Newid bywydau gyda gyrfa ym maes iechyd

Os ydych chi’n dechrau meddwl am eich gyrfa yn y dyfodol ac rydych chi’n angerddol dros helpu pobl, rydych chi wedi dod i’r lle iawn.

Yma gallwch ddysgu am amrywiaeth o yrfaoedd cyffrous, heriol, a phwysig ym myd gofal iechyd sy’n gallu gwella ansawdd bywyd cleifion yn sylweddol. Mae pob un yn cynnig llawer o gyfleoedd i wneud gwahaniaeth go iawn i iechyd a lles pobl mewn ffyrdd na fyddech erioed wedi’u dychmygu. 

Ydych chi wedi ystyried gyrfa ym maes iechyd?

Dental students

Byddwch yn Ddeintydd

Mae deintyddion (sydd hefyd yn cael eu galw’n llawfeddygon deintyddol) yn weithwyr proffesiynol hyfforddedig sy’n helpu i ofalu am y dannedd a’r geg. Mae eu gwaith yn ymwneud fwyfwy â gwarchod dannedd ac atal y deintgig rhag pydredd a heintiau.

Mae gan ddeintyddion lefel arbennig o wybodaeth am anatomeg ddynol a chlefydau’r geg am eu bod yn gweithio gyda chleifion o bob oedran – o blant i’r henoed – i atal a thrin clefydau deintyddol a chlefydau’r geg, cywiro diffygion deintyddol, a thrin anafiadau deintyddol ac anafiadau i’r wyneb. Maent hefyd yn helpu i roi diagnosis o faterion mwy difrifol, fel canser y geg. Mae’n bwysig i Ddeintyddion gael lefelau uchel o fedrusrwydd â’u dwylo a sgiliau clinigol i gyflawni gweithdrefnau llawfeddygol a deintyddol cymhleth.

Yn ogystal â meddu ar y sgiliau a’r hyder i roi diagnosis a thrin problemau a rhoi cyngor da i’r cyhoedd, maent yn arweinwyr tîm da gan eu bod yn arwain y tîm deintyddol ehangach sy’n cynnwys therapyddion deintyddol a hylenwyr.

Mae deintyddion yn debygol o weithio yn eich cymuned leol ond maent hefyd yn cael cyfle i weithio mewn amrywiaeth o feysydd megis; gofal deintyddol cyffredinol, gofal deintyddol cymunedol, iechyd deintyddol y cyhoedd, gofal deintyddol mewn ysbytai ac yn y lluoedd arfog. Mae rhai deintyddion yn canolbwyntio mwy ar fod o fudd i iechyd y cyhoedd a, thrwy waith labordy ac ymchwil, maent yn darganfod ffyrdd newydd o helpu i gadw dannedd a cegau’r cyhoedd yn iach.

Mae bod yn ddeintydd wir yn cynnig cyfleoedd i helpu pobl. Gall llenwad helpu i gael gwared ar boen; gall dannedd gosod helpu pobl i fwyta bwydydd a allai fod yn achosi trafferth iddynt; gall gwynnu dannedd neu orthodonteg helpu pobl i deimlo’n fwy hyderus. Mae hyn, yn ei dro, yn gwella ansawdd bywyd pobl.

Felly, os ydych chi’n dwli ar wyddoniaeth – yn enwedig anatomeg ddynol – ac yn mwynhau gallu datrys problemau a helpu pobl, gallai hon fod yr yrfa berffaith i chi!

100%
Llwyddodd 100% o’n graddedigion BDS Deintyddiaeth i ennill lleoliad Hyfforddiant Sylfaen Deintyddol yn 2019 (data HESA)
3 Uchaf
Yr unig Ysgol Deintyddiaeth yng Nghymru ac un o’r 3 uchaf ar gyfer deintyddiaeth yn y DU (The Complete University Guide 2020)
Ystafell efelychu gwerth £2.2 miliwn
Bydd ein hystafell efelychu fodern yn eich paratoi’n berffaith ar gyfer darparu gofal deintyddol i gleifion yn y clinigau modern

Rhagor o wybodaeth am astudio Deintyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd

Dysgwch fwy am wneud cais i astudio Deintyddiaeth neu Hylendid Deintyddol trwy lawrlwytho ein Pasbort i Ddeintyddiaeth sy’n llawn gwybodaeth ddefnyddiol.

Mae deintyddion (sydd hefyd yn cael eu galw’n llawfeddygon deintyddol) yn weithwyr proffesiynol hyfforddedig sy’n helpu i ofalu am ddannedd a cheg cleifion. Mae eu gwaith yn ymwneud fwyfwy â gwarchod dannedd ac atal y deintgig rhag pydredd a heintiau

Dental therapy students

Byddwch yn Therapydd deintyddol neu'n Hylenydd

Gwell atal na gwella, a dyna pam mae hyenwyr deintyddol yn chwarae rhan mor bwysig ym maes iechyd y geg.

O’i gymharu â rôl rdeintydd, y hylenydd deintyddol yw’r arbenigwr a fydd yn gwerthuso iechyd eich ceg ac yn rhoi triniaeth ataliol. Maent yn helpu plant ac oedolion i ofalu am eu dannedd a’u deintgig, ac weithiau’n gweithio gydag unigolion, ac weithiau gyda grwpiau o bobl.

Gall hylenydd deintyddol roi triniaethau, megis tynnu cen a sgleinio, a gwaith selio holltau ataliol i’r cyhoedd yn ogystal â hybu iechyd y geg. At hynny, mae therapyddion deintyddol yn gallu rhoi amrywiaeth o driniaethau adferol (llenwadau) i gleifion. Mae hefyd yn gallu tynnu dannedd cyntaf, ymgymryd â thriniaethau nerf a gosod coronau wedi’u rhaglunio ar ddannedd sydd wedi pydru’n wael mewn plant.

Mae hylenwyr deintyddol a therapyddion yn gweithio’n agos gydag aelodau eraill o’r tîm deintyddol gan y bydd y deintydd fel arfer yn cynghori hylenwyr deintyddol a therapyddion i helpu i lywio eu gwaith, ond erbyn hyn mae modd i hylenwyr a therapyddion sydd wedi cael hyfforddiant ychwanegol sefydlu eu practisau eu hunain neu weithio’n annibynnol.

I ymarfer fel hylenydd deintyddol a therapydd bydd angen i chi fod â diddordeb mewn anatomeg a ffisioleg a byddwch yn dysgu mwy am ddeintyddiaeth ataliol ac addysg iechyd deintyddol gyda gofal cleifion yn ganolog iddo.

Bwrsariaeth lawn gan y GIG
ar gael i fyfyrwyr BSc Therapi Deintyddol a Hylendid a myfyrwyr DipHE Hylendid Deintyddol
Profiad yn y byd go iawn
mae ein myfyrwyr yn treulio amser mewn cyfleusterau allgymorth lleol o’r ail flwyddyn ymlaen, ac yn datblygu sgiliau clinigol yn y byd go iawn
Ystafell efelychu gwerth £2.2 miliwn
Bydd ein hystafell efelychu fodern yn eich paratoi’n berffaith ar gyfer darparu gofal deintyddol i gleifion yn y clinigau modern

Rhagor o wybodaeth am astudio Deintyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd

Dysgwch fwy am wneud cais i astudio Deintyddiaeth neu Hylendid Deintyddol trwy lawrlwytho ein Pasbort i Ddeintyddiaeth sy’n llawn gwybodaeth ddefnyddiol.

Byddwch yn Therapydd deintyddol neu'n Hylenydd

Byddwch yn Therapydd deintyddol neu'n Hylenydd

Gwell atal na gwella, a dyna pam mae hyenwyr deintyddol yn chwarae rhan mor bwysig ym maes iechyd y geg.

