Rydyn ni’n eich cefnogi bob cam o’r ffordd

Allwn ni ddim aros i’ch gweld ym mis Medi. Tan hynny, peidiwch ag anghofio gofalu amdanoch chi eich hun. Cofiwch hefyd ein bod o’ch plaid chi.

Rydyn ni’n gwybod y gall y cyfnod hwn achosi straen. Felly, gwnaethom ofyn i rai o’n myfyrwyr rannu eu cyngor ar sut i osgoi cynhyrfu yn ystod tymor yr arholiadau. Dyma beth oedd ganddyn nhw i’w ddweud.

Hannah

Bydwreigiaeth

Maia

Optometreg

Maisie

Seicoleg

Shloka

Biowyddorau

Julia

Meddygaeth

Shreeya

Llawfeddygaeth Ddeintyddol

Dan

Meddygaeth

Rydych chi’n bwysig i Brifysgol Caerdydd

Un o’n prif flaenoriaethau yw cefnogi eich bywyd myfyriwr. Rydyn ni’n cynnig amrywiaeth eang o systemau cefnogi all fod o gymorth i chi drwy gydol eich amser gyda ni, gan gynnwys cymorth pwrpasol o ran iechyd meddwl a lles, a mynediad ddydd a nos at gymuned o gyd-fyfyrwyr all eich helpu. Beth bynnag sydd ei angen arnoch, rydym yma i helpu.

Sgwrsio gyda’n myfyrwyr

Ydych eisiau holi am fywyd myfyriwr, cwrs neu wybod y gwir am sut beth yw bod yn fyfyriwr yng Nghaerdydd? Mae ein tîm o Lysgenhadon Myfyrwyr yn barod i ateb eich holl gwestiynau.

Cysylltwch â’ch Darpar Gyfeillion Instagram icon

Os hoffech chi gael y wybodaeth ddiweddaraf am bopeth sy’n ymwneud â Phrifysgol Caerdydd a chysylltu â deiliaid cynnig eraill fel chi, dilynwch ein cyfrif yn instagram.

Neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni.

Pob lwc – mae gennych chi hyn!