Gwnewch wahaniaeth
Dechrau eich gyrfa fel gweithiwr gofal iechyd
Mae eich siwrnai gyda Phrifysgol Caerdydd ar fin dechrau…
Ar fin cymryd y cam cyntaf yn eich gyrfa? Ydych chi am ddewis cwrs sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn?
Tarwch olwg ar ein hystod lawn o gyrsiau gofal iechyd sydd ar gael ym Mhrifysgol Caerdydd, a dechrau eich gyrfa gofal iechyd yn un o brifysgolion rhagorol Grŵp Russell.
Cyrsiau hygyrch, darlithwyr ysbrydoledig a ffrindiau fydd gyda chi gydol oes – dyma beth sydd ar gael yn y ddinas anhygoel hon.
Gwnewch wahaniaeth heddiw
Dechreuwch ar yrfa y byddwch yn falch ohoni.
Rydym yn falch o allu dweud bod ein myfyrwyr yn bobl garedig, empathetig ac uchelgeisiol, sydd am wneud gwahaniaeth.
Dewisodd Jamie astudio bydwreigiaeth ar ôl ei phrofiad hi ei hun o roi genedigaeth, ac roedd hi am wneud argraff personol ar brofiadau mamau newydd eraill.
Yn dilyn yr amser a dreuliodd ym maes gofal iechyd, tyfodd chwilfrydedd Rhys gyda Ffisiotherapi, a sut allai ddefnyddio hynny i helpu pobl i wella.
Gan ddilyn ôl troed ei deulu a chwilio am swydd fyddai’n helpu pobl ac yn golygu mwy, dewisodd Gavin ddilyn gyrfa ym maes Nyrsio Iechyd Meddwl.
Dyma straeon go iawn ein myfyrwyr gofal iechyd sy’n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl.
Gallech chi fod yn eu plith hefyd.
Ein cyrsiau gofal iechyd
Ashleigh
Radiograffeg Ddiagnostig a Delweddu (BSc)
Gavin
Dion
Nyrsio Oedolion (BN)
Jamie
Bydwreigiaeth (BMid)
Liam
Therapi Galwedigaethol (BSc)
Billie
Nyrsio Plant (BN)
Rhys
Jake
Radiotherapi ac Oncoleg (BSc)
Pam Prifysgol Caerdydd?
Drwy adeiladu cysylltiadau ar draws y ddinas, mae Prifysgol Caerdydd yn elwa ar gysylltiadau cryf ag Ysbyty Athrofaol Cymru, y trydydd Ysbyty Athrofaol mwyaf yn y DU, a’r mwyaf yng Nghymru.
Gosodwyd y Brifysgol, sy’n rhan o’r Grŵp Russell, ar frig rhestr prifysgolion Cymru gan y Complete University Guide 2023. Mae Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd hefyd ymhlith y deg uchaf ar gyfer Therapi Galwedigaethol, Nyrsio a Ffisiotherapi.
radd flaenaf.
Sylwia, Nyrsio Iechyd Meddwl, Prifysgol Caerdydd
Eisiau gwybod mwy?
[email protected]
+44 (0)29 2068 7538
Gallwch hefyd ymweld â ‘Sut i wneud cais‘ i wneud cais’ ar wefan Prifysgol Caerdydd, i gael mwy o wybodaeth.
Mae Caerdydd yn eich disgwyl bob bore
Mae Caerdydd, sy’n enwog am ei henaid a’i hegni, yn ddinas heb ei thebyg. Prifddinas Gymreig gyfeillgar sy’n teimlo fel cartref oddi cartref.
Mae’n cynnig ymdeimlad o gymuned ac uchelgais – y cyfuniad perffaith i fyfyrwyr, p’un a ydych newydd orffen astudio, neu’n newid gyrfa er mwyn gwireddu eich amcanion.
Beth nesaf?
Os ydych yn barod i wireddu eich potensial fel myfyriwr gofal iechyd ym Mhrifysgol Caerdydd, cysylltwch i wneud cais, neu holwch am ragor o wybodaeth.
Darllenwch am eich opsiynau ym Mhrifysgol Caerdydd.
Anfonwch ebost atom os oes gennych unrhyw gwestiynau am wneud cais.
Ffoniwch ni os oes gennych unrhyw gwestiynau am wneud cais.
Barod i ddechrau ar eich gyrfa ym maes gofal iechyd? Gwnewch gais nawr.
Ydych chi am wneud gwahaniaeth?
Ewch ati i wneud cais heddiw er mwyn dechrau eich gyrfa ym maes gofal iechyd…