Menywod yn Mentora

Cyn-fyfyrwragedd Prifysgol Caerdydd yn cefnogi cyn-fyfyrwragedd Prifysgol Caerdydd

Ymunwch â ni ym mis Mawrth i ddathlu Mis Hanes Menywod yn ein digwyddiad ‘mentora chwim’: Menywod yn Mentora 2025

Powered by Microsoft

Rydym wedi llwyddo i ddewis 26 o gyn-fyfyrwyr yn ofalus i ddod yn fenywtoriaid – mentoriaid benywaidd sy’n anelu at eich ysbrydoli a’ch grymuso; y genhedlaeth nesaf o gyn-fyfyriwr Prifysgol Caerdydd.

Dyma eich cyfle i gysylltu â menywod llwyddiannus a medrus ac elwa ar eu profiad a’u harbenigedd gwerthfawr.

Gallwch ddefnyddio’r cyfle hwn i ddatblygu’ch gyrfa, adeiladu rhwydweithiau, gofyn cwestiynau a chael cipolwg ar ddiwydiant penodol.

Bydd menywtoriaid yn cael eu dewis ar ôl proses ymgeisio fer sy’n dangos eich uchelgais, eich ffocws gyrfa a sut rydych chi’n teimlo y byddai mentora o fudd. Eleni gallwch ddangos dewis o hyd at dri mentor yr hoffech chi gael eich paru â nhw yn ddelfrydol.

Dyluniwyd mentora chwim i fod yn effeithiol o ran amser ac effaith. Mae hynny’n golygu mai dim ond o leiaf 2 awr y bydd angen i chi ei ymrwymo ym mis Mawrth.

Os ydych chi eisiau datblygu’n broffesiynol a symud ymlaen yn eich gyrfa gwnewch gais erbyn dydd Llun 10 Chwefror am gyfle i fentora.

Mae’r cynllun mentora menywod hwn i gyn-fyfyrwyr Caerdydd yn gyfle traws-gynhwysol.
Er y gwneir pob ymdrech i baru ymgeiswyr â mentor, ni allwn warantu lle ar y rhaglen.

Cwrdd a’n Mentoriaid

Shaikha Al-Othman (BSc 2008)

Cwrdd â'n mentor

Shaikha Al-Othman

(BSc 2008)

Shaikha yw cyd-sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Haus of Care. Ar ôl cael gradd mewn niwrowyddoniaeth, dechreuodd Shaikha ar yrfa ym maes iechyd y cyhoedd. Heddiw, mae’n ymchwilydd ac yn entrepreneur cymdeithasol ym maes systemau iechyd. Ar ôl gweithio ar y cynllun cenedlaethol ar gyfer atal clefydau anrhosglwyddadwy a gordewdra yn Kuwait (gwerth $16m ac wedi’i ariannu gan y llywodraeth), sefydlodd fusnes nid-er-elw creadigol i hybu iechyd. Yna, aeth ymlaen i ariannu nifer o fusnesau bach – rhai cymdeithasol a rhai er-elw.

Mae hi’n canolbwyntio ar ymchwilio a chreu systemau clyfar wedi’u pweru gan ddeallusrwydd artiffisial ar gyfer amgylcheddau gofal henoed a gofal cartref gyda ffocws ar deuluoedd a’r rheini sy’n gofalu. Mae hi wedi cael ei chydnabod yn rhestr enwog “Innovators Under 35″ yr MIT Technology Review, yn ogystal â chydnabyddiaeth bellach gan gyrff sy’n cynnwys Weill Cornell a’r Massachusetts Institute of Technology (MIT), sefydliadau y mae hi’n dal i weithio’n agos gyda nhw.

Iechyd Entrepreneur Technoleg

Shaikha yw cyd-sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Haus of Care. Dechreuodd Shaikha ar yrfa ym maes iechyd y cyhoedd. Heddiw, mae’n ymchwilydd ac yn entrepreneur cymdeithasol ym maes systemau iechyd.

Rebecca Barnett (BSc 2008)

Cwrdd â'n mentor

Rebecca Barnett

(BSc 2008)

Mae Rebecca’n gweithio yn y tîm cynnyrch i ddefnyddwyr yn The Walt Disney Company, ac mae hi’n goruchwylio’r berthynas fasnachol ag un o fanwerthwyr mwyaf adnabyddus byd ffasiwn yn fyd-eang. Mae hi wedi bod â swyddi masnachol eraill mewn timau manwerthu a chategori yn y DU dros ei chyfnod o 10 mlynedd yn Disney. Cyn hynny, bu’n gweithio ym maes prynu ffasiwn yn siop groser mwyaf y DU, sef Tesco. Ymunodd â Tesco ar ôl iddi gwblhau ei gradd mewn Rheoli Busnes (Marchnata). Mae hi’n arbenigo mewn datblygu cydberthnasau strategol i ysgogi twf masnachol, gwerthu’r weledigaeth i randdeiliaid ar bob lefel, ac mae ganddi arbenigedd mewn datblygu tîm i sbarduno llwyddiant.

Rheolaeth fasnacholCysylltiadau strategolFfasiwn 

Mae Rebecca’n gweithio yn y tîm cynnyrch i ddefnyddwyr yn The Walt Disney Company, ac mae hi’n goruchwylio’r berthynas fasnachol ag un o fanwerthwyr mwyaf adnabyddus byd ffasiwn yn fyd-eang.   

