Rydym ni'n sefyll drosWerth Cyhoeddus

Croeso i Ysgol Busnes Caerdydd – yr Ysgol Busnes gyntaf yn y byd i ganolbwyntio ar Werth Cyhoeddus.

Rydym ni’n Ysgol Busnes sydd â phwrpas ac mae ein cenhadaeth yn glir – cael effaith gadarnhaol ar y byd. Nawr yw’r adeg i sefyll ar eich traed a chael eich cydnabod am eich cyfraniad i gymdeithas. Rydym yn rhoi gwerth ar fwy na llwyddiant economaidd yn unig. Rydym am ddod â dyngarwch, cynaliadwyedd, haelioni ac arloesedd i’r sector busnes.

Mae’n ddyletswydd arnom i gyd i helpu i gynnal ein heconomïau lleol a byd-eang, a hynny ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol a chenedlaethau presennol.

Gwerth Cyhoeddus yw’r enw sydd gennym am hyn.
Hwn yw ein pwrpas, a dyma rydym yn ei hyrwyddo.
Beth ydych chi’n ei hyrwyddo?
Gyda’n gilydd, rydyn ni’n newid busnes am byth…

Rwy'n sefyll dros y genhedlaeth nesaf

Rachel Ashworth
Fel unrhyw ysgol busnes arall rydym ni’n poeni am werth cyfranddalwyr, cynhyrchiant ac effeithlonrwydd. Ond rydym ni’n canolbwyntio lawn gymaint ar greu cyfoeth a chydraddoldeb yn yr economi ac anghenion cymdeithasol ehangach.

Ac rydym ni’n dechrau gweld y sector yn newid er gwell – sy’n beth da.

Ym Mhrifysgol Caerdydd rydym ni’n creu man lle caiff ein myfyrwyr eu hannog i herio, cadw meddwl agored a chael golwg eang ar y byd.

Mae ein myfyrwyr yn datblygu lefel uchel o wybodaeth a sgiliau yn eu hymchwil a’u hastudiaethau, ond mae’n ymwneud â beth arall sydd ganddynt.

Mae ein myfyrwyr yn gadael gyda’r hyder i ysgogi newid cadarnhaol yn y byd newydd hwn. Maen nhw’n gadael gydag ymdeimlad ehangach o bwrpas economaidd a dydyn nhw ddim wedi’u cloi i mewn i hen systemau a hen ffyrdd o feddwl.

Hon yw’r genhedlaeth sy’n mynd i unioni pethau.

Yr Athro Rachel Ashworth

Deon Ysgol Busnes Caerdydd

Rwy'n sefyll dros bwrpas

Nigel Williams
“Rhaid i barch fod yn fan cychwyn, canol a diwedd wrth weithio gyda phobl. Caiff llawer o gynnydd ei rwystro gan bobl sy’n canolbwyntio gormod arnyn nhw eu hunain. Pan fyddwn yn troi’r ysbienddrych y ffordd gywir, yn gwaredu agendâu personol ac yn mabwysiadu meddylfryd teg, dyna pryd y gwnawn ni gynnydd gwirioneddol a chynaliadwy.

Rwy’n rheolwr ar bobl, a fy man cychwyn wrth geisio datrys unrhyw her, mawr neu fach, yw cysylltu pwrpas yr unigolyn â phwrpas y sefydliad. Mae hyn yn cysylltu canlyniadau cwmni â phobl hapus.

Nid yw hyn bob amser yn bosibl. Yn ddealladwy, mae rhai pobl gweithio dim ond er mwyn talu’r rhent neu’r morgais, ac efallai na fyddant yn cysylltu â diben y sefydliad. Ond mewn byd delfrydol, mae cysylltu’r ddau yn ddechrau da, ac yn creu’r cylch llawn o werth cyhoeddus a phopeth y mae’n sefyll drosto.”

Nigel Williams

Gweinyddu Busnes (MBA 2022)

Rwy'n sefyll dros gydraddoldeb rhywedd

Apoorva Shridhar
“Mae anghydraddoldeb rhywedd yn cynyddu ledled y byd. Mae menywod a merched yn dal i wynebu gwahaniaethu rhemp ac mewn llawer o lefydd, yn dal i fethu manteisio ar addysg, annibyniaeth ariannol a chydraddoldeb ariannol. Pan gaiff menywod a merched eu grymuso i chwarae rolau gweithredol mewn cymdeithas, bydd cymunedau a’r gymdeithas ehangach yn symud ymlaen.

Mae cydraddoldeb rhywedd hefyd yn golygu gwell busnes. Mae cwmnïau sydd ag arweinyddiaeth gynhwysol ac amrywiol yn tueddu i wneud penderfyniadau gwell ac maen nhw’n fwy llwyddiannus. Mae angen i fusnesau gydnabod eu diwylliant corfforaethol eu hunain cyn y gallant gael effaith gadarnhaol ar lefel facro. Er enghraifft, hyrwyddo cydraddoldeb rhywedd, lleihau’r bwlch rhywedd a sicrhau mwy o fenywod mewn rolau arweinyddiaeth ar lefel uwch. Mae adroddiadau ac astudiaethau’n dangos bod y mesurau hyn yn cyfrannu’n aruthrol at yr economi ac at lwyddiant y busnes.

