Wythnos Agored i Ôl-raddedigion
Dydd Mercher 11 Tachwedd, 12:00-16:00
Canolfan Bywyd y Myfyrwyr, Caerdydd CF10 3BB
Dewch o hyd i’ch cwrs meistr yn y dyfodol yn ein digwyddiad fydd yn digwydd yn fuan. Cerddwch o amgylch y campws, cwrdd â’n cymuned a chael y cyngor ariannol a chymorth ymarferol sydd eu hangen arnoch chi i gymryd y cam nesaf.
Uchafbwyntiau digwyddiadau 2025
Arbedwch £3,000 ar eich ffioedd dysgu gydag un o’n hysgoloriaethau gradd meistr. Mae’r ysgoloriaethau cystadleuol hyn ar gael ar gyfer astudiaethau amser llawn a rhan-amser.
Mae dyddiadau cau a meini prawf cymhwysedd yn berthnasol.

Beth i’w ddisgwyl yn y Diwrnod Agored
Siarad ag arbenigwyr pynciol
Sgwrsio ag arbenigwyr ym mhwnc eich diddordeb i ymchwilio’n ddyfnach i opsiynau’r modiwlau, strwythurau’r cyrsiau a’r asesiadau. Rydyn ni hefyd yn cynnal sgyrsiau penodol sy’n cwmpasu ystod o raglenni gradd.
Dysgu am gyllid
Darganfod yr opsiynau sydd ar gael i gyllido eich gradd meistr, gan gynnwys ein hysgoloriaethau gwerth £3,000 a’n gostyngiadau i gyn-fyfyrwyr sy’n benodol i bwnc. Hefyd, cewch ymweld â lolfeydd y myfyrwyr i gael cyngor gan y rheini sydd eisoes yn astudio ar lefel ôl-raddedig.

Dewch i ymweld â champws eich dyfodol
Gweld ble byddwch chi’n byw ac yn dysgu hwyrach a chael taith dywys o amgylch ein campws hardd. Dan arweiniad myfyrwyr presennol, byddwch chi’n ymweld â’n llyfrgelloedd a’n lleoedd astudio, yr ysgolion academaidd, ac Undeb y Myfyrwyr sydd wedi ennill sawl gwobr.
Gofynnwch i’n cymuned
Cymerwch seibiant yn ein lolfa gaffi a mwynhau diod boeth am ddim wrth sgwrsio â rhai myfyrwyr ôl-raddedig. Dyma’r lle perffaith i gael gwybod am fywyd ym Mhrifysgol Caerdydd a sut beth yw byw yn y ddinas.

Cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch chi
Cysylltu â’n timau arbenigol i gael atebion i’ch cwestiynau. O gyngor ar dderbyniadau a chyngor gyrfaol i gymorth anabledd ac arweiniad ariannol, mae ein staff cyfeillgar yma i’ch helpu.
Ymuno â’r Diwrnod Agored i Ôl-raddedigion
Dydd Mercher 11 Mawrth, 12:00 – 15:00