Sarah Bevan (BScEcon 1989)

Cwrdd â'n mentor

Sarah Bevan

(BScEcon 1989)

Mae gan Sarah dros 25 mlynedd o brofiad yn gweithio yn y diwydiant fferyllol ym meysydd rheoli cynhyrchu, pecynnu, logisteg a rheoli’r gadwyn gyflenwi. Mae hi wedi gweithio ar lefel genedlaethol a byd-eang, gan roi prosesau byd-eang newydd ar waith, a gweithio gyda darparwyr amrywiol mewn amgylchedd masnachol, gan gynnwys partneriaid alltraeth. Mae ganddi arbenigedd cryf mewn trawsnewid busnesau a gefnogir gan dechnoleg a modelau gweithredu wedi’u hoptimeiddio gan gynnwys gwasanaethau ar gontract allanol. Mae hi’n angerddol dros adeiladu ac arwain timau gan ddefnyddio ei sgiliau hyfforddi a mentora i gefnogi ei thimau i sicrhau perfformiad gweithredol rhagorol, gan gynhyrchu a gweithredu cynlluniau strategol er budd cleifion. Ar hyn o bryd, hi yw Cadeirydd Bwrdd Cymdeithas Pharmaledge. Bwriad y sefydliad yw datblygu gwasanaethau blockchain digidol ar gyfer cleifion, partneriaid a chwmnïau fferyllol. 

Rheoli’r broses gynhyrchu Cadwyn Gyflenwi Trawsnewid busnesau

Mae gan Sarah dros 25 mlynedd o brofiad yn gweithio yn y diwydiant fferyllol ym meysydd rheoli cynhyrchu, pecynnu, logisteg a rheoli’r gadwyn gyflenwi. Ar hyn o bryd, hi yw Cadeirydd Bwrdd Cymdeithas Pharmaledger.

Sylvi Burton (BSc 2016)

Cwrdd â'n mentor

Sylvi Burton

(BSc 2016)

Mae Sylvi wedi cael sawl rôl allweddol yn Network Rail ers ymuno ar y cynllun Rheoli Busnes i raddedigion yn 2017. Treuliodd chwe blynedd yn Rheoli Prosiectau a Nawdd ar Gam 1 Cysylltiad Rheilffordd y Dwyrain a’r Gorllewin (EWR CS1), cynllun seilwaith gwerth £1 biliwn oedd i gyflwyno gwasanaethau i deithwyr rhwng Rhydychen a Milton Keynes. Ar hyn o bryd, Sylvi yw’r Rheolwr Llywodraethu Portffolio, yn goruchwylio’r gwaith o lywodraethu cynlluniau gwella rheilffyrdd ledled Cymru a Lloegr, ac yn gweithio’n agos â’r Adran Drafnidiaeth. Mae hi’n arbenigo mewn rheoli rhanddeiliaid a chyflawni prosiectau cymhleth, ac mae’n cyfrannu’n benodol at lwyddiant gwelliannau hanfodol i’r rheilffyrdd.

Llywodraethu Rheoli ProsiectautTrafnidiaeth

Mae Sylvi wedi cael sawl rôl allweddol yn Network Rail ers ymuno ar y cynllun Rheoli Busnes i raddedigion yn 2017. Sylvi yw’r Rheolwr Llywodraethu Portffolio ar hyn o bryd, yn arbenigo mewn rheoli rhanddeiliaid a chyflawni prosiectau cymhleth. 

Sylvi Burton (BSc 2016)

Cwrdd â'n mentor

Beth Button

(BScEcon 2012)

Mae Beth yn Gyfarwyddwr Materion Allanol yng Nghymdeithas Prifysgolion y Gymanwlad (ACU), lle mae’n arwain ar waith eirioli gyda llywodraethau, arianwyr a rhanddeiliaid o bob rhan o’r Gymanwlad, ac ar y gwaith o ymgysylltu â rhwydwaith byd-eang ACU o 400 o aelodau mewn dros 40 o wledydd.

Mae Beth wedi arwain ar ymgyrchoedd, ar gyfathrebu a materion cyhoeddus mewn sawl corff addysg uwch yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol. Mae hi wedi bod mewn rolau cynrychioliadol yn y Cenhedloedd Unedig ac roedd hi’n aelod o banel adolygu addysg uwch Llywodraeth Cymru. Astudiodd Beth Addysg a Chymdeithaseg, a bu’n swyddog addysg Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, cyn cael ei hethol yn Ddirprwy Lywydd ac yna’n Llywydd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr yng Nghymru, ac yna i Bwyllgor Gwaith Undeb Myfyrwyr Ewrop. Mae Beth yn aelod lleyg o Gyngor Prifysgol Caerdydd. 

Beth Button (BScEcon 2012)

CyfarwyddwrEiriolaethAddysg

Mae Beth yn Gyfarwyddwr Materion Allanol yng Nghymdeithas Prifysgolion y Gymanwlad (ACU), lle mae’n arwain ar waith eirioli gyda llywodraethau, arianwyr a rhanddeiliaid ym mhob rhan o’r Gymanwlad. 

Liza Chan Sow Keng (LLB 1980)

Cwrdd â'n mentor

Liza Chan Sow Keng

(LLB 1980)

Galwyd Liza yn fargyfreithiwr i’r Bar yng Nghymru a Lloegr ac mae’n aelod o Gymdeithas Anrhydeddus Lincoln’s Inn. Cafodd ei derbyn yn adfocad a chyfreithiwr i’r Uchel Lys ym Malaya yn 1982. Sefydlodd a rhedodd gwmni Messrs Liza Chan & Co., ac fe adawodd y cwmni i ymuno â’r farnwriaeth. Bu iddi ymddeol fel barnwr Uchel Lys Kuala Lumpur ddiwedd Tachwedd 2023. Mae hi bellach yn ymgynghorydd cyfreithiol.