Dim ond y busnesau hynny sy’n ymgorffori gwerth cyhoeddus ym mhopeth maen nhw’n ei wneud sy’n gallu cael effaith ar godi grwpiau sydd ar yr ymylon. Mae newidiadau ar y ffordd, ac rwy’n gobeithio rhyw ddydd y byddwn ni’n cyrraedd pwynt lle na fydd angen y sgwrs ynghylch cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant mwyach.”

Apoorva Shridhar

Gweinyddu Busnes (MBA 2022)

Rwy'n sefyll dros gyfrifoldeb

Peter Wells
“Rydym ni’n wynebu rheidrwydd dirfodol i sicrhau newid, ond mae hynny’n cyflwyno ei anghysonderau ei hun. Rhywbeth i’w fwynhau yw bywyd, a does dim rhaid i werth cyhoeddus fod yn gyfyngiad. Yn hytrach, mae’n golygu mwynhau’r byd sydd gennych chi ac ar yr un pryd gyfrannu at gymdeithas er mwyn i bob un ohonom ni allu ffynnu.

Mae’r ethos gwerth cyhoeddus rydym ni’n ei addysgu yn ymestyn i mewn i’n credoau personol, a chaiff ei lywio ganddynt. Rwy’n llysieuwr ac yn aml yn siarad am fuddion cyfunol llysieuaeth. Mae’r ffordd rwyf i’n addysgu yn estyniad o’m cred y dylai’r dysgu hwnnw fod yn rhyngweithiad hwyliog a chadarnhaol.

Mae cysylltu gweithredoedd unigol ag effeithiau lleol a chanlyniadau byd-eang yn helpu pawb i wneud y newidiadau sydd eu hangen arnom i fynd i’r afael â’r problemau byd-eang mawr yn y byd. Ond mae hefyd yn ein helpu i sylweddoli ein bod yn un elfen fach mewn darlun eang a chymhleth – er gwaethaf anghysonderau niferus y byd, gallwn barhau i ymdrechu i fyw mewn ffordd well bob dydd.”

Yr Athro Peter Wells

Dirprwy Ddeon Gwerth Cyhoeddus

Rwy’n sefyll dros ddiogelwch yn y gwaith

Bethany Brown
“Rhaid i weithle fod yn fan lle gall pobl ddefnyddio eu sgiliau yn hyderus, beth bynnag yw’r rheini. Mae diogelwch seicolegol yn beth mewnol ac allanol, ac mae’n rhaid i fusnesau chwarae rôl i leihau stigma, codi ymwybyddiaeth a defnyddio eu pwerau i wneud y byd yn lle gwell.

Fel menyw mewn busnes, fe wn o lygad y ffynnon fod dewrder yn golygu twf, ac y gall bod yn ddewr olygu gweithredoedd bach neu gamau enfawr. Mae diogelwch yn golygu llawer o bethau, a gall darparu mannau gweithio diogel chwarae rhan wrth fynd i’r afael â llawer o broblemau, o drais yn erbyn menywod i hunanladdiad ac iechyd meddwl. Mae’r materion hyn yn fyd-eang a hefyd yn agos iawn atom ni.

Mae diogelwch a charedigrwydd yn arwain at arloesi ac mae’n galonogol gweld cenhedlaeth newydd o arweinwyr sy’n rhoi gwerth ar empathi. Nid ydym bellach yn ystyried caredigrwydd yn wendid ac mae hynny’n gwella diogelwch i bawb.”

Bethany Brown

Rheoli Busnes gyda Blwyddyn ar Leoliad Proffesiynol (MSc 2021)

Rwy'n sefyll dros gynhwysiant ariannol

Arman Eshragi
“Ledled y byd mae miliynau o bobl heb fynediad at gyfrifon banc a marchnadoedd rhyngwladol. Mae rhywun nad yw’n deall cyllid yn dda neu sy’n profi trafferthion ariannol yn annhebygol o geisio cyngor sy’n gymhleth ac yn aml yn ddrud.

Mae gwella llythrennedd ariannol yn helpu pobl ar bob lefel o incwm i gael gwell dealltwriaeth o sut mae cyllid yn gweithio, fel y gallant wneud penderfyniadau gwybodus, manteisio ar fudd-daliadau, a defnydido cyfleoedd i fuddsoddi. Pan fydd unigolion yn cael eu cefnogi gydag addysg, mynediad at dechnoleg a dealltwriaeth o systemau ariannol, mae eu penderfyniadau cadarn yn cael effaith gadarnhaol ar eu haelwydydd ac yn eu tro yn rhoi hwb i’r cymunedau lle maen nhw’n byw.

Mae’n gyfrifoldeb cyfunol ar sefydliadau academaidd, busnesau a llywodraethau i sicrhau bod addysg ariannol a mynediad at gymorth yn cael eu dosbarthu’n gyfartal.

Gellir cyflawni cynhwysiant ariannol trwy fynediad cyfartal a theg at addysg ariannol a chyfleoedd i bawb. “

Yr Athro Arman Eshraghi

Athro Cyllid a Buddsoddi