Gostyngiad o 20% i gyn-fyfyrwyr

Arbed arian ar ffioedd dysgu eich gradd meistr

A chithau’n fyfyriwr graddedig o Brifysgol Caerdydd, cewch chi arbed 20% ar ffioedd dysgu eich gradd meistr. Does dim proses ymgeisio – bydd y gostyngiad yn cael ei roi ar waith yn awtomatig pan fyddwch chi’n ymrestru ar raglen Meistr gymwys.

Two students at a laptop

Cardiff University staff talking to prospective student

Mae ein digwyddiadau a’n diwrnodau agored yn ffordd wych o ddarganfod mwy am astudiaethau ôl-raddedig yng Nghaerdydd.

Ymunwch â ni ar y campws mewn diwrnod agored neu dewch i un o’n gweminarau i siarad â staff ac i gael atebion i’ch cwestiynau.

Yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i wneud cais am gwrs ôl-raddedig a addysgir neu gwrs ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd, gyda’n canllaw cam wrth gam.

Postgraduate open day

Yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i wneud cais am gwrs ôl-raddedig a addysgir neu gwrs ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd, gyda’n canllaw cam wrth gam.

Roedd y gostyngiad i gyn-fyfyrwyr yn hynod ddefnyddiol gan ei fod yn rhoi’r cyfle i mi gwblhau gradd ôl-raddedig na fyddai wedi bod yn bosibl fel arall. Mae’n dangos y gofal y mae’r Brifysgol yn ei ddangos i’w chyn-fyfyrwyr drwy roi cyfle iddyn nhw ymgymryd ag addysg bellach a gwella eu gyrfa
Ben
Cyfraith Hawliau Dynol (LLM)

Pam astudio ym Mhrifysgol Caerdydd?

Students in a studio

Rhagolygon gyrfaol rhagorol

Ble bynnag rydych chi ar eich taith yrfaol, gall ein tîm o gynghorwyr gyrfaoedd proffesiynol eich helpu i gyflawni eich nodau drwy roi arweiniad personol i chi ar bopeth, boed datblygu sgiliau a chwilio am swyddi neu baratoi am gyfweliadau a chymorth ymarferol.

Ymchwil flaengar

Ymhlith yr 20 prifysgol orau yn y DU am ansawdd cyffredinol ein hymchwil. Cadarnhawyd bod 90% o’n hymchwil gyda’r gorau yn y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021. Rydym hefyd yn un o brifysgolion blaenllaw Grŵp Russell sy’n uchel iawn ei fri.

Student working on a laptop

Students talking

Bywyd myfyrwyr

Mae nifer o resymau dros garu Caerdydd – yn enwedig i fyfyrwyr. Mae’n aml ar y rhestr o’r dinasoedd prifysgol mwyaf fforddiadwy yn y DU, a daeth yn ail ym Mynegai Costau Byw Myfyrwyr 2023 Natwest. Ond nid dyna’r cyfan. Mae Undeb y Myfyrwyr, sy’n gartref i fwy na 200 o gymdeithasau myfyrwyr a 65 o glybiau chwaraeon, yn cynrychioli ein myfyrwyr ac yn darparu amrywiaeth o weithgareddau, gwasanaethau a chyfleusterau amrywiol a chynhwysol sy’n cyfoethogi bywyd y myfyrwyr.

Cymorth rhagorol i fyfyrwyr

Rydym am eich helpu i wneud y gorau o’ch profiad fel myfyriwr ôl-raddedig drwy wneud yn siŵr eich bod yn gallu cael gafael ar unrhyw gefnogaeth ychwanegol fydd ei hangen arnoch. O gyngor ariannol a chwnsela cyfrinachol i wasanaethau anabledd a gofal rhagorol i blant, mae ein gwasanaethau cefnogol yma i’ch cefnogi bob cam o’r ffordd.

Student support

Cyfleusterau o’r radd flaenaf

Mae ein cyfleusterau TG modern yn golygu ei fod yn hawdd i chi gyrchu amrywiaeth o ganllawiau, offer ac adnoddau i gefnogi eich astudiaethau a’ch ymchwil, ac mae ein llyfrgelloedd cyfforddus yn cynnig ystod eang o adnoddau gwybodaeth mewn print ac ar-lein. Mae’r oriau agor estynedig – gan gynnwys gyda’r hwyr, ar benwythnosau a mynediad 27 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos yn ein dau brif safle yn eich galluogi chi i weithio ar yr adegau sydd orau i chi.

Oes gennych chi gwestiwn?

Oes gennych chi gwestiwn?