Y GyfraithYmgynghori Eiriolaeth

A hithau bellach yn ymgynghorydd cyfreithiol, mae Liza wedi cael gyrfa hynod lwyddiannus fel bargyfreithiwr, cyfreithiwr a barnwr yn Uchel Lys Kuala Lumpur. 

Jacqueline Cheung (MSc 2004)

Cwrdd â'n mentor

Jacqueline Cheung

(MSc 2004)

Cafodd Jacqueline radd meistr mewn Seicoleg Alwedigaethol o Brifysgol Caerdydd a gradd meistr mewn Seicoleg Gymhwysol o Brifysgol Dinas Hong Kong. Ar hyn o bryd hi yw Uwch Gynghorydd Strategaeth Gweithlu yn Llywodraeth Tiriogaeth y Gogledd, Awstralia.

Cyn hynny, bu’n gweithio fel Uwch Gyfarwyddwr a Phennaeth Sefydliad a Datblygu Talent mewn amryw ddiwydiannau gan gynnwys gwasanaethau ariannol, gwasanaethau proffesiynol, manwerthu, eiddo, ac addysg. Mae hi’n hyfforddwr ardystiedig gyda’r Ffederasiwn Hyfforddi Rhyngwladol sy’n arbenigo mewn gosod nodau gyrfa, trawsnewid gyrfaoedd, ysgrifennu CV a sgiliau cyfweld, a menywod mewn arweinyddiaeth.

Adnoddau Dynol Cyfarwyddwr Hyfforddi

Jacqueline yw Uwch Gynghorydd Strategaeth Gweithlu Llywodraeth y Diriogaeth Ogleddol yn Awstralia ac mae’n hyfforddwr wedi’i hardystio gan y Ffederasiwn Hyfforddi Rhyngwladol.

Debbie Clarke

Cwrdd â'n mentor

Debbie Clarke

(MBA 1996)

Mae Debbie’n gyfarwyddwr ar ei chwmni ymgynghori ei hun, New Clarke Ventures, ac mae’n Gyfarwyddwr Anweithredol ar sawl corff. Mae hi wedi gweithio am dros 28 mlynedd ym maes cyllid corfforaethol, gan arbenigo mewn uno a chaffael cwmnïau ym maes bancio buddsoddi a chyfrifeg.

Sefydlodd ei busnes ymgynghori byrddau ei hun yn 2017, lle mae’n defnyddio ei phrofiad o gynghori perchnogion busnes, entrepreneuriaid, a’u byrddau. Ar hyn o bryd, hi hefyd yw Cadeirydd Triathlon England, Cyfarwyddwr Anweithredol Ffederasiwn Triathlon Prydain, Cyfarwyddwr Anweithredol Sefydliad y Dyfodol yn y Sefydliad Siartredig ar gyfer Gwarantau a Buddsoddiadau ac Is-Gadeirydd Child’s i Foundation.

Debbie Clarke (MBA 1996)

CylidYmgynghoriCyfarwyddwr

Gweithiodd Debbie am dros 28 mlynedd ym maes cyllid corfforaethol ac mae’n parhau i gynnig cyngor strategol i Fyrddau. Mae gan Debbie yn Gyfarwyddwr Anweithredol ar sawl corff ym meysydd chwaraeon, hybu llythrennedd ariannol, a diwygio gofal cymdeithasol yn Affrica.

 Jakie Dias (MEd 2000)

Cwrdd â'n mentor

Jakie Dias

(MEd 2000)

Mae Jakie yn Gadeirydd ac Athro Cyswllt yn yr Adran Nyrsio, Coleg Gwyddorau Iechyd, Prifysgol Sharjah. Gwnaeth hi lansio’r rhaglen Meistr cyntaf mewn Gofal Critigol i Oedolion yn yr Emiraethau Arabaidd Unedig. Mae Jakie hefyd yn Uwch Gymrawd Academi Addysg Uwch y DU ac yn Ysgolhaig Anne Marie Schimmel.

Mae Jakie yn arweinydd ym maes addysg gofal iechyd, a hi oedd Cyfarwyddwr Sefydlu’r Ganolfan Arloesedd mewn Addysg Feddygol – y ganolfan efelychu gyntaf ym Mhacistan ym Mhrifysgol Aga Khan, Pacistan.

IechydAddysgCyfarwyddwr

Jakie yw Cadeirydd ac Athro Cyswllt yn Adran Nyrsio Prifysgol Sharjah. Mae’n Uwch-gymrawd yr Academi Addysg Uwch yn y DU hefyd.

Miguela Gonzalez (MBA 2002)

Cwrdd â'n mentor

Miguela Gonzalez

(MBA 2002)

Strategydd diwylliant a chynhwysiant yw Miguela, sydd â chefndir amrywiol ym meysydd sy’n cynnwys cyfathrebu, trawsnewid diwylliannol, rheoli busnes, a’r cyfryngau darlledu.  

Ar hyn o bryd, mae hi’n arwain ar amrywiaeth, tegwch a chynhwysiant mewn cwmni byd-eang sy’n arbenigo yng ngwyddorau bywyd a biodechnoleg, lle mae hi’n goruchwylio mentrau sy’n alinio ymdrechion sy’n gysylltiedig â chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant (EDI) â strategaeth fusnes.  

Mae Miguela hefyd yn gwneud PhD yn Ysgol Busnes Caerdydd, a ffocws yr ymchwil honno yw rhoi Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru ar waith. Mae hi’n ymddiriedolwr ar fwrdd Shelter Cymru, ac yn gadeirydd y llywodraethwyr mewn ysgol yng Nghaerdydd. Hefyd, bu’n Gomisiynydd gyda’r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru. 

