Diwrnod Agored i Ôl-raddedigion

Dydd Mercher 20 Tachwedd, 10:00 – 14:00

Rhesymau dros ymweld â’n Diwrnod Agored i Ôl-raddedigion

Arrow down white
Lecture theatre

Cwrdd â’n hacademyddion

Bydd cynrychiolwyr yn yr ysgolion academaidd yn barod i siarad â chi am y rhaglenni y mae gennych chi ddiddordeb ynddyn nhw, gan gynnwys opsiynau modiwlau, strwythur ac asesiadau’r cyrsiau. Bydd rhaglen o sgyrsiau mewn ysgolion hefyd ichi fynd iddyn nhw.

Postgraduate open day

Dewch i wybod rhagor am yr opsiynau o ran ysgoloriaethau ac ariannu eich hun

Byddwn ni’n cynnal sgyrsiau am ariannu eich hun a phob un o’r opsiynau sydd ar gael i fyfyrwyr meistr. Mae hyn yn cynnwys ein hysgoloriaethau meistr gwerth £3,000 ac ysgoloriaethau sy’n benodol i bwnc. Yn ein lolfeydd i’r myfyrwyr byddwch chi’n gallu sgwrsio â myfyrwyr presennol am yr opsiynau ariannu.

Civic centre

Ewch ar daith o amgylch y campws gyda myfyriwr presennol

Bydd ein Diwrnod Agored i Ôl-raddedigion yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr, yng nghalon Campws Parc Cathays y Brifysgol. Byddwch chi’n gallu mynd ar daith dywys o amgylch y campws dan arweiniad myfyriwr ôl-raddedig presennol. Bydd y teithiau’n dangos y prif leoliadau o amgylch y campws gan gynnwys yr ysgolion academaidd, y llyfrgelloedd a’r ardaloedd astudio, ac Undeb y Myfyrwyr.

Students chatting

Sgwrsio â’r myfyrwyr presennol

Dewch draw i’n caffi i ôl-raddedigion i sgwrsio â myfyrwyr presennol tra’n mwynhau diod boeth am ddim. Dewch i wybod am eu profiad o fod yn fyfyriwr ôl-raddedig ym Mhrifysgol Caerdydd, sut beth yw eu cwrs, a byw yng Nghaerdydd.

Student support

Cael cyngor gan dimau Cymorth i Fyfyrwyr

Byddwch chi’n gallu sgwrsio â staff cymorth nifer o’n timau gan gynnwys y staff Derbyn, Cyngor ac Arian, Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd, Llyfrgelloedd, Anabledd a Dyslecsia, ac Undeb y Myfyrwyr.

PhD Lounge

Dewch i ymweld â’n Lolfa arbennig i ôl-raddedigion PhD

Ydych chi’n meddwl am wneud PhD? Cewch gyngor a chymorth manwl yn ein lolfa PhD lle gallwch chi ofyn am gyllid, dod o hyd i oruchwyliwr, cymuned y myfyrwyr PhD a sgwrsio â nifer o fyfyrwyr PhD cyfredol.

Diwrnod Agored i’r Ôl-raddedigion

Dydd Mercher 20 Tachwedd