Ysgol y Dyniaethau

Byd-eang

Rydyn ni yn mabwysiadu dull newydd o ymdrin â’r celfyddydau a’r dyniaethau ym Mhrifysgol Caerdydd. Ymunwch â ni i archwilio diwylliannau, syniadau, gwerthoedd a phrofiadau byd-eang – a darganfod sut mae amrywiaeth yn ein helpu i ddeall yn well beth mae’n ei olygu i fod yn ddynol.

Cyrsiau

Mae gennym ni fwy na 200 o gyrsiau ar gael i ddewis ohonyn nhw ac amrywiaeth o ffyrdd i deilwra pob cwrs fel ei fod yn berffaith i chi.

Bydd ein Hysgol newydd yn cael ei gyrru gan yr ymchwil wych, effeithiol a wnawn ac yn meithrin cydweithio ar draws ein disgyblaethau. Bydd ein graddedigion yn arweinwyr y dyfodol a fydd yn llunio byd mwy tosturiol trwy ddealltwriaeth draws-ddiwylliannol, meddwl beirniadol a dinasyddiaeth fyd-eang.
Yr Athro Urfan Khaliq
Dirprwy Is-ganghellor a Phennaeth Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol

Ein gweledigaeth

Yng Nghaerdydd, rydyn ni wedi ymrwymo i werth y celfyddydau a’r dyniaethau – ymrwymiad sy’n ganolog i’r weledigaeth ar gyfer ein hysgol newydd.

Mae Ysgol y Dyniaethau Byd-eang yn dwyn ynghyd ystod eang o bynciau a rhaglenni gradd, wedi’u lleoli o fewn y themâu canlynol:

  • Hanes, Archaeoleg a Threftadaeth
  • Ieithoedd ac Ieithyddiaeth
  • Llenyddiaethau, Ysgrifennu Creadigol, Cerddoriaeth a Diwylliannau Gweledol
  • Athroniaeth a Chrefydd
  • Cymraeg

Byddwn yn archwilio cysylltiadau newydd rhwng y disgyblaethau a gynigiwn ac yn creu cymuned myfyrwyr fwy bywiog, creadigol ac amrywiol.

Ein huchelgais yw y bydd graddedigion o Ysgol y Dyniaethau Byd-eang wedi’u cyfarparu i ddeall potensial eu cyfraniad i’r byd. Ein ffocws yw addysgu’r rhai sy’n gwneud newid ac sy’n angerddol am eu meysydd, ac sy’n graddio gyda’r gallu i wneud gwahaniaeth i’r byd yr ydym yn byw ynddo.