O’i gymharu â rôl rdeintydd, y hylenydd deintyddol yw’r arbenigwr a fydd yn gwerthuso iechyd eich ceg ac yn rhoi triniaeth ataliol. Maent yn helpu plant ac oedolion i ofalu am eu dannedd a’u deintgig, ac weithiau’n gweithio gydag unigolion, ac weithiau gyda grwpiau o bobl.

Gall hylenydd deintyddol roi triniaethau, megis tynnu cen a sgleinio, a gwaith selio holltau ataliol i’r cyhoedd yn ogystal â hybu iechyd y geg. At hynny, mae therapyddion deintyddol yn gallu rhoi amrywiaeth o driniaethau adferol (llenwadau) i gleifion. Mae hefyd yn gallu tynnu dannedd cyntaf, ymgymryd â thriniaethau nerf a gosod coronau wedi’u rhaglunio ar ddannedd sydd wedi pydru’n wael mewn plant.

Mae hylenwyr deintyddol a therapyddion yn gweithio’n agos gydag aelodau eraill o’r tîm deintyddol gan y bydd y deintydd fel arfer yn cynghori hylenwyr deintyddol a therapyddion i helpu i lywio eu gwaith, ond erbyn hyn mae modd i hylenwyr a therapyddion sydd wedi cael hyfforddiant ychwanegol sefydlu eu practisau eu hunain neu weithio’n annibynnol.

I ymarfer fel hylenydd deintyddol a therapydd bydd angen i chi fod â diddordeb mewn anatomeg a ffisioleg a byddwch yn dysgu mwy am ddeintyddiaeth ataliol ac addysg iechyd deintyddol gyda gofal cleifion yn ganolog iddo.

Bwrsariaeth lawn gan y GIG
ar gael i fyfyrwyr BSc Therapi Deintyddol a Hylendid a myfyrwyr DipHE Hylendid Deintyddol
Profiad yn y byd go iawn
mae ein myfyrwyr yn treulio amser mewn cyfleusterau allgymorth lleol o’r ail flwyddyn ymlaen, ac yn datblygu sgiliau clinigol yn y byd go iawn
Ystafell efelychu gwerth £2.2 miliwn
Bydd ein hystafell efelychu fodern yn eich paratoi’n berffaith ar gyfer darparu gofal deintyddol i gleifion yn y clinigau modern

Rhagor o wybodaeth am astudio Deintyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd

Dysgwch fwy am wneud cais i astudio Deintyddiaeth neu Hylendid Deintyddol trwy lawrlwytho ein Pasbort i Ddeintyddiaeth sy’n llawn gwybodaeth ddefnyddiol.

Gwell atal na gwella, a dyna pam mae hylenwyr deintyddol yn chwarae rhan mor bwysig o ran hybu a diogelu iechyd y geg.

Diagnostic radiotherapy students

Byddwch yn Radiograffydd diagnostig

Mae radiograffwyr diagnostig yn defnyddio amrywiaeth o dechnolegau i dynnu delweddau ac edrych y tu mewn i gorff claf i nodi unrhyw salwch, anaf neu glefyd, fel y gall y claf gael y driniaeth gywir. Mae radiograffwyr diagnostig yn cynnal gwahanol archwiliadau radiograffig ar gleifion i gynhyrchu delweddau o ansawdd uchel; yn cymryd cyfrifoldeb am ddiogelwch ymbelydredd; helpu mewn archwiliadau radiolegol mwy cymhleth drwy weithio gyda meddygon fel radiolegwyr a llawfeddygon; a gallant gymryd rhan mewn gwaith ymchwil. Gyda phrofiad, gallant gyfrannu at ddehongli delweddau, sefydlu cynlluniau triniaeth a helpu gyda gweithdrefnau ymyrryd, er enghraifft tynnu cerrig ar yr arennau.

Mae radiograffwyr diagnostig hefyd yn gyfrifol am ddefnyddio a chynnal a chadw offer hynod dechnegol. Maent yn gweithio gyda sganiau pelydr-X, CT, MRI, neu uwchsain mewn amrywiaeth o leoedd lle mae llawer o bwysau, o theatrau llawdriniaeth ac adrannau Damweiniau ac Achosion Brys i unedau symudol. Mae’n ddyletswydd arnynt i sicrhau bod yr offer hwn yn gweithio’n iawn, yn ogystal â bod yn hyderus wrth ddefnyddio’r peiriannau hyn i drin cleifion.

Os ydych chi’n hoffi technoleg ac os hoffech chi weithio fel rhan o dîm amlddisgyblaethol ar draws gwahanol adrannau a gydag amrywiaeth o gleifion, gallai hon fod yn yrfa ddelfrydol i chi. Mewn rôl mor amrywiol a chyffrous â hon, mae pob diwrnod yn wahanol. Ydych chi’n barod am yr her?

1af yn y DU
The Complete University Guide 2021

*fel sefydliad sy’n cynnig Radiograffeg a Delweddu Diagnostig o dan y categori Technoleg Feddygol

100%
yn mynd ymlaen i weithio a/neu astudio o fewn 15 mis ar ôl y cwrs
Rhaglen amser llawn
wedi’i hachredu gan Gymdeithas a Choleg y Radiograffwyr

Dysgwch fwy am astudio radiograffeg ym Mhrifysgol Caerdydd

Gan ddefnyddio cyfuniad o wyddoniaeth, technoleg arloesol a sgiliau datrys problemau, mae angen radiograffyddion diagnostig i helpu i roi diagnosis i gleifion a gwella gofal cleifion.

Trainee doctor

Byddwch yn Feddyg

Mae rhai meddygon yn mynd i weithio ym maes Ymarfer Cyffredinol lle byddant yn cynnig gofal i’w cleifion sy’n ceisio cyngor meddygol ar gyfer pob math o bryderon iechyd meddwl a chorfforol mewn meddygfeydd cymunedol. Mae meddygon eraill yn arbenigo mewn disgyblaeth feddygol benodol ac yn gweld cleifion sydd wedi cael eu hanfon atynt ar gyfer ymgynghoriadau a thriniaeth arbenigol.

Yr hyn sydd gan bob meddyg yn gyffredin yw’r dyletswyddau craidd o wrando’n ofalus ar gleifion er mwyn cael dealltwriaeth o’u symptomau, rhoi diagnosis o gyflyrau sy’n achosi symptomau’r cleifion, darllen a dehongli profion meddygol a chanlyniadau labordy, rhagnodi meddyginiaeth a rhoi triniaethau, trefnu profion a gweithdrefnau (ac weithiau perfformio gweithdrefnau meddygol eu hunain), rhoi gofal dilynol i gleifion cyn eu rhyddhau o’u gofal, atgyfeirio cleifion i ddarparwyr gofal iechyd eraill, gweithio’n agos iawn gydag ystod eang o weithwyr gofal iechyd gan gynnwys meddygon, nyrsys, fferyllwyr ac eraill.

Mae hefyd yn hanfodol bod meddygon yn dilyn ymchwil a chanllawiau meddygol newydd, gan addasu eu gofal wrth i ganfyddiadau newydd, meddyginiaethau newydd a thechnolegau newydd ddod i’r amlwg.

Gan fod yn rhaid i feddygon roi gofal i bobl o lawer o gefndiroedd, yn ogystal â gweithio ar y cyd â thîm mawr o weithwyr proffesiynol ar bob cam o’u gyrfaoedd, mae sgiliau cyfathrebu da yn hanfodol. Mae angen iddynt allu cyfleu gwybodaeth a chynlluniau triniaeth feddygol cymhleth mewn ffordd y gall cleifion ei deall a hefyd ystyried y materion moesegol sy’n gysylltiedig â phob agwedd ar eu hymarfer meddygol.

Os ydych am helpu cleifion i oresgyn eu problemau iechyd corfforol a meddyliol er mwyn gwella eu hansawdd bywyd, efallai yr hoffech ystyried gyrfa fel meddyg.

