Dechreuwch eich stori Caerdydd chi
Kavetha Karunaseelan (BSc)
Ffiseg
Mae’n credu bod ffiseg yn ymwneud â datgelu’r manylion cudd sy’n egluro’r byd o’n cwmpas ni, ac mae’n angerddol am wneud gwahaniaeth a newid y byd drwy wyddoniaeth – gan ddeall mai’r ddisgyblaeth hon a all ein helpu ni i wella gofal iechyd, neu ddeall y bydysawd er enghraifft.
Mae Kavetha’n gobeithio gwneud ei marc ym maes ffiseg, a bydd hi’n dechrau rhaglen gwyddonydd graddedig yn y Labordy Ffisegol Cenedlaethol. Bydd y sgiliau ddysgodd hi yng Nghaerdydd, fel datrys problemau ar y cyd a gwydnwch dan bwysau, yn ddefnyddiol wrth iddi barhau i archwilio dirgelion y bydysawd. Mae hi am fod yn rhan o’r datblygiadau ym maes technoleg a gwyddoniaeth a fydd yn siapio ein dyfodol – a diolch i’w sylfaen addysg, twf personol a datblygiad o Brifysgol Caerdydd, does gennyn ni ddim amheuaeth y bydd hi’n llwyddo.
newid y byd drwy ffiseg
Beth wnaeth dy ysbrydoli di i astudio Ffiseg?
Ro’n i’n bwriadu astudio Peirianneg Fecanyddol yn wreiddiol, ond ro’n i am archwilio’n ddyfnach i ddeall sut mae pethau wir yn gweithio ar lefel sylfaenol. Mae ffiseg yn ymwneud â datgelu’r manylion cudd sy’n egluro’r byd o’n cwmpas ni. Bob tro y bydda i’n darganfod rhywbeth newydd, mae fel sbarc sy’n tanio fy chwilfrydedd ymhellach.
Sonia wrthon ni am brofiad cofiadwy.
Un o’r profiadau mwyaf dwys ond gwerth chweil oedd yn ystod fy mhedwaredd flwyddyn pan gydweithiais i â myfyrwyr meistr o Brifysgolion Caerdydd, Aberystwyth ac Abertawe. Cawson ni ein rhoi mewn grwpiau ar hap ac roedd gennyn ni bum diwrnod i feddwl am gynnig ymchwil unigryw, rhywbeth nad oedden ni wedi’i wneud o’r blaen. Roedd llawer o bwysau, ond fe ddysgodd gymaint i fi am waith tîm, cyfathrebu, a sut i ymdrin â sefyllfaoedd heriol. Roedd yn agoriad llygad ac yn brofiad sy’n sicr wedi fy helpu mewn cyfweliadau, a bydd yn parhau i fod o fudd i fi mewn swyddi yn y dyfodol.
Beth yw eich cynlluniau ar ôl gorffen eich gradd?
Dw i’n edrych ymlaen i ddechrau rhaglen gwyddonydd graddedig yn y Labordy Ffisegol Cenedlaethol. Fy nod yw gwneud fy marc yn y maes, ac rwy’n gobeithio cyflawni PhD a mynd oddi yno. Bydd y profiadau a’r sgiliau dw i wedi’u cael yng Nghaerdydd—fel datrys problemau ar y cyd a gwydnwch o dan bwysau—yn hanfodol wrth i fi barhau i archwilio dirgelion y bydysawd. Dw i’n cael fy ngyrru gan yr awydd i gyfrannu i’n dealltwriaeth o sut mae popeth yn gweithio, a dw i am fod yn rhan o’r datblygiadau ym maes technoleg a gwyddoniaeth a fydd yn siapio ein dyfodol.
Beth yw dy obeithion ar gyfer y dyfodol?
Dw i’n credu gyda’n gilydd, gallwn wneud gwahaniaeth a newid y byd drwy ffiseg. Mae gan ffiseg y pŵer i newid y byd, o ddeall y bydysawd i wella gofal iechyd. Drwy gydweithio, gallwn wthio ffiniau’r hyn sy’n bosib a chreu dyfodol gwell. Mae fy mhrofiadau yng Nghaerdydd wedi dangos i fi mai cydweithio a rhannu gwybodaeth yw’r allwedd ar gyfer creu effaith ystyrlon, a dw i’n awyddus i gario’r ysbryd hwnnw i fy ngyrfa.
Darllenwch fwy o straeon fel stori Kavetha
Rebecca Clery (BSc)
Pensaernïaeth
Oliver Pearson (BA)
Llenyddiaeth Saesneg
Byron Biggs (BSc)
Cyfrifiadureg
Rebecca Clery (BSc)
Pensaernïaeth
Oliver Pearson (BA)
Llenyddiaeth Saesneg