Dechreuwch eich stori Caerdydd chi

“Mae’r ymdeimlad o gymuned yng Nghaerdydd wir wedi gwneud i fi deimlo fel taswn i’n rhan o rywbeth mwy.”

Byron Biggs (BSc)

Cyfrifiadureg

“Byron Biggs ydw i, dw i’n dod o Fryste ac astudiais i Gyfrifiadureg. Dw i wedi bod â diddordeb erioed mewn technoleg a sut mae’n siapio’r byd o’n cwmpas ni.”
Yn ôl y myfyriwr graddedig Cyfrifiadureg, Byron o Fryste, ei frwdfrydedd am dechnoleg a sut mae’n siapio’r byd o’n cwmpas wnaeth yrru ei benderfyniad i ddilyn llwybr gradd yng Nghaerdydd. Roedd am fod yn rhan o sut mae’r byd yn newid drwy ddatblygiadau technolegol a chyfrannu at rywbeth sy’n mynd i siapio ein dyfodol. Ei nod yw gwneud interniaeth cyn dod o hyd i swydd lle gall ei sgiliau helpu i wneud gwahaniaeth – ond yn gyntaf, bydd yn astudio gradd Meistr mewn Peirianneg Meddalwedd gyda ni ym Mhrifysgol Caerdydd. Nid yn unig mae Byron am wthio ffiniau technoleg – mae am wneud gwahaniaeth i fywydau pobl hefyd.

Dysgodd yn ystod ei amser yng Nghaerdydd pan fyddwn ni’n cydweithio, rydyn ni’n llawer cryfach. Mae’n credu mai cydweithio sy’n gyrru newid cadarnhaol gwirioneddol – ac roedd wrth ei fodd gyda faint o gyfleoedd ystyrlon a gafodd i gydweithio yn ystod ei radd. Yn ôl Byron, mae Caerdydd wedi bod yn fwy na lle i astudio; mae wedi bod yn lle i dyfu. Rydyn ni’n edrych ymlaen i weld Byron yn tyfu mwy fyth wrth iddo barhau â’i addysg gyda ni cyn mentro allan i’r byd i wneud gwahaniaeth

Gyda’n gilydd, gallwn
sicrhau bod technoleg yn gweithio i bawb

Beth yw’r peth gorau am astudio Cyfrifiadureg yng Nghaerdydd?

Y peth gorau yw’r bobl, yn sicr. Rydych chi’n cwrdd â chymaint o unigolion o wahanol rannau o’r wlad sy’n rhannu eich diddordebau. Mae’r staff addysgu’n wych hefyd, ac maen nhw wir yn eich cefnogi chi yn eich astudiaethau. Mae’n anhygoel cael cysylltu gyda phobl o’r un anian a theimlo’n rhan o gymuned fwy.

Alli di sôn wrthon ni am brosiect cydweithredol gweithiaist ti arno yn ystod dy astudiaethau?

Wrth gwrs! Un o’r prosiectau mawr wnaethon ni oedd aseiniad grŵp dros flwyddyn lle roedden ni’n datblygu meddalwedd ar gyfer cleient. Roedd yn cynnwys cyfarfodydd rheolaidd, gosod terfynau amser, a chydweithio’n agos gyda fy nhîm. Roedd yn brofiad hynod werthfawr mewn sefyllfa byd go iawn, ac fe ddysgodd lawer i fi am waith tîm a chyfathrebu.

Beth yw eich cynlluniau ar ôl gorffen eich gradd?

Dw i’n bwriadu gwneud gradd Meistr mewn Peirianneg Meddalwedd yng Nghaerdydd. Wedi hynny, dw i’n gobeithio cael interniaeth ac yn y pen draw swydd lle galla i wneud gwahaniaeth go iawn. Hoffwn i weithio ar brosiectau sydd nid yn unig yn gwthio ffiniau technoleg, ond sydd hefyd yn cael effaith ystyrlon ar fywydau pobl.

Beth yw dy obeithion ar gyfer y dyfodol?

Dw i wir yn credu gyda’n gilydd, gallwn newid y byd er gwell. Mae technoleg ym mhobman, yn cael ei defnyddio bob dydd, ac mae ganddi’r pŵer i newid y byd er daioni. Mae fy amser yng Nghaerdydd wedi dangos i fi cymaint cryfach ydyn ni pan fyddwn ni’n cydweithio. Boed hynny’n brosiect grŵp neu ar raddfa fwy, mae’n amlwg y gallwn, drwy gydweithio, yrru newid cadarnhaol a gwirioneddol.

“Hoffwn weithio ar brosiectau sydd nid yn unig yn gwthio ffiniau technoleg, ond sydd hefyd yn cael effaith ystyrlon ar fywydau pobl.”
“Dw i wir yn credu gyda’n gilydd, gallwn newid y byd er gwell.”

Darllenwch fwy o straeon fel stori Byron

Mae ein graddedigion yn unfarn unllais ar y weledigaeth at y dyfodol. O harneisio ein sgiliau, ein dysg a’n safbwyntiau amrywiol, gallwn greu newid cadarnhaol, arloesi a chreu byd gwell i genedlaethau’r dyfodol. Mae graddedigion 2024 yn dweud eu dweud wrthon ni.
Gyda’n gilydd, gallwn

ymlafnio i sicrhau bod pawb yn llwyddo

Adam Searle (BSc)

Rheoli Busnes

Gyda’n gilydd, gallwn

sicrhau bod mathemateg yn fwy hygyrch i fenywod

Erin Cavan (BSc)

Mathemateg

Gyda’n gilydd, gallwn

newid y byd drwy ffiseg

Kavetha Karunaseelan (BSc)

Ffiseg

Adam Searle (BSc)

Rheoli Busnes

Erin Cavan (BSc)

Mathemateg

Kavetha Karunaseelan (BSc)

Ffiseg