I gael rhagor o wybodaeth am wneud cais i astudio Meddygaeth, lawrlwythwch ein ‘Pasbort i Feddygaeth’ sy’n llawn gwybodaeth, awgrymiadau a chyngor defnyddiol i’ch helpu ar eich ffordd.

100%
o raddedigion mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach, ar fin dechrau swydd neu gwrs newydd, 15 mis ar ôl diwedd eu cwrs
95%
o’n myfyrwyr Meddygaeth o’r farn bod eu cwrs yn ddeallusol ysgogol
100 years
o weithio i wella iechyd drwy addysg, ymchwil ac ymgysylltu â’r byd ehangach

Rhagor o wybodaeth am astudio Meddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd

Mae gan feddygon ystod eang iawn o gyfrifoldebau gan gynnwys cynnal ymgynghoriadau gyda chleifion, rhoi diagnosis o gyflyrau, a thrin eu cleifion i wella eu hiechyd a’u hansawdd bywyd.

Epidemiology student

Byddwch yn Epidemiolegydd

Efallai eich bod wedi clywed am epidemiolegwyr yn y newyddion gan eu bod wedi chwarae rhan bwysig ym mhandemig COVID-19. Mae epidemiolegwyr yn astudio’r hyn sy’n achosi clefydau,eu heffeithiau, a phatrymau clefydau mewn grwpiau o bobl, yn hytrach nag unigolion.

Mae darganfod o ble mae clefyd wedi dod, sut mae’n cael ei drosglwyddo, a sut i’w atal rhag lledaenu yn rhan bwysig iawn o reoli epidemigau (achosion o glefydau) a’u hatal rhag digwydd. Pan fydd ganddynt y wybodaeth hon, gall llywodraethau, swyddogion iechyd a meddygon gynghori’r cyhoedd ar sut i amddiffyn eu hunain a datblygu a chynnig y triniaethau cywir.

Mae epidemiolegwyr yn casglu llawer o wybodaeth am glefydau mewn poblogaeth yn ogystal â chynnal arolygon ac astudio samplau, ac yn aml yn cymharu pobl iach â’r rhai nad ydynt yn iach. Maent yn dadansoddi’r data hwn, a defnyddir eu canfyddiadau mewn polisïau iechyd cyhoeddus a strategaethau iechyd byd-eang i reoli a cheisio atal epidemigau yn y dyfodol.

Mae’r rhan fwyaf o epidemiolegwyr yn gweithio ym maes ymchwil, gan edrych ar achosion a phatrymau clefydau mewn cymunedau drwy ddefnyddio ystadegau a modelu cyfrifiadurol. Ond mae hefyd yn bosibl gweithio gyda chleifion, yn astudio sut mae’r clefyd wedi datblygu mewn unigolion, drwy ddod yn epidemiolegydd neu’n wyddonydd clinigol â chymwysterau meddygol sy’n gweithio ym maes gwyddor heintiau.

4ydd
ar gyfer Gwyddorau Biolegol yn y DU (Rhestr Shanghai 2021)
Ar y Brig
ymhlith Prifysgolion Cymru yn 2022 (The Times a’r Sunday Times)
97%
mewn cyflogaeth neu astudiaethau pellach (arolwg Cyrchfannau Ymadawyr Addysg Uwch HESA 2016/17)

Dysgwch fwy am astudio epidemioleg ym Mhrifysgol Caerdydd

Os oes gennych ddiddordeb mawr yn yr hyn sy’n achosi clefydau, eu heffeithiau, a phatrymau clefydau mewn grwpiau o bobl, yn hytrach nag unigolion, gallech fod wrth eich bodd â gyrfa fel epidemiolegydd.

Byddwch yn Oncolegydd meddygol

Byddwch yn Oncolegydd meddygol

Pan mae amgeuaeth bod gan glaf ganser, bydd y claf yn cael ei atgyfeirio at dîm oncoleg a fydd yn gweithio i roi diagnosis o’r broblem. Os yw’r profion sy’n cael eu cynnal yn dangos bod gan y claf ganser, bydd y tîm oncoleg meddygol yn trafod yr opsiynau triniaeth sydd ar gael gyda’r claf, ac yn ei gefnogi drwy’r broses ofal a thu hwnt.

Bydd yr oncolegydd meddygol yn edrych ar yr holl dystiolaeth a phrofion a gynhaliwyd ar y claf i benderfynu ar y dull gorau ar gyfer y claf hwnnw, a beth yw’r canlyniad a ddymunir – boed hynny’n wella’r claf, neu ymestyn faint o amser sydd gan y claf i fyw bywyd o ansawdd da. Yn aml, mae timau oncoleg meddygol yn gweithio law yn llaw â thimau oncoleg clinigol – oncolegwyr clinigol sy’n gyfrifol am ddefnyddio radiotherapi a chemotherapi, a bydd oncolegwyr meddygol yn aml yn trefnu ac yn goruchwylio’r triniaethau a’r therapïau cyffuriau hyn (dim ond oncolegwyr clinigol sy’n darparu radiotherapi).

Mae llawer o bobl yn y rôl hon yn datblygu diddordebau arbennig mewn gwahanol fathau o ganser (fel canserau’r system atgenhedlu fenywaidd, neu ganserau’r llwybr gastroberfeddol) neu feysydd fel oncoleg pediatrig neu ofal lliniarol (gofal a thriniaeth i gleifion nad oes modd gwella eu canser).

Mae ymchwil glinigol yn elfen bwysig iawn o rôl oncolegydd meddygol. Fel oncolegydd meddygol, gallech ddisgwyl cynnal a rheoli gofal clinigol cleifion yn ogystal â threialon clinigol a gwaith labordy. Mae triniaethau a darganfyddiadau newydd yn cael eu gwneud drwy’r amser felly mae hon yn yrfa sy’n addas i’r rhai sy’n mwynhau dysgu pethau newydd yn gyson ac sy’n gallu sicrhau eu bod yn dilyn y wybodaeth ddiweddaraf am yr holl ddatblygiadau yn y maes.

Mae Oncoleg yn faes amlddisgyblaethol, sy’n golygu gweithio fel rhan o dîm mwy i ddarparu gofal i gleifion unigol. Mae hyn yn cynnwys gweithio ochr yn ochr ag ystod eang o nyrsys, meddygon ac arbenigwyr eraill sy’n canolbwyntio ar gyflawni’r canlyniadau gorau posibl. Mae gweithio’n dda fel rhan o dîm, sgiliau arwain a sgiliau cyfathrebu gwych yn elfennau pwysig o’r rôl hon.

Mae’n amlwg bod oncoleg yn faes sensitif ac anodd ym myd meddygaeth. Efallai y bydd gan gleifion ragolygon gwael iawn a gall llawer o’r triniaethau sydd ar gael i wella’r clefyd neu ymestyn ansawdd bywyd fod yn boenus ac yn anodd eu goddef. Gall fod yn swydd emosiynol iawn ac mae angen lefel uchel o empathi a sensitifrwydd gan y rhai sy’n dewis arbenigo yn y maes.

Os ydych yn rhywun sy’n gallu gweithio mewn ffordd ddigynnwrf a thawelu meddwl pobl, sy’n gwneud gwaith yn fanwl gywir o dan bwysau, ac sy’n gallu ymdopi â rôl lle mae angen cyfleu gwybodaeth gymhleth i gleifion a allai fod yn ofidus, efallai mai dyma’r yrfa i chi.

I gael rhagor o wybodaeth am wneud cais i astudio Meddygaeth, lawrlwythwch ein ‘Pasbort i Feddygaeth’ sy’n llawn gwybodaeth, awgrymiadau a chyngor defnyddiol i’ch helpu ar eich ffordd.

