Dechreuwch eich stori Caerdydd chi

Adam Searle (BA)
Rheoli Busnes
Mae e wedi profi gwaith tîm a chydweithio amhrisiadwy, ar y cae ac oddi arno, ac mae’n dweud bod yr ymgysylltu a’r rhyngweithio gyda phobl eraill wedi bod yn allweddol i’w brofiad dysgu.
Mae Adam yn gobeithio mynd â phwysigrwydd gwrando ar eraill gydag e, gan gyfuno syniadau a gwaith caled i ganfod yr ateb cywir i’w yrfa yn y dyfodol. Rydyn ni’n gobeithio bod y sylfeini cadarn mae e wedi’u gosod ym Mhrifysgol Caerdydd yn ei helpu i wneud yn union hynny.
Beth yw’r peth gorau am astudio Rheoli Busnes yng Nghaerdydd?
Y peth gorau yw’r cydweithio a’r ymgysylltu. Er gwaethaf heriau Covid, sicrhaodd yr Ysgol Busnes bod gennyn ni fynediad at ddysgu wyneb yn wyneb, seminarau a gwaith grŵp. Mae’r rhyngweithio gydag eraill wedi bod yn allweddol i fy mhrofiad dysgu.
Alli di sôn mwy wrthon ni am dy brofiad yn chwarae criced yng Nghaerdydd?
Wrth gwrs! Dw i’n chwarae i dîm Prifysgol Caerdydd a thîm UCCE, sy’n cynnwys Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol De Cymru. Mae wedi bod yn brofiad yn anhygoel, cael chwarae criced da a theimlo’r cyfeillgarwch yna. Mae criced wedi dysgu pwysigrwydd gweithio mewn tîm i fi, sy’n clymu â’r hyn dw i wedi’i ddysgu ar fy nghwrs Rheoli Busnes.
Alli di rannu prosiect cofiadwy rwyt ti wedi gweithio arno?
Yn ddiweddar, fe wnaethon ni brosiect ar gyfer modiwl Busnes ac Entrepreneuriaeth lle roedd rhaid i ni greu cynllun busnes yn arddull “The Apprentice” fel grŵp. Yna, fe gyflwynon ni’r cynnig yn arddull “Dragon’s Den” i banel o feirniaid er mwyn ceisio eu cael nhw i fuddsoddi yn ein busnes. Roedd yn brofiad dysgu anhygoel, yn enwedig o ran y gwaith tîm a chymhwyso’r hyn rydyn ni wedi’i ddysgu i’r byd go iawn.
Beth oedd y peth mwyaf ddysgaist ti o hynny?
Dw i wedi dysgu nad ydy fy syniadau i bob amser yn gywir. Dydy’r ffaith bod rhywbeth yn gwneud synnwyr yn eich meddwl ddim yn golygu mai dyna’r ateb gorau. Mae’n bwysig gwrando ar bobl eraill a chyfuno syniadau i feddwl am rywbeth sy’n gweithio i bawb. Bydda i’n mynd â’r sgìl hon gyda fi i fy ngyrfa yn y dyfodol.
Darllenwch fwy o straeon fel stori Adam
Gyda’n gilydd, gallwn
sicrhau bod technoleg yn gweithio i bawb
Byron Biggs (BSc)
Cyfrifiadureg
fyw yn fwy cynaliadwy drwy law pensaernïaeth
Rebecca Clery (BSc)
Pensaernïaeth
ddeall y byd yn well drwy lenyddiaeth
Oliver Pearson (BA)
Llenyddiaeth Saesneg
Byron Biggs (BSc)
Cyfrifiadureg
Rebecca Clery (BSc)
Pensaernïaeth
Oliver Pearson (BA)
Llenyddiaeth Saesneg