Ehangwch eich gorwelion ac agor y drws at lwybrau gyrfa newydd
Gadewch i gwrs trosi ôl-raddedig ym Mhrifysgol Caerdydd fod y cam cyntaf ar eich llwybr newydd
Mae ein rhaglenni cadarnhaol a chynhwysol yn eich galluogi i lunio ein heffaith ar y byd. Byddwn ni’n eich annog i ddod ynghyd ar draws disgyblaethau i gyfoethogi eich gwaith yn rhan o partneriaeth â busnesau, y diwydiant a llywodraeth, gan eich paratoi i wneud gwahaniaeth amlwg yn eich maes o ddewis er budd cenedlaethau’r dyfodol.
Rydym yn cynnig ystod eang o gyrsiau trosi lle nad oes angen gwybodaeth ymlaen llaw neu radd yn y pwnc:
Mae nifer o fanteision i astudio cwrs trosi ôl-raddedig, gan gynnwys:

parhau â’ch astudiaeth ar lefel uwch

datblygu sgiliau a gwybodaeth mewn pwnc newydd

tyfu eich set sgiliau

dilyn eich angerdd.
Ariannu’ch cwrs trosi
Efallai y byddwch yn gymwys i gael amrywiaeth o gyfleoedd ariannu i gefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2025-26, gan gynnwys cyllid gan Lywodraeth y DU.

Rhoddodd cwrs trosi y cyfle i mi newid cyfeiriad fy ngyrfa a symud o faes busnes i gyfrifiadura heb unrhyw wybodaeth flaenorol.
Joana, MSc Cyfrifiadura
Y rhesymau dros ddewis Caerdydd

Rhagolygon gyrfaol rhagorol
Ble bynnag rydych chi ar eich taith yrfaol, gall ein tîm o gynghorwyr gyrfaoedd proffesiynol eich helpu i gyflawni eich nodau drwy roi arweiniad personol i chi ar bopeth, boed datblygu sgiliau a chwilio am swyddi neu baratoi am gyfweliadau a chymorth ymarferol.
Ymchwil flaengar
Ymhlith yr 20 prifysgol orau yn y DU am ansawdd cyffredinol ein hymchwil. Cadarnhawyd bod 90% o’n hymchwil gyda’r gorau yn y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021. Rydym hefyd yn un o brifysgolion blaenllaw Grŵp Russell sy’n uchel iawn ei fri.

Cyfle i gael gostyngiad o £3,000 oddi ar ffioedd dysgu
Rydyn ni’n buddsoddi hyd at £500,000 yng nghynllun Ysgoloriaeth Meistr y Brifysgol i gefnogi myfyrwyr o safon yn y DU sy’n bwriadu dechrau rhaglen meistr gymwys ym mis Medi 2025. Yn sgîl pob ysgoloriaeth, didynnir gostyngiad o £3,000 oddi ar eich ffioedd dysgu.
Cymorth rhagorol i fyfyrwyr
Rydym am eich helpu i wneud y gorau o’ch profiad fel myfyriwr ôl-raddedig drwy wneud yn siŵr eich bod yn gallu cael gafael ar unrhyw gefnogaeth ychwanegol fydd ei hangen arnoch. O gyngor ariannol a chwnsela cyfrinachol i wasanaethau anabledd a gofal rhagorol i blant, mae ein gwasanaethau cefnogol yma i’ch cefnogi bob cam o’r ffordd.

Rhagor o wybodaeth
Sut i wneud cais
Gwneir ceisiadau drwy Borth Ar-Lein yr Ymgeiswyr. Unwaith y byddwn ni wedi derbyn eich cais ar gyfer rhaglen astudio, bydd dolen i’r ffurflen gais ar gyfer yr Ysgoloriaethau Meistr ar gael.