DA+

Mae ein cwrs meistr trosi DA+ yn cyfuno sgiliau DA craidd â dewis amrywiol o gymwysiadau.
Byddwch yn ymchwilio i bosibiliadau trawsnewidiol Deallusrwydd Artiffisial. Byddwch yn adeiladu’r gallu i gymhwyso DA lle mae’n wirioneddol bwysig — yn eich sector, eich swydd, a’ch gyrfa yn y dyfodol.

Dewch o hyd i’ch cwrs

Troi data’n ganfyddiadau gan ddefnyddio dadansoddi, rhagfynegi a gwneud penderfyniadau sy’n cael eu gyrru gan DA ar raddfa fawr.
Dechrau ym mis Medi a mis Ionawr
AI + Management option
Arwain mewn byd sy’n cael ei yrru gan DA – defnyddio offer deallus i drawsnewid strategaeth, gweithrediadau a gwneud penderfyniadau.
Dechrau ym mis Medi a mis Ionawr
Defnyddio DA i ganfod bygythiadau, awtomeiddio amddiffyn, a diogelu systemau digidol cymhleth ar raddfa fawr.
AI + Economics option
Cymhwyso DA i heriau economaidd go iawn, o ragweld a marchnadoedd i bolisi a systemau ariannol.
Deall ansicrwydd, risg, a gwneud penderfyniadau trwy fodelu a dadansoddeg sy’n cael eu gyrru gan DA.
Archwiliwch y defnydd o AI Cynhyrchiol a chyfryngau digidol newydd mewn amgylchedd creadigol ac ysbrydoledig.

Llyfryn AI+ – Gwnewch gais am gopi

Llenwch y ffurflen a byddwn ni’n anfon copi o’n llyfryn AI+ yn syth i’ch mewnflwch.

Does angen cefndir codio arnoch chi

Mae ein cyrsiau trosi mewn Deallusrwydd artiffisial (DA)+ wedi’u cynllunio i fyfyrwyr o bob disgyblaeth.

Dysgu DA yn ymarferol

Mynnwch brofiad ymarferol drwy gymhwyso DA i broblemau yn y byd go iawn mewn nifer o sectorau a chyd-destunau gwahanol.

w

Pwyslais ar yrfaoedd

Datblygwch sgiliau technegol, dadansoddol a chyfathrebu sy’n cael eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr ledled y byd.

Z

Moeseg a chyfrifoldeb

Dysgwch i gymhwyso DA yn gyfrifol, gan roi sylw i foeseg, llywodraethiant a’i effaith ar gymdeithas.

Dysgwch gan arweinwyr yn y maes

Cewch elwa o addysg drawsddisgyblaethol mewn pynciau gan gynnwys cyfrifiadureg, mathemateg, busnes a newyddiaduraeth, yn ogystal ag elwa ar bartneriaethau cryf gyda byd diwydiant sy’n saernïo ein haddysg ac yn rhoi graddedigion mewn cysylltiad â chyflogwyr posibl.

Mae’r cysylltiadau agos sydd gennym â’n Hacademi Gwyddor Data a’r Ganolfan Ymchwil Seiberddiogelwch yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddysgu mewn amgylchedd llawn ymchwil lle caiff DA ei ddatblygu, ei gymhwyso a’i brofi ar y cyd â’r diwydiant.

Nid disgyblaeth sy’n bodoli ar ei phen ei hun yw DA – mae’n allu a fydd yn diffinio’r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol. Bydd ein cyrsiau DA+ yn eich galluogi i gymhwyso’r gallu hwnnw yn eich maes eich hun, gyda’r hyder, y crebwyll a’r effaith i arwain newid mewn byd sy’n cael ei yrru gan DA.
Yr Athro Gavin Shaddick
Rhag Is-ganghellor, Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg

Llyfryn AI+ – Gwnewch gais am gopi

Llenwch y ffurflen a byddwn ni’n anfon copi o’n llyfryn AI+ yn syth i’ch mewnflwch.