Cofrestrwch ar gyfer diweddariadau clirio
Bydd y broses Clirio ar gyfer 2024 yn agor ym mis Gorffennaf ar gyfer myfyrwyr sydd â’u graddau terfynol. Byddwch hefyd yn gallu cofrestru eich diddordeb yn ein lleoedd Clirio gwag. Yn y cyfamser, mae ein Canllaw Clirio yn llawn gwybodaeth, gan gynnwys awgrymiadau gorau, straeon myfyrwyr a chanllawiau ar sut i’ch helpu i baratoi.
Cofrestrwch ar gyfer Diweddariadau Clirio
Drwy gofrestru ar ein rhestr bostio Clirio, chi fydd y cyntaf i wybod am holl ddiweddariadau Clirio Prifysgol Caerdydd. Byddwch hefyd yn cael ein canllaw Clirio eithaf wedi’i e-bostio atoch yn llawn awgrymiadau, gwybodaeth a chyngor gwych.
Pam Prifysgol Caerdydd?
Mae 97% o raddedigion mewn swydd, mewn astudiaethau pellach neu’n dechrau swydd newydd yn fuan ar ôl graddio.
Mae ein myfyrwyr yn gwirioni ar Gaerdydd. Beth sy’n gwneud prifddinas Cymru mor ddeniadol?
Cefnogir ein myfyrwyr gan un o Undebau Myfyrwyr gorau’r DU, sy’n cynnig dros 200 o gymdeithasau a 60 o glybiau chwaraeon.
Rydym yn cynnig sicrwydd o lety ar gyfer y rhan fwyaf o ymgeiswyr sy’n ymuno â ni trwy’r broses clirio ac addasu. Rhagor o wybodaeth am y llety sydd ar gael.
Cysylltwch â ni
Os oes gennych gwestiwn am y cyfnod Clirio, eich canlyniadau neu beth i’w wneud nesaf, cysylltwch â ni a bydd ein tîm yn cysylltu â chi.