100%
o raddedigion mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach, ar fin dechrau swydd neu gwrs newydd, 15 mis ar ôl diwedd eu cwrs
95%
o’n myfyrwyr Meddygaeth o’r farn bod eu cwrs yn ddeallusol ysgogol
100 mlynedd
o weithio i wella iechyd drwy addysg, ymchwil ac ymgysylltu â’r byd ehangach

Find out more about studying medicine at Cardiff University

Meddyg sy’n rhoi diagnosis, asesu, trin a rheoli cleifion â chanser yw oncolegydd. Eu nod yw sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i bob claf unigol.

Baby

Byddwch yn Fydwraig

Mae’r gair bydwraig yn deillio o midwife, sy’n golygu ‘gyda menyw’, ac mae hyn yn wir am rôl y fydwraig i fenywod beichiog.

Mae gan fydwraig rôl heriol ac unigryw iawn wrth baratoi menywod ar gyfer esgor babi (neu fabanod). Mae bydwraig gymwysedig yn darparu gofal cynenedigol llawn – monitro pob menyw feichiog a’i chefnogi yn ystod esgor. Maent hefyd yn addysgu mamau newydd sut i ofalu am eu babanod. Mae hyn hefyd yn cynnwys ymweliadau â’r cartref, cymorth ac addysg ynghylch bwydo ar y fron, a chymorth os yw’r fam newydd yn profi iselder ôl-enedigol. Mae bydwragedd yn aml yn gweithio mewn partneriaeth â gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol eraill i ddiwallu anghenion pob mam unigol.

Mae bydwragedd yn arbenigwyr ar enedigaeth ac mae ganddynt set amrywiol o gyfrifoldebau.   Gall menywod fod yn nerfus ynghylch rhoi genedigaeth, ac efallai eu bod wedi cael profiadau geni anodd yn y gorffennol, felly mae angen i fydwraig baratoi ar gyfer adegau pan nad yw beichiogrwydd neu’r broses esgor yn mynd fel y cynlluniwyd. Maent yn cefnogi menywod o bob cefndir, gan gynnwys y rhai a allai fod angen cymorth ychwanegol, er enghraifft menywod sydd wedi profi cam-drin domestig neu broblemau iechyd meddwl, mamau yn eu harddegau, mamau sydd wedi’u hallgáu’n gymdeithasol, mamau sy’n anabl, neu famau o gefndiroedd ethnig amrywiol. Mae angen i fydwragedd fod yn hyderus wrth gyfathrebu a chefnogi gwahanol bobl mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd, gan roi llawer o ystyriaeth i’w hanghenion a’u hamgylchiadau penodol.

Mae bydwragedd yn gweithredu mewn sawl lleoliad, gan gynnwys unedau mamolaeth mewn ysbytai, canolfannau geni, practisau grwpiau bydwreigiaeth, canolfannau iechyd cymunedol, ac mewn cartrefi preifat. Mae rhai hefyd yn symud i rolau ymchwil i wella iechyd y cyhoedd yn fwy eang.

Gall fod yn rôl heriol ond hefyd yn un sy’n rhoi llawer o foddhad o ran helpu menywod ar adeg bwysig yn eu bywydau. Felly, os ydych chi’n wrandawr da, yn ofalgar, yn galonogol, ac yn gallu cadw’ch pen o dan bwysau, efallai bod gennych y rhinweddau sy’n gweddu’n berffaith i’r llwybr gyrfa hwn.

1af yn y DU
The Complete University Guide 2021
95%
yn mynd ymlaen i weithio a/neu astudio o fewn 15 mis ar ôl y cwrs
Y rhaglen yw’r unig Ganolfan Gydweithredol ar gyfer Datblygu Bydwreigiaeth gyda Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn rhanbarth Ewrop

Rhagor o wybodaeth am astudio bydwreigiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd

Mae bod yn fydwraig yn rôl unigryw ac yn gymorth hanfodol i fenywod a’u babanod yn ystod pob cam o feichiogrwydd, esgor, a’r cyfnod ôl-enedigol cynnar.

Nursing students

Byddwch yn Nyrs

Yn syml, mae nyrsys yn helpu i achub bywydau.

Nyrsys yw dros hanner y gweithlu gofal iechyd, ac maent yn gweithio’n uniongyrchol gyda chleifion, fel rhan o dîm amrywiol o feddygon a gweithwyr iechyd proffesiynol sydd â phob math o gefndiroedd o bob cwr o’r byd.

Mae nyrsys yn helpu i ofalu am unigolion o bob oedran, teuluoedd, grwpiau a chymunedau ac mewn pob math o leoliadau. Mae rôl nyrs yn bellgyrhaeddol ac yn cynnwys hybu iechyd, atal salwch, a gofalu am bobl sâl, pobl anabl a phobl sy’n marw. O roi brechiadau cyn taith dramor i drin a gofalu am gleifion ar ôl llawdriniaeth ddifrifol, mae llawer o fathau o nyrsys sydd ag arbenigeddau gwahanol sy’n agor byd o gyfleoedd, mae rhai o’r meysydd yn cynnwys; Nyrs Oedolion, Nyrs Iechyd Meddwl a Nyrs Plant.

Nyrsys oedolion

O’r holl rolau nyrsio, mae nyrsys oedolion yn gweithio gyda’r amrywiaeth fwyaf eang o gleifion dros ddeunaw oed, o unrhyw gefndir, a allai fod yn wynebu pob math o broblemau iechyd tymor byr neu hirdymor. Felly, i fod yn nyrs oedolion, mae angen i chi fod yn hyblyg iawn, yn wydn, cynnal sgiliau datrys problemau cryf, a gallu cyfathrebu’n dda â phob math o bobl.

Nyrsys iechyd meddwl

Mae nyrs iechyd meddwl yn cynnig cymorth a chefnogaeth i bobl o bob oedran sy’n wynebu salwch meddwl, ynghyd â’u teuluoedd a gofalwyr. Er mai prif rôl y nyrs iechyd meddwl yw meithrin cydberthnasau rhwng y claf a’i therapyddion, mae’n bwysig y gallwch hefyd ddefnyddio strategaethau cyfathrebu effeithiol er mwyn dangos gofal iechyd meddwl trugarog, creadigol, a hanfodol sy’n canolbwyntio ar adferiad.

Nyrsys plant

Mae nyrsys plant yn rhoi cymorth ac yn darparu gofal amlddisgyblaethol i blant, pobl ifanc, a’u teuluoedd. Gall y rôl gynnwys popeth o nyrsio baban newydd-anedig sâl i ofalu am berson ifanc yn dilyn damwain traffig ar y ffordd. Mae angen bod nyrs plant yn dehongli ymddygiad ac ymatebion plant, a bod yn gallu sylwi pan fo iechyd plentyn yn gwaethygu – sydd yn gallu digwydd yn gyflym iawn.

Mae nyrsio yn swydd amrywiol iawn a gall diwrnod arferol i un nyrs fod yn hollol wahanol i un arall. Mae’n golygu eich bod yn cael y cyfle i gymryd eich gyrfa nyrsio mewn nifer o gyfeiriadau gwahanol. Os ydych chi eisiau antur bob dydd gyda’r bonws ychwanegol o helpu pobl, beth am ystyried nyrsio?

1af yng Nghymru
a 3ydd yn y DU – The Complete University Guide 2021
94%
yn mynd ymlaen i weithio a/neu astudio o fewn 15 mis ar ôl y cwrs
Wedi’i ddilysu gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC)

Dysgwch fwy am astudio nyrsio oedolion ym Mhrifysgol Caerdydd

Dysgwch fwy am astudio nyrsio plant ym Mhrifysgol Caerdydd

Dysgwch fwy am astudio nyrsio iechyd meddwl ym Mhrifysgol Caerdydd

Mae sawl math o nyrs, gydag arbenigeddau gwahanol sy’n cynnig byd o gyfleoedd, gan gynnwys nyrsio oedolion, nyrsio iechyd meddwl a nyrsio plant.

Occupational therapy student with patient

Byddwch yn Therapydd galwedigaethol

Mae therapyddion galwedigaethol yn cefnogi pobl y mae eu problemau iechyd, o ganlyniad i salwch, heneiddio neu ddamwain, yn eu hatal rhag cwblhau tasgau a gweithgareddau sy’n bwysig iddynt.

