
Prifysgol Caerdydd
Mae pethau gwych yn digwydd yma
Diwrnod Agored nesaf –
Dydd Gwener 27 Mehefin, dydd Sadwrn 28 Mehefin 2025
Wrth ymuno â ni, byddi di’n rhan o gymuned lewyrchus a bywiog o feddyliau disglair sy’n cydweithio i ddatrys problemau mawr a bach y byd yn unig sefydliad Grŵp Russell yng Nghymru. Yn ddiweddar, cyrhaeddodd Caerdydd rhestr fer y rownd derfynol ar gyfer Gwobrau Dewis y Myfyrwyr WhatUni 2025 am Fywyd Myfyrwyr a’r Undeb y Myfyrwyr Gorau ac rydyn ni’n ysu i ti weld pam.
12fed
yn y DU ar gyfer cyflogadwyedd graddedigion.
90%
o’n hymchwil yn arwain y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol.
2il
Undeb Myfyrwyr gorau yn y DU.
Amrywiol, croesawgar, diogel
Mwy na 260
Ein gwobrau






Pam dewis Caerdydd?
Ym Mhrifysgol Caerdydd, dod â’r meddyliau mwyaf disglair at ei gilydd i ddod o hyd i atebion bywyd go iawn i broblemau mwyaf heriol y byd yw’r peth mwyaf pwysig i ni.
Mae’r addysg orau yn digwydd mewn mannau lle mai’r nod yw darganfod, felly yma yng Nghaerdydd, byddi di’n elwa ar gyfleusterau a fydd yn meithrin dy chwant am ddysgu a dy chwilfrydedd.
P’un a wyt ti’n dod o agos neu bell, byddi di’n ymuno â chymuned glos ar ddau safle, gyda digonedd o adeiladau atyniadol a mannau penodol i fyfyrwyr ar dy stepen ddrws yng nghanol y ddinas.
Er bod ein campws yn fach, mae’r hyn mae’n ei gynnig yn fawr. Byddi di’n mwynhau cyfleusterau o’r radd flaenaf ar gyfer astudio, dysgu a chymdeithasu, a’r hyblygrwydd i dy helpu i gyflawni dy radd mewn ffordd sy’n dy siwtio di.

Dod o hyd i dy gwrs
Mae gennyn ni mwy na 300 o gyrsiau a nifer o ffyrdd i deilwra pob cwrs fel ei fod yn berffaith i ti.
Sgwrsio â’n myfyrwyr
Gall ein tîm o lysgenhadon myfyrwyr ateb unrhyw gwestiynau sydd gen ti am Brifysgol Caerdydd. Maen nhw wrth law i dy helpu i ddysgu rhagor am dy gwrs, lle byddi di’n byw, gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr, neu ble i ddod o hyd i’r coffi gorau, os yw hynny’n bwysig i ti.

Cysylltu â ni
Lawrlwytho prosbectws
Dewch i ymweld â ni ar ein diwrnod agored nesaf
Dydd Gwener 28 Mehefin 2025