Treuliodd Miguela 15 mlynedd yn y BBC, gan gyfrannu at fentrau a oedd yn ceisio alinio amrywiaeth a chynhwysiant â nodau strategol ehangach y sefydliad.  

CyfryngauCydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant (EDI) Biotechnoleg

Strategydd diwylliant a chynhwysiant yw Miguela, sydd â chefndir amrywiol ym meysydd sy’n cynnwys cyfathrebu, trawsnewid diwylliannol, rheoli busnes, a’r cyfryngau darlledu. Ar hyn o bryd, mewn cwmni byd-eang sy’n arbenigo yng ngwyddorau bywyd a biodechnoleg, mae hi’n arwain ar amrywiaeth, tegwch a chynhwysiant.  

Daniella Graham Stollery

Cwrdd â'n mentor

Daniella Graham Stollery

(BScEcon 2010)

Mae Daniella yn arbenigwr uchel ei pharch yn y byd cyfathrebu gyda dros 14 mlynedd o brofiad golygyddol, ac ym meysydd ymchwil, cysylltiadau cyhoeddus a strategaeth brand. Mae hi bellach yn gweithio fel cyfarwyddwr strategol llawrydd. 

Ar ôl dechrau gyrfa newyddiadurol yn awdur a golygydd yn Metro.co.uk, mae hi wedi treulio’r degawd diwethaf ym maes cyfathrebu corfforaethol a defnyddwyr, yn gweithio gyda sefydliadau mor amrywiol ag Iechyd Cyhoeddus Lloegr, LEGO a Huawei.  

Daniella Graham Stollery (BScEcon 2010)

Cyfathrebu Cysylltiadau CyhoeddusNewyddiaduriaeth

Mae Daniella yn arbenigwr uchel ei pharch yn y byd cyfathrebu gyda dros 14 mlynedd o brofiad golygyddol, ac ym meysydd ymchwil, cysylltiadau cyhoeddus a strategaeth brand. Mae hi bellach yn gweithio fel cyfarwyddwr strategol llawrydd. 

Helen Haq-Smith (LLB 1998)

Cwrdd â'n mentor

Helen Haq-Smith

(LLB 1998)

Mae Helen wedi bod yn ymarfer cyfraith fewnfudo ers 2005, gan ddatblygu dulliau gweithio hynod o bragmatig sy’n canolbwyntio ar greu atebion ym maes mewnfudo.

Cymhwysodd yn gyfreithiwr mewn cwmni yn Ninas Llundain, sef Berwin Leighton Paisner yn 2003, cyn mynd rhagddi i weithio i’r cyhoeddwr cyfreithiol PLC, lle bu’n ymchwilio, yn ysgrifennu ac yn golygu gwybodaeth am graffter cyfreithiol ac adolygiadau o’r farchnad gyfreithiol. Mae hi’n defnyddio’r profiad hwn yn ei hymarfer cyfraith fewnfudo, a hynny er budd ei chleientiaid. Ar ôl gwirfoddoli gydag Amnesty International, bu Helen yn gweithio yn rhai o brif gwmnïau cyfraith fewnfudo Llundain: Wesley Gryk Solicitors, Kingsley Napley, a Fragomen, gan gynorthwyo cleientiaid, boed yn ffoaduriaid neu’n gorfforaethau byd-eang.

Sefydlodd Helen yr adran fewnfudo yn North Star Law yn Llundain yn 2015, cyn lansio ei chwmni ei hun yn 2020 sydd ond yn canolbwyntio ar gyfraith fewnfudo’r DU.

Mae hi wedi ysgrifennu a chyflwyno ar bynciau mewnfudo i LexisPSL, Cymdeithas Ymarferwyr Cyfraith Fewnfudo (ILPA) a Sefydliad y Cyfarwyddwyr (IoD).

Y GyfraithPartner Cyhoeddi

Mae Helen wedi bod yn ymarfer cyfraith fewnfudo ers 2005. Mae gan Helen beth wmbreth o brofiad, gan sefydlu ei chwmni ei hun, sef Helen Smith Immigration Ltd yn 2020, sy’n canolbwyntio’n llwyr ar gyfraith fewnfudo’r DU. 

Daniella Graham Stollery

Cwrdd â'n mentor

Lara Hussein

(BScEcon 1986)

Sharifah Menyalara Hussein, chaiff ei galw’n Lara, yw Prif Swyddog Gweithredol a phartner sefydlu M&C Saatchi Kuala Lumpur. Dan ei harweinyddiaeth, mae M&C Saatchi wedi bod ymhlith yr asiantaethau gorau yn gyson, gan ennill nifer o wobrau aur. Dechreuodd ei gyrfa mewn hysbysebu a chyfathrebu ar ôl dychwelyd i Falaysia ar ôl cwblhau ei gradd, gan chwarae rhannau allweddol yn Bates ac Young & Rubicam. Sefydlodd Brand Energy, cwmni ymgynghori creadigol, cyn y gofynnwyd iddi sefydlu swyddfa M&C Saatchi ym Malaysia. Mae Lara wedi cael ei disgrifio’n un o arweinwyr benywaidd mwyaf llwyddiannus Malaysia. Mae ei hysbryd arloesol yn gydnabyddedig, gan mai hi oedd y fenyw gyntaf o Falaysia i dderbyn gwobr Arweinydd Busnes y Flwyddyn yn 2019 yn y Gwobrau Menywod yn Arwain Newid. Mae Lara hefyd yn aelod o Fwrdd y felin drafod IDEAS, yn fentor ar raglen fyd-eang M&C Saatchi, ac yn Ymddiriedolwr i Sefydliad Tunku Abdul Rahman.

