Dyma’r cyfle i wella eich rhagolygon gyrfaol yn sgil cymhwyster ar-lein ym Mhrifysgol Caerdydd

Bydd ein hystod eang o raglenni dysgu o bell yn eich helpu i ddatblygu eich gwybodaeth a gwella eich dealltwriaeth o fod yn weithiwr gofal iechyd proffesiynol.

Pam ein Dewis ni?

Drwy ddewis cofrestru ar un o’n cyrsiau ôl-raddedig arbenigol o bell, byddwch chi’n cael profiad dysgu o’r radd flaenaf, lle bynnag yr ydych chi.

Trefnwch eich astudiaethau o amgylch eich ymrwymiadau teuluol a gwaith presennol – trefniant delfrydol i weithwyr gofal iechyd proffesiynol prysur fel chi.

Student reading a prospectus
Student working on a laptop

Pam ein Dewis ni?

Drwy ddewis cofrestru ar un o’n cyrsiau ôl-raddedig arbenigol o bell, byddwch chi’n cael profiad dysgu o’r radd flaenaf, lle bynnag yr ydych chi.

Trefnwch eich astudiaethau o amgylch eich ymrwymiadau teuluol a gwaith presennol – trefniant delfrydol i weithwyr gofal iechyd proffesiynol prysur fel chi.

Cefnogi eich astudiaethau

Cewch ddefnyddio ystod lawn ein gwasanaethau cymorth, gan gynnwys mynediad ar-lein i wasanaeth cyfrifiadura’r Brifysgol a gwasanaethau penodol ein llyfrgelloedd.

Barn ein myfyrwyr

Dewch i wybod pam mae ein myfyrwyr ôl-raddedig a addysgir wedi dewis Prifysgol Caerdydd i barhau â’u datblygiad proffesiynol.

Eich cais

Rydyn ni yma i’ch helpu drwy gydol y broses ymgeisio. Dewch i wybod rhagor am sut i baratoi eich cais ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig, gan gynnwys y datganiad personol a’r geirda.

Dechreuwch eich taith ôl-raddedig gyda ni

School icon

Rydyn ni ymhlith haen uchaf prifysgolion ymchwil Prydain ac yn aelod o Grŵp Russell sy’n cynnwys prifysgolion mawr eu bri.

Globe icon

Astudio ledled y byd. Gallwch elwa o’n harbenigedd ble bynnag yr ydych yn y byd, fel rhan o gymuned fyd-eang amrywiol.

Book icon

Mae ein rhaglenni’n gwella gyrfaoedd a gwybodaeth gweithwyr gofal iechyd proffesiynol presennol a gweithwyr eraill mewn meysydd cysylltiedig.