Gall therapyddion galwedigaethol nodi anawsterau claf mewn bywyd pob dydd, fel gwisgo neu gyrraedd y siopau, ac yna eu helpu i ddod o hyd i atebion ymarferol. Maent yn gweithio gyda’u cleifion i bennu nodau sy’n gallu helpu i gynnal, adennill neu wella eu hannibyniaeth drwy ddefnyddio technegau gwahanol, newid eu hamgylchedd, a defnyddio offer newydd. Er enghraifft, ar ôl cael clun newydd, efallai y bydd person yn ei chael hi’n anodd mynd i mewn ac allan o’r bath – bydd therapydd galwedigaethol yn gweithio gyda’r person i ddod o hyd i’r ateb gorau.

Mae therapyddion galwedigaethol yn gweithio gyda’r rhai sy’n cael anawsterau oherwydd salwch iechyd meddwl yn ogystal ag anableddau corfforol neu anableddau dysgu. Gallant weithio mewn amrywiaeth o leoliadau gan gynnwys ysbytai, gwasanaethau gofal cymdeithasol, tai, addysg, a sefydliadau gwirfoddol, neu fel ymarferwyr annibynnol.

Bydd therapydd galwedigaethol yn ystyried holl anghenion y claf – corfforol, seicolegol, cymdeithasol ac amgylcheddol. Gall y cymorth y maent yn ei gynnig wneud gwahaniaeth go iawn, gan roi ymdeimlad o bwrpas i bobl unwaith eto, a gall hyn newid y ffordd y mae cleifion yn teimlo am eu dyfodol cyfan.

Mae hon yn rôl sy’n datblygu’n barhaus gyda chyfleoedd newydd yn dod i’r amlwg y tu allan i’r lleoliadau traddodiadol, gan gynnwys gweithio gyda ffoaduriaid neu gyda’r gwasanaeth tân a’r heddlu. Mae hefyd yn amrywiol ac yn rhoi llawer o foddhad felly, os ydych am weithio’n agos gyda chleifion i’w helpu yn eu bywydau pob dydd, gallech ddod yn therapydd galwedigaethol rhagorol.

1af yn y DU
By The Complete University Guide 2021
91%
o fyfyrwyr yn cytuno eu bod yn fodlon ag ansawdd y cwrs
100%
yn mynd ymlaen i weithio a/neu astudio o fewn 15 mis ar ôl y cwrs

Dysgwch fwy am astudio therapi galwedigaethol ym Mhrifysgol Caerdydd

Mae therapydd galwedigaethol yn helpu pobl o bob oedran i oresgyn effeithiau anabledd a achosir gan salwch, heneiddio neu ddamwain fel y gallant gyflawni tasgau pob dydd.

Optometry students

Byddwch yn Optometrydd

Mae optometryddion yn arbenigwyr gofal iechyd sydd wedi’u hyfforddi i archwilio a chynnal profion ar y system weledol, canfod clefydau sy’n effeithio ar y llygaid, a rhoi presgripsiwn am sbectol a lensys cyffwrdd lle bo angen i gywiro golwg cleifion.

Mae technolegau a thechnegau gofal llygaid newydd ac arloesol yn cael eu defnyddio’n eang mewn ymarfer optometrig o ddydd i ddydd i gefnogi penderfyniadau clinigol optometryddion, er enghraifft, gan ddefnyddio delweddu manwl o wahanol strwythurau’r llygaid. Mae optometryddion hefyd yn cynnal profion golwg ac aliniad y llygaid, ac yn defnyddio canlyniadau’r archwiliadau clinigol hyn i benderfynu a oes angen cywiro cyfeiliornad plygiant ar glaf – fel arfer drwy roi presgripsiwn a ffitio sbectol neu lensys cyffwrdd.

Yn ogystal â hynny, mae optometryddion hefyd yn canfod clefydau’r llygaid, fel glawcoma a dirywiad macwlaidd sy’n gysylltiedig ag oedran, a hyd yn oed cyflyrau iechyd cyffredinol fel diabetes a phwysedd gwaed uchel.

Mae optometryddion yn gallu rheoli amrywiaeth o gyflyrau’r llygaid, neu’n gallu atgyfeirio cleifion i feddyg teulu neu arbenigwr iechyd arall i sicrhau eu bod yn cael y gofal a’r driniaeth gywir.

Mae optometryddion yn gweithio mewn llawer o leoliadau gan gynnwys:

• practisiau preifat annibynnol eu hunain

• practis cymunedol a all fod yn rhan o gwmni mawr sydd â changhennau niferus.

• clinigau llygaid mewn ysbytai

• cartrefi pobl neu gartrefi gofal

• athrawon neu ymchwilwyr mewn prifysgolion

• yn y diwydiant i ddatblygu technolegau, offer ac adnoddau newydd i gefnogi archwiliadau llygaid a gofal.

Mae rôl yr optometrydd fel rhan o’r tîm gofal llygaid proffesiynol yn newid ac yn ehangu, ac mae’r cyfleoedd ar gyfer gyrfa foddhaus yn well nag erioed. Er enghraifft, mae llawer o optometryddion bellach yn gymwys i gyflawni mân driniaethau llawfeddygol fel pigiadau i drin dirywiad macwlaidd sy’n gysylltiedig ag oedran. Mae eraill hefyd yn gallu rhoi presgripsiwn cyffuriau i drin cyflyrau fel glawcoma.

Astudio optometreg yw’r cam cyntaf os ydych am fod yn optometrydd. Felly, os ydych chi’n awyddus i helpu pobl i weld yn glir, trin cyflyrau sy’n effeithio ar lygaid cleifion, a gweithio gyda thechnoleg arloesol ym maes gofal iechyd, optometreg yw’r yrfa i chi!

Cyflogaeth o 98%
Roedd 98% o’n graddedigion mewn swyddi medrus iawn 15 mis ar ôl i’w cwrs ddod i ben. (Deilliannau Graddedigion arolwg 2018/19)
Cyfleuster optometreg gwerth £22 miliwn
Mae ein hysgol wedi cartrefu mewn cyfleuster optometreg bwrpasol gwerth £22 miliwn gyda chlinig llygaid ar y safle.
Safle 2 yn y tablau
Rydym ar safle 2 yn nhablau’r Complete University Guide 2024 ar gyfer Optometreg

Dysgwch fwy am astudio optometreg ym Mhrifysgol Caerdydd

Mae gallu gweld yn glir yn chwarae rhan hanfodol yn ein hiechyd a’n lles cyffredinol. Mae Optometryddion yn cynnig gwasanaeth hanfodol ar fonitro iechyd y llygaid, gofal, a chywiro golwg.

Paediatrician student with child patient

Byddwch yn Bediatregydd

Gall y term pediatregydd gwmpasu amrywiaeth o rolau gwahanol – os ydych yn penderfynu yr hoffech ddod yn feddyg sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc, byddwch yn debygol o fynd i un o bedwar prif faes:

  • Pediatreg gyffredinol – mae’r meddygon hyn yn gweithio mewn ysbytai, ac yn trin plant o’u genedigaeth hyd at 16 oed.
  • Neonatoleg – mae’r rhain yn arbenigwyr sy’n gweithio gyda babanod sydd newydd gael eu geni, yn aml y rhai sy’n cael eu geni’n gynnar neu sydd â phroblemau iechyd adeg eu geni. Mae’r meddygon hyn yn gweithio’n bennaf mewn unedau gofal dwys.
  • Pediatreg gymunedol – meddygon sy’n gweithio yn y gymuned, mewn lleoliadau fel meddygfeydd neu dimau arbenigol. Maent yn gofalu am blant sydd â phroblemau datblygiadol, cymdeithasol neu ymddygiadol, a’r rhai ag anableddau corfforol.
  • Cardioleg bediatrig – maes arbenigol iawn. Mae’r meddygon hyn yn trin plant â chyflyrau’r galon

Mae pediatreg yn swydd amrywiol iawn – mae pob diwrnod yn wahanol, ac mae pediatregwyr yn cael gweithio gyda theuluoedd cyfan yn ogystal ag unigolion, sy’n rhoi boddhad mawr. Yn dibynnu ar eu maes penodol, mae gwaith pediatregydd o ddydd i ddydd yn debygol o gynnwys asesu plant sy’n sâl, sydd wedi’u hanafu, neu sydd ag anableddau. Mae angen iddynt fod â llawer o amynedd, empathi a sgiliau cyfathrebu rhagorol – er lles eu cleifion, yn ogystal â theuluoedd a gofalwyr eu cleifion. Mae gallu tawelu meddwl plentyn a rhannu gwybodaeth hanfodol â’i riant wrth wneud hynny yn sgìl hanfodol i feddyg pediatrig.