Lara Hussein (BScEcon 1986)

Prif Swyddog Gweithredol Hysbysebu Cyfathrebu   

Lara yw Prif Swyddog Gweithredol a phartner sefydlu M&C Saatchi Kuala Lumpur. Dechreuodd ei gyrfa mewn hysbysebu a chyfathrebu ac mae wedi cael ei disgrifio yn un o arweinwyr benywaidd mwyaf llwyddiannus Malaysia. 

Hannah Jefferys (MArch 2009)

Cwrdd â'n mentor

Hannah Jefferys

(MArch 2009)

Hannah yw Cyfarwyddwr Sefydlol Sài Gòn Cider. Ar ôl graddio, bu’n Ddylunydd ac yn Bensaer, ond ochr yn ochr â hyn penderfynodd ddilyn ei hangerdd dros Seidr, gan sefydlu Seidr Sài Gòn yn Fietnam yn 2013.

Dechreuodd y brand 10 mlynedd yn ôl fel hobi yn y gegin, ac mae bellach yn cael ei wneud ar raddfa fawr a’i allforio i’r DU, Hong Kong a gwledydd eraill.

Mae Hannah bellach yn gweithio’n amser llawn fel eu Cyfarwyddwr Sefydlol a Gwneuthurwr Seidr, ac yn fam i ddau o blant. Fel prif frand seidr Fietnam, mae Sài Gòn Cider yn cynnig seidr organig arobryn sy’n cael ei wneud yn Fietnam.

CyfraithCyflafaredduYmgynghori

Hannah yw Cyfarwyddwr Sefydlol Sài Gòn Cider yn Fietnam. Ar ôl graddio, bu’n Ddylunydd a Phensaer, ond sefydlodd Sài Gòn Cider yn 2013, cwmni sy’n cynhyrchu seidr organig. Mae’r cwmni bellach yn allforio i’r DU, Hong Kong a gwledydd eraill.

Leticia Korin-Moore (BA 2006)

Cwrdd â'n mentor

Leticia Korin-Moore

(BA 2006)

Graddiodd Leticia Korin-Moore mewn Newyddiaduraeth, Ffilm a Darlledu yn 2006, ac mae hi bellach yn Rheolwr Gyfarwyddwr SBW, un o’r prif asiantaethau marchnata a hysbysebu integredig yng Nghymru a De-orllewin Lloegr. Mae’n gweithio fel marchnatwr siartredig CIM ers 12 mlynedd, ac mae ganddi bron i 20 mlynedd o brofiad ym maes cyfathrebu. Hi sy’n arwain cenhadaeth SBW ar ‘wneud y pethau da’, i gael effaith gadarnhaol drwy eu holl waith. Mae ganddi ddawn o drawsnewid briffiau cymhleth yn ymgyrchoedd cofiadwy wedi’u harwain gan strategaethau, a hynny gan ysbrydoli ei thîm talentog yn SBW i gyflwyno gwaith gwych sy’n helpu gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Mae SBW yn dathlu eu pen-blwydd yn 20 eleni, ac maen nhw wedi gweithio ar lawer o ymgyrchoedd ymwybyddiaeth a newid ymddygiad i gleientiaid gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Shelter Cymru, AdviceLink Cymru, Archwilio Cymru, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Defra, y Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol, y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Dŵr Cymru ac Ymddiriedolaethau’r GIG.

Cyfarwyddwr Marchnata Ymgyrchoedd

Leticia yw Rheolwr Gyfarwyddwr SBW, un o’r prif asiantaethau marchnata a hysbysebu integredig yng Nghymru a De-orllewin Lloegr. Mae’n gweithio fel marchnatwr siartredig CIM ers 12 mlynedd, ac mae ganddi bron i 20 mlynedd o brofiad ym maes cyfathrebu. 

Rebecca Barnett (BSc 2008)

Cwrdd â'n mentor

Hannah Lang

(BA 2003)

Mae Hannah yn Bennaeth Cyfathrebu Corfforaethol yn PPF ac mae ganddi dros 15 mlynedd o brofiad mewn cysylltiadau cyhoeddus a chyfathrebu, yn fewnol ac mewn asiantaethau. Mae ganddi brofiad cyffredinol mewn ystod o ddisgyblaethau cyfathrebu gan gynnwys cysylltiadau cyhoeddus defnyddwyr, corfforaethol a rhwng busnesau, rheoli argyfyngau, cyfryngau cymdeithasol a chyfathrebu digidol, cyfathrebu mewnol, rheoli brandiau a dylunio, adrodd corfforaethol a chyfathrebu ynghylch cynaliadwyedd. Gall Hannah eich helpu i ddeall sut i gael effaith yn eich rôl ym mha bynnag faes cyfathrebu/cysylltiadau cyhoeddus y byddwch yn ei ddilyn. Astudiodd Hannah Newyddiaduraeth, Ffilm a Darlledu ym Mhrifysgol Caerdydd.

Hannah Lang (BA 2003)

Cyfathrebu Cysylltiadau cyhoeddus Ymgyrchoedd

Mae Hannah yn Bennaeth Cyfathrebu Corfforaethol yn Pension Protection Fund ac mae ganddi dros 15 mlynedd o brofiad mewn cysylltiadau cyhoeddus a chyfathrebu.

