Dechreuwch eich stori Caerdydd chi

“Roedd Caerdydd yn sefyll allan gan ei bod yn cynnig cydbwysedd gwych rhwng trylwyredd academaidd a bywyd yn y ddinas.”

Nihad Kazimli (BA) a Saleh Alhemeiri (BA)

Rheoli Busnes

“Fy enw i yw Saleh Alhemeiri, a dw i’n dod o’r Emiradau Arabaidd Unedig. Astudiais i’r cwrs Rheoli Busnes ym Mhrifysgol Caerdydd.”

“Nihad Kazimli ydw i, o Azerbaijan, ac astudiais i’r cwrs Rheoli Busnes hefyd.”

Mae Saleh a Nihad yn dod o’r Emiradau Arabaidd Unedig ac Azerbaijan, ac fe gwrddon nhw wrth astudio Rheoli Busnes ym Mhrifysgol Caerdydd gyda’i gilydd. Mae gan y ddau’r nod o agor eu busnesau eu hunain, ac maen nhw’n diolch i’w hamser yng Nghaerdydd am eu helpu i ddatblygu sgiliau cydweithio a chyfathrebu, gan gael eu hysbrydoli gan ffocws Caerdydd ar foeseg mewn busnes i ddefnyddio grym eu busnes er daioni.

Mae’r darpar entrepreneuriaid hyn yn credu bod busnes moesegol yn un o ysgogwyr allweddol newid yn y byd – ac mae rheoli arian ac adnoddau yn effeithiol yn chwarae rhan hanfodol mewn cymdeithas. Maen nhw’n gobeithio defnyddio sgiliau rheoli adnoddau’n effeithiol i wneud i fusnes weithio ar gyfer byd gwell. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld beth fydd gan y dyfodol i’w gynnig i Nihad a Saleh.

Gyda’n gilydd, gallwn
wneud i fusnes weithio ar gyfer byd gwell

Beth wnaeth eich ysbrydoli chi i astudio Rheoli Busnes?

Nihad: Mae fy nhad yn berchen ar fusnes, felly fe wnaeth e fy nhywys tuag at astudio rheoli busnes. Ond yr hyn wnaeth wneud i fi garu Caerdydd oedd y cyfle i gwrdd â phobl anhygoel fel Saleh a’n ffrindiau eraill, ac i ddysgu gan ddarlithwyr gwych.

Saleh: Rwy’n cytuno, roedd y tiwtoriaid a’r darlithwyr yn anhygoel. Roedden nhw’n gofalu amdanon ni ac eisiau sicrhau ein bod ni’n cyflawni ein nodau academaidd. I fi, dw i wedi bod yn chwilfrydig erioed am sut mae busnesau’n gweithio. Hyd yn oed pan o’n i’n blentyn, bydden i’n cymharu dau fwyty ac yn meddwl tybed pam mae gan un fwy o gwsmeriaid na’r llall. Arweiniodd y chwilfrydedd hwnnw at astudio busnes — mae deall beth sy’n gwneud i rai fusnesau lwyddo ac i eraill fethu yn hynod ddiddorol.

Ydych chi’n credu bod busnes yn gallu newid y byd?

Saleh: Yn sicr. Busnes yw un o brif ysgogwyr newid yn y byd, boed hynny drwy arian, dylanwad neu bŵer. Mae’r ffordd rydych chi’n rheoli ac yn cyfeirio adnoddau busnes yn gallu cael dylanwad sylweddol — er gwell neu er gwaeth.

Nihad: Rwy’n cytuno’n llwyr. Mae rheoli arian ac adnoddau’n effeithiol yn hanfodol. Drwy fusnesau, gallwn reoli sut mae pethau’n cael eu rhedeg, ac mae hynny’n cael dylanwad enfawr ar gymdeithas.

Saleh: Mae ffocws Caerdydd ar foeseg mewn busnes wedi dangos i ni mor bwysig yw defnyddio busnes fel grym er daioni.

Beth yw eich cynlluniau ar ôl gorffen eich gradd?

Nihad: Hoffwn i agor fy musnes fy hun; caffi sy’n arbenigo mewn toesenni Ffrengig a siocledi artisanaidd, ond mewn ffordd sy’n fforddiadwy i bawb. Hoffwn i ddod â rhywbeth arbennig a hygyrch i bobl, rhywle yn Ewrop yn enwedig.

Saleh: Rwy’n bwriadu gwneud gradd meistr i ddechrau, gyda’r nod o gael dylanwad go iawn yn y byd, gan ei helpu i ddod yn lle gwell drwy ymchwil academaidd. Mae busnes yn hanfodol i’r ffordd mae cymdeithasau’n gweithredu, a hoffwn i fod yn rhan o hynny. Yn y pen draw, hoffwn ddechrau busnes hefyd, ond rwy’n gwybod nad yw gradd ar ei phen ei hun yn eich gwneud chi’n entrepreneur llwyddiannus — mae’n ymwneud â’r profiad ymarferol a’r ddealltwriaeth rydych chi’n ei meithrin ar y daith.

Sut ydych chi’n teimlo am y syniad ‘gyda’n gilydd, gallwn’ wneud gwahaniaeth?

Nihad: Rydyn ni’n credu gyda’n gilydd gallwn wneud i fusnes weithio ar gyfer byd gwell.

Saleh: Ie, boed hynny drwy fusnes, cydweithio, neu gefnogi ein gilydd, gallwn ni gael dylanwad mawr ar ddynoliaeth. Gyda’n gilydd, gallwn newid y byd er gwell go iawn.

“Mae busnes yn hanfodol i’r ffordd mae cymdeithasau’n gweithredu, a hoffwn i fod yn rhan o hynny.”
“Mae ffocws Caerdydd ar foeseg mewn busnes wedi dangos i ni mor bwysig yw defnyddio busnes fel grym er daioni.”
“Dw i wrth fy modd â’r awyrgylch yma, yn enwedig yn ystod y gemau rygbi mawr. Mae’n brofiad heb ei debyg.”

Darllenwch mwy o straeon fel stori Saleh a Nihad

Mae ein graddedigion yn unfarn unllais ar y weledigaeth at y dyfodol. O harneisio ein sgiliau, ein dysg a’n safbwyntiau amrywiol, gallwn greu newid cadarnhaol, arloesi a chreu byd gwell i genedlaethau’r dyfodol. Mae graddedigion 2024 yn dweud eu dweud wrthon ni.

Gyda’n gilydd, gallwn

sicrhau bod technoleg yn gweithio i bawb

Byron Biggs (BSc)

Cyfrifiadureg

Gyda’n gilydd, gallwn

fyw yn fwy cynaliadwy drwy law pensaernïaeth

Rebecca Clery (BSc)

Pensaernïaeth

Gyda’n gilydd, gallwn

ddeall y byd yn well drwy lenyddiaeth

Oliver Pearson

Llenyddiaeth Saesneg (BA)

Byron Biggs (BSc)

Cyfrifiadureg

Rebecca Clery (BSc)

Pensaernïaeth

Oliver Pearson
Llenyddiaeth Saesneg (BA)