Yn ogystal ag asesu a thrin plant a phobl ifanc, mae pediatregwyr yn rhagnodi meddyginiaeth, llawdriniaeth neu therapïau, yn ysgrifennu nodiadau cleifion ac yn cynhyrchu adroddiadau meddygol, a hyd yn oed yn goruchwylio ac yn hyfforddi aelodau staff iau. Mae’n rôl amrywiol lle mae angen rhoi sylw craff i fanylion.

Gall gweithio gyda phlant sy’n sâl fod yn brofiad emosiynol iawn ac mae’n rôl lle mae angen sensitifrwydd a sgiliau gwrando gweithredol, oherwydd efallai na fydd y claf neu ei deulu yn gallu dweud yn union beth sydd angen i bediatregydd ei wybod i roi’r diagnosis cywir.

Os ydych chi eisiau gyrfa mewn meddygaeth ac yn dymuno canolbwyntio ar iechyd plant, gallai hon fod yr yrfa ddelfrydol i chi.

I gael rhagor o wybodaeth am wneud cais i astudio Meddygaeth, lawrlwythwch ein ‘Pasbort i Feddygaeth’ sy’n llawn gwybodaeth, awgrymiadau a chyngor defnyddiol i’ch helpu ar eich ffordd.

100%
o raddedigion mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach, ar fin dechrau swydd neu gwrs newydd, 15 mis ar ôl diwedd eu cwrs
95%
o’n myfyrwyr Meddygaeth o’r farn bod eu cwrs yn ddeallusol ysgogol
100 mlynedd
o weithio i wella iechyd drwy addysg, ymchwil ac ymgysylltu â’r byd ehangach

Dysgwch fwy am astudio meddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd

Mae meddygon pediatrig yn cefnogi plant a phobl ifanc sy’n wynebu amrywiaeth o gyflyrau iechyd gwahanol, yn ogystal â chysylltu â’u teuluoedd a’u gofalwyr.

Pharmacy students

Byddwch yn Fferyllydd

Mae fferyllwyr yn chwarae rhan hanfodol wrth ein cadw ni i gyd yn iach – maent yn arbenigwyr ym maes gwyddoniaeth ac yn y defnydd o feddyginiaethau, a’r cyffuriau sydd ynddynt.

Mae fferyllwyr cymwysedig yn glinigwyr sy’n defnyddio eu gwybodaeth wyddonol gref i helpu cleifion i oresgyn pob math o broblemau iechyd gan eu bod yn gwybod pa feddyginiaethau sy’n gweithio orau i drin gwahanol afiechydon, pa sgil-effeithiau a all ddigwydd, sut mae ein cyrff yn rhyngweithio â gwahanol feddyginiaethau a sut mae’r meddyginiaethau hynny’n rhyngweithio â’i gilydd o fewn ein cyrff.

Mae’n debyg bod fferyllwyr yn fwyaf adnabyddus am weithio’n uniongyrchol gyda chleifion pan fyddant yn sâl neu pan fo angen cyngor ar eu meddyginiaethau. Yn ogystal â meddu ar yr wybodaeth wyddonol arbenigol hon am feddyginiaethau, mae angen sgiliau cyfathrebu rhagorol ar fferyllwyr hefyd gan eu bod yn cynnal ymgynghoriadau i nodi anghenion cleifion ac i benderfynu pa feddyginiaethau fydd fwyaf effeithiol i drin cyflwr iechyd claf.

Mae’r fferyllwyr hyn yn dosbarthu cyffuriau a brechiadau, yn cynnig cyngor ar feddyginiaethau i gleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill – fel meddygon, nyrsys, ffisiotherapyddion a therapyddion galwedigaethol, ac yn cefnogi cleifion i ofalu amdanynt eu hunain. Mae llawer o fferyllwyr yn rhagnodi meddyginiaethau, hefyd – yn yr un modd â meddygon

Fel aelodau allweddol o’r tîm gofal iechyd, mae fferyllwyr yn gweithio mewn llawer o wahanol leoliadau – mewn meddygfeydd, mewn ysbytai ac mewn fferyllfeydd yn ein cymunedau. Mae eraill yn gweithio yn y lluoedd arfog, mewn cartrefi gofal, carchardai, a sefydliadau iechyd meddwl, i gyd gyda’r nod o wella iechyd cleifion.

Mae ffyrdd eraill y gall fferyllwyr ddefnyddio eu gwybodaeth arbenigol i helpu cleifion mewn angen, gan fod rhai fferyllwyr yn gweithio mewn labordai lle maent yn gwneud gwaith ymchwil i ddarganfod cyffuriau a thriniaethau newydd ar gyfer pob math o glefydau. Mae eraill hefyd yn gweithio mewn labordai i ailddatblygu cyffuriau sy’n bodoli eisoes er mwyn trin clefydau’n well. Ac mae rhai fferyllwyr yn dewis ymchwilio i ddulliau newydd o roi cyffuriau yn ein cyrff ac yn profi’r dulliau hynny, gan ddefnyddio technolegau fel nodwyddau bach iawn, erosolau, capsiwlau neu hyd yn oed nanoronynnau fel eu bod yn gweithio’n fwy effeithiol ar gyfer pob math o gleifion sydd â phroblemau iechyd cymhleth.

Gall fferyllwyr hefyd weithio i’r cwmnïau sy’n cynhyrchu ac yn dosbarthu ystod eang o feddyginiaethau neu mewn Llywodraeth yn helpu i roi cyngor ar gymeradwyo meddyginiaethau.

Felly, p’un a ydych chi eisiau helpu i ddylunio neu ddatblygu cyffur mewn labordy neu ragnodi meddyginiaeth i wneud cleifion yn well pan fyddant yn sâl, gallech ddod yn fferyllydd i ddefnyddio eich gwybodaeth arbenigol am feddyginiaethau ac iechyd i wella bywydau cleifion.

100%
Mae 100% o’n graddedigion mewn swydd a/neu astudiaethau pellach chwe mis ar ôl graddio
Mwy na 85%
o’n myfyrwyr sy’n sefyll arholiad cofrestru’r Cyngor Fferyllol Cyffredinol yn llwyddo’r tro cyntaf
100+ mlynedd
Mae ein Hysgol yn un glòs a hirsefydlog, ac yn ddiweddar rydym wedi dathlu ein canmlwyddiant

Dysgwch fwy am astudio Fferylliaeth ym Mhrifysgol Caerdydd

Dysgwch fwy am wneud cais i astudio Fferylliaeth trwy lawrlwytho ein Pasbort i Fferylliaeth sy’n llawn gwybodaeth ddefnyddiol.

Mae fferyllwyr yn arbenigwyr yng ngwyddor meddyginiaethau a’r defnydd ohonynt. Maent yn helpu cleifion i oresgyn pob math o broblemau iechyd ac mae rhai yn rhagnodi meddyginiaethau hefyd, yn union fel meddyg.