Rebecca Barnett (BSc 2008)

Cwrdd â'n mentor

Chung Lynn Mac

(BArch 1995)

Ar hyn o bryd, Chung Lynn Mac (Astudiaethau Pensaernïol 1995) yw Prif Swyddog Gweithredol Grŵp Nando’s Malaysia a Singapôr. O dan gyfarwyddyd Chung Lynn Mac, dechreuodd Nando’s Malaysia weithrediadau ym 1998, ac ers hynny mae’r cwmni wedi ehangu’n sylweddol ym mhob rhan o Falaysia a Singapôr. O dan ei harweiniad, mae Nando’s wedi ennill nifer o wobrau gan gynnwys ‘Busnes y Flwyddyn’ a ‘Bwyty Gorau’r Flwyddyn’ yng ngwobrau Byd-eang Nando’s yn 2010. Mae rhai o gyflawniadau personol Chung Lynn Mac yn cynnwys ennill gwobrau ‘SMB Women Entrepreneur 2005’ yng ngwobrau SMI a ‘Woman of Style and Substance’ Marie Claire. Yn fwy diweddar, enillodd wobr ‘Great Women of Our Times’ Women’s Weekly, yn y categori Cyllid a Masnach.

Chung Lynn Mac (BArch 1995)

Prif Swyddog Gweithredol Entrepreneur F&B (Bwyd a Diod) 

Ar hyn o bryd, Chung Lynn (BArch 1995) yw Prif Swyddog Gweithredol Grŵp Nando’s Malaysia a Singapôr. Mae hi wedi ennill gwobrau gan gynnwys ‘SMB Women Entrepreneur 2005′, ‘Woman of Style and SubstanceMarie Claire, a gwobr ‘Great Women of Our TimesWomen’s Weekly.  

Penny Maxwell-Lyte (BEng 2008, MSc 2010, PhD 2015)

Cwrdd â'n mentor

Penny Maxwell-Lyte

(BEng 2008, MSc 2010, PhD 2015)

Mae Penny’n Brif Beiriannydd yn Sustainable Energy Ltd. Mae hi wedi cwblhau BEng mewn Peirianneg Fecanyddol, MSc mewn Ynni Cynaliadwy a’r Amgylchedd, a PhD mewn Pyrolysis a Nwyeiddio. Ers gadael y brifysgol, mae Penny wedi ymrwymo i ddatgarboneiddio sector ynni’r DU, gan arbenigo mewn rhoi rhwydweithiau gwres carbon isel ar waith ledled dinasoedd. Mae’n arwain ar y gwaith o gyflawni astudiaethau dichonoldeb tecno-economaidd, ceisiadau am gyllid grant, cynllunio rhwydweithiau gwres a chanolfannau ynni, a strategaethau datgarboneiddio. Y tu hwnt i’r gwaith technegol, mae Penny’n chwarae rhan allweddol yn mireinio prosesau mewnol, yn hyfforddi a recriwtio, ac yn arwain ar genhadaeth ei chwmni dros lunio dyfodol cynaliadwy.

Peirianneg Cynaliadwyedd Ynni adnewyddadwy

Mae Penny’n Brif Beiriannydd yn Sustainable Energy Ltd. Mae Penny wedi ymrwymo i ddatgarboneiddio sector ynni’r DU, gan arbenigo mewn rhoi rhwydweithiau gwres carbon isel ar waith ledled dinasoedd.  

Misha Mittal (MSc 2013)

Cwrdd â'n mentor

Misha Mittal

(MSc 2013)

Mae Misha yn Uwch Reolwr yn Expo Dubai Group, menter fyd-eang Expo City Dubai. Gyda dros 14 mlynedd o brofiad mewn amrywiaeth o rolau yn yr Emiradau Arabaidd Unedig, y DU ac India. Yn ei rôl, mae’n arwain y gwaith cynghori dinas i gefnogi arweinwyr dinasoedd a rhanddeiliaid ledled y byd gan roi cyngor ar ddatblygu cynaliadwy.

Cyn hynny bu’n gweithio gyda’r Adran Bwrdeistrefi a Thrafnidiaeth yn Abu Dhabi ac roedd hefyd yn aelod o’r Pwyllgor Cynghori Technegol ar gyfer prosiectau seilwaith ar draws dinas Abu Dhabi ar gyfer 2030, ynghyd â mentrau strategol eraill ledled y wladwriaeth. Ar hyn o bryd hi yw Arweinydd Cangen Dubai ar gyfer y Rhwydwaith Gohebwyr Cerddedadwyedd Byd-eang ac mae’n aelod o’r pwyllgor gwaith ar Wres a Thrafnidiaeth ar gyfer sefydliad ariannol rhyngwladol. Mae hi’n Weithiwr Economi Gylchol ardystiedig, yn aelod o ISOCARP ac yn aelod o Gyngor Busnes yr Emiradau Arabaidd Unedig ac India. Mae Misha wedi cael ei gwahodd fel siaradwr a rheithgor ar lawer o gynadleddau lleol a rhyngwladol yn y gorffennol ac mae wedi bod ar y rhaglen mentora gyrfa gyda Phrifysgol Caerdydd ers 2021.

Cynaliadwyedd Cynllunio Trefol Pensaernïaeth

Mae Misha yn Uwch Reolwr yn Expo Dubai Group, sef menter fyd-eang Expo City Dubai. Mae’n arwain y gwaith cynghori dinas i gefnogi arweinwyr dinasoedd a rhanddeiliaid ledled y byd ym maes datblygu cynaliadwy.

Rashi Sanon Narang (BSc 2003)

Cwrdd â'n mentor

Rashi Sanon Narang

(BSc 2003)

Dechreuodd yr entrepreneur Rashi ‘Heads Up For Tails’, yn 2008. Ers ei sefydlu mae HUFT wedi dod yn brif frand gofal anifeiliaid anwes India gyda 85 o siopau, 50+ o sbas anifeiliaid anwes, presenoldeb cryf ar-lein trwy www.headsupfortails.com ac mae bellach ar flaen y gad mewn marchnad nad oedd wedi’i sefydlu yn India o’r blaen.

