Dechreuwch eich stori Caerdydd chi

“Drwy Gaerdydd, roedd modd i fi wneud blwyddyn ar leoliad, yn gweithio yn y Walt Disney Company yn Llundain.”

Erin Cavan (BSc)

Mathemateg

“Erin ydw i, dw i’n dod o Yeovil, ac astudiais i Fathemateg yng Nghaerdydd. Des i yma gan fy mod i wir yn hoffi egni’r lle. Pan ymwelais i ar Ddiwrnod Agored, ro’n i’n teimlo bod hwn yn lle y gallwn i weld fy hun yn byw ac yn gweithio ynddo am y tair blynedd nesaf.”
Yn dod o Yeovil yn wreiddiol, ymunodd Erin â ni ym Mhrifysgol Caerdydd i astudio Mathemateg gan ei bod hi’n hoff o egni’r lle pan ymwelodd ar Ddiwrnod Agored. Mae Erin wedi bod â diddordeb erioed yn y ffaith bod mathemateg yn sail i bopeth o’n cwmpas ni, o dechnoleg i benderfyniadau bob dydd.

Ar ôl cael lle ar gynllun graddedig gyda Boeing, mae Erin yn gobeithio rhoi popeth mae hi wedi’i ddysgu ym Mhrifysgol Caerdydd ar waith. Ei nod yw gwneud mathemateg yn fwy hygyrch i fenywod, drwy symud y canfyddiad bod y pwnc yn rhy heriol neu frawychus, i un sy’n canolbwyntio ar sut gall mathemateg ddatrys problemau go iawn a chael ei gymhwyso ar draws ystod eang o ddisgyblaethau a diddordebau.

Gyda’n gilydd, gallwn
sicrhau bod mathemateg yn fwy hygyrch i fenywod

Beth wnaeth dy ysbrydoli i astudio Mathemateg?

Dw i bob amser wedi ymddiddori yn y ffaith bod mathemateg yn sail i bopeth sydd o’n cwmpas ni, o dechnoleg i benderfyniadau bob dydd. Er enghraifft, un o’r modiwlau astudion ni y tymor yma oedd mathemateg deallusrwydd artiffisial – mae pob datblygiad ym maes technoleg yn dibynnu yn ei hanfod ar fathemateg. Mae’n heriol, ond mae hefyd yn cynnig posibiliadau diddiwedd.

Alli di sôn am brosiect cofiadwy gweithiaist ti arno?

Fe wnaethon ni brosiect ar theori gemau lle gallen ni ddewis unrhyw broblem mewn bywyd a cheisio ei datrys gan ddefnyddio mathemateg. Fe weithiodd ein tîm ar ddatrysiad i ennill The Hunger Games — gan edrych i weld a ddylech chi fynd i mewn a cheisio cael yr offer yn y cornucopia, neu a ddylech chi ddianc, yn seiliedig ar ba Ardal roeddech chi’n dod ohoni. Roedd yn archwiliad mor ddiddorol ar draws disgyblaethau cwbl wahanol, mathemateg a llenyddiaeth Saesneg, ac yn bwysicaf oll, roedd yn rhywbeth dewison ni ganolbwyntio arno fel grŵp. Roedd yn anhygoel cael y rhyddid yna i benderfynu i ble i fynd â’n dysgu, a chydweithio i ganfod rhywbeth oedd yn uno ein diddordebau unigol.

Beth yw eich cynlluniau ar ôl gorffen eich gradd?

Dw i ar gynllun graddedig gyda Boeing ym Mryste, ar y tîm gwasanaethau digidol a dadansoddeg. Mae’n gynllun cylchdro chwe mis am ddwy flynedd, ac mae fy nghylchdro cyntaf mewn pensaernïaeth systemau.

Beth yw dy obeithion ar gyfer y dyfodol?

Dw i’n credu gyda’n gilydd, gallwn wneud mathemateg yn fwy hygyrch i fenywod. Mae’n bwnc sy’n aml yn cael ei ystyried yn heriol neu’n frawychus, ond drwy ddangos sut mae’n datrys problemau go iawn ac yn gallu cael eu gymhwyso ar draws pob math o wahanol ddisgyblaethau a diddordebau, gallwn newid hynny. Gyda’n gilydd, gallwn agor cyfleoedd i bawb, waeth beth yw eu rhywedd.

“Dw i bob amser wedi ymddiddori yn y ffaith bod mathemateg yn sail i bopeth sydd o’n cwmpas ni, o dechnoleg i benderfyniadau bob dydd.”
“Gyda’n gilydd, gallwn agor cyfleoedd i bawb, waeth beth yw eu rhywedd.”

Darllenwch fwy o straeon fel stori Erin

Mae ein graddedigion yn unfarn unllais ar y weledigaeth at y dyfodol. O harneisio ein sgiliau, ein dysg a’n safbwyntiau amrywiol, gallwn greu newid cadarnhaol, arloesi a chreu byd gwell i genedlaethau’r dyfodol. Mae graddedigion 2024 yn dweud eu dweud wrthon ni.

Gyda’n gilydd, gallwn

sicrhau bod technoleg yn gweithio i bawb

Byron Biggs (BSc)

Cyfrifiadureg

Gyda’n gilydd, gallwn

fyw yn fwy cynaliadwy drwy law pensaernïaeth

Rebecca Clery (BSc)

Pensaernïaeth

Gyda’n gilydd, gallwn

ddeall y byd yn well drwy lenyddiaeth

Oliver Pearson (BA)

Llenyddiaeth Saesneg

Byron Biggs (BSc)

Cyfrifiadureg

Rebecca Clery (BSc)

Pensaernïaeth

Oliver Pearson (BA)

Llenyddiaeth Saesneg