Physiotherapy students

Byddwch yn Ffisiotherapydd

Mae ffisiotherapydd yn helpu i pobl i symud a gwella rhannau o’r corff pan fydd anaf, salwch neu anabledd yn effeithio ar rywun. Gallant hefyd helpu i roi diagnosis a lleihau’r risg o anaf neu salwch yn y dyfodol am eu bod yn ymdrechu i roi’r wybodaeth, yr offer a’r arweiniad sydd eu hangen ar eu cleifion i fod yn gryfach a chyflawni eu nodau.

Bydd ffisiotherapydd yn helpu pobl o bob oedran ac yn ymdrin ag amrywiaeth o sefyllfaoedd – gallant adsefydlu pobl sydd wedi goroesi trawiad ar y galon neu sydd wedi cael eu hanafu drwy ddamwain, neu helpu pobl â sglerosis ymledol. Maent yn edrych ar y corff cyfan ac yn teilwra triniaethau i ganolbwyntio ar yr unigolyn.

Dyna pam y gallech ddod o hyd i ffisiotherapydd mewn ysbyty neu mewn lleoliad cymunedol (mewn clinigau neu eu practis eu hunain). Byddwch hefyd yn gweld ffisiotherapyddion yn cefnogi timau chwaraeon, athletwyr elît, elusennau a chlybiau. Efallai y byddant yn gweithio ar eu pen eu hun neu fel rhan o dîm amlddisgyblaethol ond, mae un peth yn sicr, mae ganddynt ddigon o ddewis o ran cyfleoedd gyrfa a lleoedd i weithio.

Mae dod yn ffisiotherapydd yn gryn her, ond mae gweithio mewn partneriaeth â chleifion yn rhoi llawer o foddhad hefyd. Felly, os byddwch yn dilyn y llwybr hwn, gallwch chwarae rhan allweddol o ran helpu unigolion a’r cyhoedd i wella eu hiechyd, eu lles a’u hansawdd bywyd.

1af yng Nghymru
a 3ydd yn y DU – The Complete University Guide 2021
99%
yn mynd ymlaen i weithio a/neu astudio o fewn 15 mis ar ôl y cwrs
95%
yn cytuno eu bod yn fodlon ar ansawdd y cwrs

Discover more about studying physiotherapy at Cardiff University

Mae ffisiotherapydd yn helpu i pobl i symud a gwella rhannau o’r corff pan fydd anaf, salwch neu anabledd yn effeithio ar rywun. Gallant hefyd helpu i atal anafiadau neu salwch yn y dyfodol.

Psychology student

Byddwch yn Seicolegydd

Fel arbenigwyr mewn sut mae’r meddwl yn gweithio ac ymddygiad dynol, gall seicolegwyr cymwysedig adnabod patrymau emosiynol ac ymddygiadol, helpu i ddeall amrywiaeth o anhwylderau iechyd meddwl, llunio cynlluniau triniaeth addas ar gyfer eu cleifion ac atgyfeirio cleifion i weithwyr gofal iechyd proffesiynol perthnasol eraill.

Gall seicolegwyr ymuno i amrywiaeth eang o yrfaoedd, ac yn draddodiadol mae hyn wedi cynnwys rolau clinigol, fforensig ac addysgol. Er enghraifft, mae seicolegwyr clinigol yn adnabod, gwerthuso a thrin achosion problemau iechyd meddwl – megis gorbryder, trawma neu iselder. Mae seicolegwyr iechyd yn cefnogi pobl i ddeall salwch corfforol a gwneud newidiadau ymddygiadol i wella ansawdd eu bywyd.

Mae seicolegwyr fforensig yn darparu tystiolaeth arbenigol yn y system cyfiawnder troseddol – gan gynnwys mewn llysoedd cyfreithiol, cynghori byrddau parôl, a rhoi rhaglenni triniaeth ar waith. Mae seicolegwyr addysg yn gwella profiadau plant o ddysgu ac yn cynnig strategaethau ac ymyriadau defnyddiol i alluogi plant i oresgyn eu hanawsterau addysgol.

Mae llawer o seicolegwyr yn gweithio’n uniongyrchol gyda chleifion mewn ysbytai neu mewn lleoliadau eraill, fel ysgolion, canolfannau iechyd cymunedol, carchardai, cartrefi nyrsio, neu ganolfannau adsefydlu. Er bod y rolau hyn yn gyffrous ac yn werth chweil, nid yw seicolegwyr cymwysedig wedi’u cyfyngu i’r llwybrau hyn.

Er enghraifft, mae seicolegwyr wedi’u cyflogi i weithio ar ymgyrchoedd ymwybyddiaeth cyhoeddus i helpu pobl i roi’r gorau i ysmygu, gwella’r niferoedd sy’n cymryd brechlyn, a chadw at gyngor iechyd y cyhoedd neu i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd. Mae eraill wedi cyfrannu at ddylunio technoleg newydd i helpu pobl i fynd i’r afael â gorbryder neu wedi cymryd rhan mewn ymchwil defnyddwyr i ddadansoddi ymddygiad prynu.

Mae hyn yn golygu bod adrannau’r llywodraeth, cwmnïau preifat a busnesau, yn ogystal ag elusennau, asiantaethau hysbysebu a llawer o sefydliadau eraill, aml yn ceisio cyflogi seicolegwyr i’w helpu i gyflawni eu nodau.

Mae seicolegwyr eraill yn dewis cynnal ymchwil mewn maes o ddiddordeb er mwyn deall y meddwl ac ymddygiad yn well. Gall eu canfyddiadau arwain at newidiadau yng nghynlluniau’r llywodraeth neu gynlluniau triniaeth ar gyfer cleifion yn rhyngwladol.

Astudio seicoleg yw’r cam cyntaf os ydych am fod yn seicolegydd. Os oes gennych ddiddordeb mewn pobl, y ffordd y mae ein meddyliau’n gweithio, a sut gallwch chi helpu i ddeall a newid ymddygiad, efallai y byddech chi’n seicolegydd gwych!

Profiad proffesiynol
Rydym yn cynnig y cyfle i ennill amrywiaeth eang o brofiad proffesiynol ar ein BSc Seicoleg gyda Lleoliad Proffesiynol
Yn safle 10 yn y DU
Rydyn ni ymhlith y 10 prifysgol orau yn y DU ar gyfer Seicoleg yn Complete University Guide ac yn rhestr Times Higher Education o Brifysgolion Gorau’r Byd.
Achrediad
Wedi’i achredu gan Gymdeithas Seicolegol Prydain (BPS)

Dysgwch fwy am astudio seicoleg ym Mhrifysgol Caerdydd

Er eu bod yn draddodiadol gysylltiedig ag iechyd meddwl, mae galw cynyddol am seicolegwyr mewn meysydd eraill lle mae angen deall, rhagweld a newid ymddygiad dynol.

