Dechreuwch eich stori Caerdydd chi

Gyda’n gilydd, gallwn ni
addysgu cenedlaethau’r dyfodol
“Rwy’n astudio anatomeg fiofeddygol ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae gweithio gyda myfyrwyr eraill yn hynod bwysig i’r Brifysgol. Gyda’n gilydd, gallwn ni addysgu cenedlaethau’r dyfodol. Hoffwn wneud gradd ôl-raddedig yma, ac yna rwy’n gobeithio gwneud doethuriaeth a bod yn ddarlithydd ar ôl hynny.”

Joshua Tandy (BSc)

Gwyddorau Biofeddygol
Mae Joshua yn credu bod ymchwil mor bwysig ar gyfer llunio addysg – a bod addysgu cenedlaethau’r dyfodol yn hanfodol ar gyfer cyflawni newid go iawn ar draws y byd.

Wedi dechrau ar ei astudiaethau yng Nghaerdydd ar gwrs Geneteg, sylweddolodd yn gyflym ei fod yn angerddol dros anatomeg a chanfod bod dull y tîm anatomeg tuag at waith ar y cyd yn taro tant â’i feddylfryd ef hefyd. Yr hyn sy’n ei gyffroi fwyaf am ei gwrs yw’r cysylltiad uniongyrchol rhwng ymchwil a’r cyfle i gyfrannu at hyrwyddo ein dealltwriaeth o fioleg ddynol.

Mae gwaith tîm wedi bod yn rhan hanfodol o’i daith yng Nghaerdydd, ac mae wedi bod yn agoriad llygad i Joshua ymgysylltu â grŵp mor amrywiol o bobl yn ystod ei gyfnod yma. Mae’n gobeithio cael gyrfa hir ym maes ymchwil ac addysg, i ysbrydoli eraill i ddilyn eu dyheadau ac i gyfrannu’n ystyrlon at ein dealltwriaeth o anatomeg ddynol.

Mae Joshua yn meddwl mai un o’r pethau pwysicaf rydych chi’n ei ddysgu yma yw nid dim ond yr hyn rydych chi eisiau ei wneud, ond pwy ydych chi, a bod deall eich gwerthoedd a’ch credoau eich hun yn allweddol i lunio’ch gyrfa yn y dyfodol. Rydyn ni’n edrych ymlaen at barhau i feithrin yr amgylchedd hwn nid yn unig i Joshua, ond i bob un o’n myfyrwyr.

Darllenwch fwy o straeon fel stori Joshua

Gyda’n gilydd, gallwn ni

Tidiane Bangoura (MA)

Cysylltiadau Cyhoeddus Rhyngwladol
Gyda’n gilydd, gallwn ni

Palak Jain (MBA)

Gweinyddu Busnes

Gyda’n gilydd, gallwn ni

Chloe Cox (BA)

Ieithoedd Modern

Tidiane Bangoura (MA)

Cysylltiadau Cyhoeddus Rhyngwladol

Palak Jain (MBA)

Gweinyddu Busnes

Chloe Cox (BA)

Ieithoedd Modern