Ynghyd ag adeiladu’r cwmni mae hi hefyd wedi creu Sefydliad Heads Up For Tails, sef cangen elusennol y cwmni, sy’n gweithio i gefnogi anifeiliaid cymunedol (ar y stryd), sydd hyd yma wedi darparu 1.5 miliwn o brydau bwyd a 17,000 o goleri adlewyrchol i gŵn stryd ledled India.

Along with building the company she has also set up the Heads Up For Tails Foundation, the charitable arm of the company works to support community (street) animals which to date has provided 1.5 million meals and 17000 reflective collars to street dogs across India.

EntrepreneurManwerthu Y trydydd sector

Sefydlodd Rashi ‘Heads Up For Tails’, sef prif frand gofal anifeiliaid anwes India yn 2008. Mae gan y brand 85 o siopau manwerthu a phresenoldeb ar-lein cryf. Mae hi hefyd wedi sefydlu elusen i helpu cŵn di-gartref yn India.

Sitpah Selvaratnam (LLB 1988)

Cwrdd â'n mentor

Sitpah Selvaratnam

(LLB 1988)

Mae Sitpah yn gyflafareddwyr annibynnol amser llawn, sy’n cael ei phenodi gan bleidiau, cyd-gyflafareddwyr a sefydliadau cyflafareddu ym mhob cwr o’r byd i gyflafareddu ar anghydfodau masnachol a morol.

25 mlynedd yn ôl, fe wnaeth Sitpah gyd-sefydlu’r cwmni cyfreithiol Tommy Thomas ar ôl bod yn bartner yn un o’r cwmnïau cyfreithiol mwyaf ym Malaysia. Mae ei gyrfa gyfreithiol wedi canolbwyntio ar ansolfedd corfforaethol, ymgyfreitha masnachol ac anghydfodau morgludiant.

A hithau’n ymgyfreithiwr morwrol a masnachol blaenllaw, mae hi wedi cynrychioli nifer o gorfforaethau a hi yw llywydd sefydlu Cymdeithas Ryngwladol Cyfraith Forwrol Malaysia. Mae hi wedi cynrychioli Llywodraeth Malaysia ar faterion yn ymwneud â chyfraith forwrol ac wedi bod yn hynod ddylanwadol wrth ddiwygio’r maes hwn ym Malaysia. 

Ymddeolodd Sitpah o fod yn gwnsler, ac o gwmni Tommy Thomas ym mis Rhagfyr 2023. Roedd hi hefyd yn aelod o Lys Cyflafareddu Rhyngwladol yr ICC yn cynrychioli Malaysia tan 2024.

Mae Sitpah yn gyflafareddwr annibynnol amser llawn. Cyn hynny, bu’n ymgynghorydd yn Tommy Thomas, Eiriolwyr a Chyfreithwyr, ar ôl cyd-sefydlu’r cwmni yn 2000. 

Lizzie Swaffield (MSc 2017)

Cwrdd â'n mentor

Lizzie Swaffield

(MSc 2017)

Lizzie yw Rheolwr Cyflawni Cenedlaethol y Sefydliad Gwaddol Addysgol; elusen annibynnol sydd wedi ymroi i dorri’r cysylltiad rhwng cefndir teuluol a chyflawniad addysgol drwy ddefnyddio tystiolaeth yn well. Mae ei gwaith yn canolbwyntio ar newid systemau drwy gefnogi ysgolion, colegau, cyrff rhanbarthol a’r llywodraeth i gael mynediad at dystiolaeth ymchwil a’i defnyddio.

Mae Lizzie yn angerddol dros gyfiawnder cymdeithasol a thegwch addysgol. Mae ganddi brofiad eang mewn uwch rolau rheoli polisi, rhaglenni a phartneriaethau strategol ar ôl treulio 18 mlynedd ym myd addysg, y trydydd sector ac ym maes llywodraethiant yng Nghymru a Lloegr. 

Y Trydydd Sector Addysg Polisi

Lizzie yw Rheolwr Cyflawni Cenedlaethol y Sefydliad Gwaddol Addysgol. Mae ganddi brofiad eang mewn uwch rolau rheoli polisi, rhaglenni a phartneriaethau strategol ar ôl treulio 18 mlynedd ym myd addysg, y trydydd sector ac ym maes llywodraethiant.

Dena Tahmasebi (BA 2004)

Cwrdd â'n mentor

Dena Tahmasebi

(BA 2004)

Cyfarwyddwr Cyfathrebu Corfforaethol, Cysylltiadau Cyhoeddus a Brandiau Cyflogwyr yw Dena Tahmasebi. Mae ganddi dros 18 mlynedd o brofiad, sy’n cynnwys degawd o brofiad o fod yn newyddiadurwr gyda’r BBC. Yn dilyn symud i’r maes gwasanaethau TG busnes-i-fusnes (B2B) ac ymgynghori, mae hi wedi arwain timau cyfathrebu traws-swyddogaethol mewn sectorau amrywiol, gan lunio strategaethau sy’n gwella enw da brand ac ymwneud ymhlith cyflogeion. Dena yw Cyfarwyddwr Diversity Role Models, elusen yn y DU sy’n canolbwyntio ar atal bwlio mewn ysgolion a meithrin amgylcheddau cynhwysol, ac mae hi ar Fwrdd Ymddiriedolwyr yr elusen hon. Mae hi’n angerddol am fentora, amrywiaeth ac adfywio amgylcheddol ac yn canolbwyntio ar ddefnyddio ei sgiliau a’i phrofiad i gael effaith ystyrlon yn broffesiynol ac yn bersonol.