Surgeon students

Byddwch yn Llawfeddyg

Mae dod yn llawfeddyg fel arfer yn golygu y byddwch yn arbenigo mewn un o ddeg prif faes. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Llawfeddygaeth gardiothorasig – mae hyn yn golygu y tu mewn i’r frest, fel arfer yn ymdrin â’r galon a’r ysgyfaint
  • Cyffredinol – mae angen ystod eang o sgiliau a gwybodaeth yn y maes llawfeddygaeth hwn i ymdrin â llawer o wahanol fathau o lawdriniaeth, yn ymwneud yn bennaf ag organau yn yr abdomen fel y stumog, y coluddyn bach, yr afu, y pancreas a’r colon.
  • Niwrolawfeddygaeth – ymdrin â’r system nerfol. Mae hyn yn golygu’r ymennydd, madruddyn y cefn a’r nerfau.
  • Clust, trwyn a gwddf – mae’r llawfeddygon hyn yn arbenigo mewn llawdriniaeth sy’n ymwneud â rhannau o’r pen a’r gwddf.
  • Y geg, y genau a’r wyneb – mae’r llawfeddygon hyn yn trin cleifion â chlefydau ac anafiadau i’r geg, y genau, yr wyneb a’r gwddf
  • Pediatrig – mae hyn yn golygu cynnal llawdriniaethau ar fabanod sy’n cyrraedd yn gynnar neu sydd heb gael eu geni hyd yn oed, plant, ac oedolion ifanc hyd at 19 oed.
  • Trawma neu orthopedig – mae’r llawfeddygon hyn yn cynnal amrywiaeth eang o driniaethau llawfeddygol ar y system gyhyrysgerbydol. Mae hyn hefyd yn cynnwys strwythurau sy’n cynnal y sgerbwd, fel ligamentau, tendonau, nerfau a chyhyrau.
  • Cosmetig – mae llawfeddygaeth gosmetig yn cynnwys defnyddio llawdriniaeth i adfer, addasu neu ailadeiladu. Gall hyn gynnwys ystod eang o driniaethau, o lawdriniaeth gosmetig i drin llosgiadau.
  • Fasgwlaidd – mae llawfeddygon fasgwlaidd yn ymdrin â rhydwelïau, gwythiennau a phibellau lymff y corff, ac yn canolbwyntio ar gyflyrau sy’n effeithio ar gylchrediad.
  • Wroleg – mae’r llawfeddygon hyn yn ymdrin ag anhwylderau, clefydau ac anafiadau’r arennau, yr wreter a’r bledren.

Nid yw’r holl waith yn digwydd yn y theatr llawdriniaethau – mae llawfeddygon hefyd yn treulio llawer o amser yn cynnal rowndiau ward a chlinigau cleifion allanol, ac yn gwneud dyletswyddau gweinyddol a hyd yn oed addysgu eraill sydd am fod yn llawfeddygon yn y dyfodol.

Mae gwaith llawfeddyg yn dechrau gydag asesu ac archwilio’r claf, i benderfynu a oes angen llawdriniaeth a pha ddull a fydd yn gweithio orau. Mae ganddynt lawer o gyswllt â chleifion, yn enwedig o ran monitro triniaethau cyn llawdriniaeth ac ôl llawdriniaeth, a sgwrsio â chleifion a’u teuluoedd cyn llawdriniaeth i dawelu eu meddwl. Mae meddu ar sgiliau da wrth ymwneud â phobl, gallu cyfathrebu’n effeithiol a gydag empathi, a myfyrio ar yr hyn a ddysgwyd yn sgiliau hanfodol i lawfeddygon o bob arbenigedd.

Yn ystod gweithdrefnau llawfeddygol, mae angen i lawfeddygon ddilyn technegau sefydledig a chydlynu staff amlddisgyblaethol eraill yn eu tîm, fel meddygon iau, nyrsys ac ymarferwyr adrannau llawdriniaeth – mae sicrhau bod y claf yn gwella yn gyfrifoldeb i’r tîm cyfan. Mae gweithio’n dda gydag eraill yn hanfodol er mwyn sicrhau canlyniadau da.

Disgwylir hefyd i lawfeddygon gynnal ymchwil i dechnegau ac offer llawfeddygol i wella gweithdrefnau a chanlyniadau, a hyfforddi staff llai profiadol hefyd. Mae oriau hir a bod ‘ar alwad’ yn rhan fawr arall o fywyd fel llawfeddyg.

Y cam cyntaf tuag at ddod yn llawfeddyg yw astudio Meddygaeth. Felly, i gael rhagor o wybodaeth am wneud cais i astudio Meddygaeth, lawrlwythwch ein ‘Pasbort i Feddygaeth’ sy’n llawn gwybodaeth, awgrymiadau a chyngor defnyddiol i’ch helpu ar eich ffordd.

100%
o raddedigion mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach, ar fin dechrau swydd neu gwrs newydd, 15 mis ar ôl diwedd eu cwrs
95%
o’n myfyrwyr Meddygaeth o’r farn bod eu cwrs yn ddeallusol ysgogol.

Mae llawfeddyg wedi’i hyfforddi’n arbennig i roi llawdriniaeth i gleifion er mwyn atgyweirio, tynnu, amnewid neu asesu rhannau o’r corff sydd wedi’u heintio neu eu niweidio.

Therapeutic radiography student

Byddwch yn Radiograffydd therapiwtig

Bob dwy funud mae rhywun yn y DU yn cael diagnosis o ganser, ond mae cyfraddau goroesi canser yn gwella ac wedi dyblu yn y 40 mlynedd diwethaf yn y DU, yn ôl Cancer Research UK.

Mae radiograffwyr therapiwtig yn chwarae rhan weithredol yn ymladd canser ac yn rhoi gobaith i’r rhai sy’n cael diagnosis, gan fod triniaeth ymbelydredd yn gallu crebachu neu gael gwared ar ganserau a thiwmorau drwy ddefnyddio peiriannau i roi therapi ymbelydredd dwys. Mae’r math hwn o therapi yn defnyddio ymbelydredd pwerus i ladd celloedd canser, a dyma un o’r prif ddulliau a ddefnyddir i drin cleifion â chanser. Gall yr ymbelydredd ddod o beiriant y tu allan i’r corff, neu o ddeunydd ymbelydrol sy’n cael ei osod yn y corff yn agos i gelloedd canser. Mae tua hanner yr holl gleifion canser yn cael rhyw fath o therapi ymbelydredd ar ryw adeg yn ystod eu triniaeth.

Mae radiograffwyr therapiwtig yn gweithio mewn ysbyty neu ganolfan ganser, ac yn gweithio gyda chleifion a chydweithwyr i gynllunio rhaglenni triniaeth a chefnogi cleifion nes i’w triniaeth ddod i ben. Maent yn gweithredu fel y prif berson cyswllt ar gyfer y claf yn ystod ei driniaeth therapi ymbelydredd ac maent yn gyfrifol am sawl agwedd ar eu gofal. O roi sgan pelydr-X cychwynnol, i ddefnyddio sganiwr CT neu gyflymydd llinol i roi triniaeth ymbelydredd soffistigedig, maent yn defnyddio technoleg hynod gymhleth a datblygedig i drin canserau a thiwmorau.

Mae gan yr adran radiotherapi dîm o radiograffwyr arbenigol iawn sy’n cwmpasu llawer o feysydd arbenigedd, o ymchwil i bediatreg. Mae’r radiograffwyr arbenigol yn gweithio fel rhan o’r tîm amlddisgyblaethol i ganolbwyntio ar wella triniaethau canser, gan roi lefel uchel o arbenigedd a’r profiad gorau posibl i gleifion. Maent yn meithrin perthynas gref â chleifion a’u teuluoedd wrth ofalu am gleifion ym mhob cam o’r driniaeth.

Gan gynnig cyfuniad o wyddoniaeth, technoleg a gofal sy’n canolbwyntio ar y claf – a’r ffaith eich bod yn rhoi ergyd go iawn i ganser – mae hon yn yrfa i ymfalchïo ynddi!

1af yn y DU
Yn ôl The Complete University Guide 2021 (*fel sefydliad sy’n cynnig radiotherapi ac oncoleg o dan gategori Technoleg Feddygol)
Ystafell fowldiau bwrpasol ac Amgylchedd Rhithwir ar gyfer Radiotherapi (VERT), sy’n cynnig dysgu anatomeg 3-D
100%
yn mynd ymlaen i weithio a/neu astudio o fewn 15 mis ar ôl y cwrs

Dysgwch fwy am astudio radiotherapi ym Mhrifysgol Caerdydd

Mae radiograffwyr therapiwtig yn chwarae rhan weithredol yn ymladd canser ac yn rhoi gobaith i’r rhai sy’n cael diagnosis o’r clefyd.

Porwch drwy ein pynciau

Mae Prifysgol Caerdydd yn falch o gynnig ystod eang o raglenni gradd i roi hwb i’ch gyrfa ym maes iechyd.