgoloriaethau Rhagoriaeth Meistr gwerth £3,000. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Sul 3 Gorffennaf.
Chwilio am fwy o wybodaeth am astudiaethau ôl-raddedig yng Nghaerdydd?
Dysgwch fwy am bywyd yng Nghaerdydd a sut i wneud cais ar ein tudalennau astudio ôl-raddedig.