Mae’r hyn y byddwch chi’n ei ddysgu yma yn mynd ymhellach

Bwriwch olwg ar raddau sydd wedi’u cynllunio i roi eich gwybodaeth ar waith, herio eich meddwl a chael effaith yn y byd go iawn.

Ym Mhrifysgol Caerdydd, dim ond y man cychwyn yw eich gradd. Rydyn ni’n mynd â chi y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth gan archwilio syniadau a safbwyntiau newydd sy’n herio’ch meddwl, gan eich helpu i ddatblygu’r wybodaeth, y profiad a’r hyder i roi’ch dysgu ar waith.

Mae’r hyn y byddwch chi’n ei ddysgu yma yn mynd ymhellach. Gallwch fynd â’r wybodaeth honno gyda chi i fyd diwydiant, ar leoliadau, i gymunedau a mentrau a’i chymhwyso i’r heriau sy’n llunio’r byd o’n cwmpas.

Peidiwch â dysgu ar gyfer y dyfodol yn unig. Helpwch i’w siapio.

Pam Caerdydd?

Mae llety wedi’i warantu i’r rhan fwyaf o fyfyrwyr blwyddyn gyntaf.
Students in a studio
Mae galw mawr am ein graddedigion ni – mae 94% yn mynd ymlaen i astudio ymhellach neu’n dechrau swydd newydd yn fuan ar ôl graddio.

Y brifysgol

orau yng Nghymru

3ydd

Undeb y Myfyrwyr gorau yn y DU

3edd

ddinas fwyaf fforddiadwy i fyfyrwyr

Ffynonellau: Canllaw Prifysgolion y Times a’r Sunday Times 2027 | Gwobrau Dewis y Myfyrwyr WhatUni 2026 | Mynegai Costau Byw Myfyrwyr NatWest 2025

Cysylltu â ni

Mae ein tîm ymholiadau yma i ateb dy gwestiynau am Brifysgol Caerdydd, ein rhaglenni, y broses gwneud cais, bywyd yn y DU ac unrhyw beth arall!

Lawrlwytho prosbectws

I ddysgu rhagor am ein cyrsiau, y brifysgol ei hun a’n campws penigamp, cer ati i lawrlwytho ein Prosbectws Israddedigion.

Sgwrsio â’n myfyrwyr

Gall ein tîm o lysgenhadon myfyrwyr ateb unrhyw gwestiynau sydd gen ti am Brifysgol Caerdydd. Maen nhw wrth law i dy helpu i ddysgu rhagor am dy gwrs, lle byddi di’n byw, gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr, neu ble i ddod o hyd i’r coffi gorau, os yw hynny’n bwysig i ti.