Cyfarwyddwr Cyfathrebu Cysylltiadau Cyhoeddus

Cyfarwyddwr Cyfathrebu Corfforaethol, Cysylltiadau Cyhoeddus a Brandiau Cyflogwyr yw Dena. Mae ganddi dros 18 mlynedd o brofiad, sy’n cynnwys degawd o brofiad o fod yn newyddiadurwr gyda’r BBC. 

Sandister Tei (MA 2015)

Cwrdd â'n mentor

Sandister Tei

(MA 2015)

Mae Sandister wedi bod yn weithiwr proffesiynol cymunedau digidol ers 2012. Ar hyn o bryd, mae hi’n Arbenigwr yn Wikimedia Foundation, sef y sefydliad sy’n cynnal Wikipedia. Mae hi’n gweithio gyda thimau Technoleg Gymunedol ac Ymddiriedaeth a Diogelwch, gan gysylltu cymunedau byd-eang Wikimedia â thimau cynnyrch i sicrhau bod adnoddau a nodweddion newydd yn cael eu dylunio’n gynhwysol a’u mabwysiadu.

Mae Sandister wedi cyflawni rolau amrywiol yn drefnydd, yn hyfforddwr, yn eiriolwr polisi ac yn dderbynnydd grant yn Wikimedia Movement. Yn 2020, cafodd ei henwi’n ‘Wikimedian of the Year’ gan Jimmy Wales, sylfaenydd Wikipedia. Ymhlith y sefydliadau y mae Sandister wedi gweithio gyda nhw mae Multimedia Ghana Limited, Citi FM, Channel One, Al Jazeera, Impact Hub, re:publica, Jack Ma Foundation, a Llysgenhadaeth yr Unol Daleithiau (Accra).

Cyfryngau Technoleg Cysylltiadau Cymunedol

Mae Sandister wedi bod yn weithiwr proffesiynol cymunedau digidol ers 2012. Ar hyn o bryd, mae hi’n Arbenigwr yn Wikimedia Foundation. Mae Sandister wedi cyflawni rolau amrywiol yn drefnydd, yn hyfforddwr, yn eiriolwr polisi ac yn dderbynnydd grant yn Wikimedia Movement. 

Eleanor Wheeler (BSc 2009, MSc 2010)

Cwrdd â'n mentor

Eleanor Wheeler

(BSc 2009, MSc 2010)

Mae Eleanor yn Cyfarwyddwr Oncoleg yn The Health Policy Partnership. Dechreuodd ei gyrfa ym maes ymchwil, cyn symud i’r sector elusennol, gan ennill profiad ar draws maes datblygu strategaethau, dylanwad gwleidyddol, a chynnwys cleifion yn y Gymdeithas Sglerosis Ymledol ac Ymchwil Canser y DU. Ar hyn o bryd mae Eleanor yn canolbwyntio’n benodol ar oncoleg gydag arbenigedd mewn datblygu rhwydweithiau byd-eang. Mae ei gwaith ymgynghorol yn dod ag ymchwil ac arbenigwyr at ei gilydd i ffurfio consensws ar y materion sy’n wynebu ein systemau iechyd, y gellir ei ddefnyddio i wneud achos cymhellol dros newid polisïau.

Cyfarwyddwr Iechyd Ymchwil

Eleanor yw Cyfarwyddwr Oncoleg The Health Policy Partnership. Dechreuodd ei gyrfa ym maes ymchwil, cyn symud i’r drydydd sector, gan ennill profiad ym maes datblygu strategaethau, dylanwad gwleidyddol, a chynnwys cleifion.

Emma Young (BSc 1996)

Cwrdd â'n mentor

Emma Young

(BSc 1996)

Mae Emma yn awdur ac yn gyfarwyddwr a sylfaenydd cwmni Emma Young Consulting Ltd. A hithau’n gynghorydd cynaliadwyedd annibynnol, mae Emma yn angerddol am bŵer stori i newid y byd. Mae gan Emma dros 20 mlynedd o brofiad yn y proffesiwn, gan dreulio naw mlynedd yn BT Group lle bu’n creu ac yn goruchwylio’r gwaith o gyflawni strategaeth gyfathrebu cynaliadwyedd y cwmni rhyngwladol hwn.

Ers 2013, mae’n gweithio’n annibynnol gydag ystod eang o gleientiaid gan roi cyngor strategol, cynllunio ymgyrchoedd ymgysylltu, a llunio adroddiadau cynaliadwyedd.

Mae Emma hefyd yn awdur ffuglen. Mae hi wedi cyhoeddi tair nofel wedi eu gosod yng Nghymru dan y ffugenw E.L. Williams, gyda phedwaredd nofel ar y gweill i’w rhyddhau yn 2025.

Mae Emma yn Gymrawd y Sefydliad Marchnata Siartredig (CIM), y Sefydliad Cynaliadwyedd a Chyfrifoldeb Corfforaethol (ICRS) a’r RSA. Mae hi hefyd yn Aelod Achrededig o’r Sefydliad Cysylltiadau Cyhoeddus Siartredig (CIPR).

Cynaliadwyedd Cyfathrebu Ymgynghori

Mae Emma yn awdur ac yn gyfarwyddwr a sylfaenydd cwmni Emma Young Consulting Ltd. Mae hi’n gynghorydd cynaliadwyedd annibynnol, ac mae’n cynnig cyngor strategol, ymgyrchoedd ymgysylltu, ac adroddiadau ar gynaliadwyedd.