Canllaw Clirio 2026

Yma fe welwch eich canllaw hanfodol i bopeth yn ymwneud â’r broses Clirio. Mae’r wefan yn llawn awgrymiadau da, straeon myfyrwyr a chanllawiau cam-wrth-gam – popeth sydd angen i chi wybod am y broses Clirio mewn un lle.

Wedi cael eich canlyniadau? Ffoniwch ni ar 0333 241 2800

Beth yw Clirio?

Gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu gan UCAS yw Clirio sy’n galluogi darpar fyfyrwyr i gael hyd i leoedd sy’n dal i fod ar gael ar gyrsiau israddedig. Mae’r cyfnod Clirio rhwng mis Gorffennaf a mis Medi bob blwyddyn, ond mae’r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn gwneud cais Clirio ar ôl i’w canlyniadau terfynol gael eu rhyddhau.

Disgwylir i ganlyniadau Safon Uwch gael eu rhyddhau ar 13 Awst eleni.

Student studying in Centre for Student Life

Bod yn gymwys

Mae degau o filoedd o fyfyrwyr yn mynd drwy’r broses Clirio bob blwyddyn ac yn llwyddo i gael hyd i le ar gwrs israddedig. Felly, nid ydych ar eich pen eich hun.

Rydych yn gymwys i wneud cais Clirio:

Green tick
Os ydych eisoes wedi cofrestru drwy UCAS
Os ydych wedi gwrthod pob cynnig cyfredol sydd gennych
Os nad oes gennych unrhyw gynigion, neu os gwnaethoch gais ar ôl 30 Mehefin 2026
Os ydych am symud i brifysgol arall, hyd yn oed os oes gennych gynnig diamod
Os nad ydych wedi cael y graddau a nodir yn eich cynnig pendant neu eich cynnig wrth gefn
Maths student
“Don’t think of Clearing as a bad thing – think of it as an extra opportunity and take it quickly because it’s been fantastic”
Archie

Sut mae Clirio’n gweithio

Pan fyddwch chi wedi cael eich canlyniadau, cysylltwch â’r brifysgol yr hoffech chi wneud cais iddi drwy’r broses Glirio. Mae lleoedd yn tueddu i lenwi’n gyflym, felly argymhellir eich bod chi’n cysylltu â phrifysgolion cyn gynted â phosibl.

Caiff lleoedd eu dyrannu yn seiliedig ar eich cais, ac os byddwch chi’n llwyddiannus, byddwch chi’n derbyn cynnig ar lafar. I sicrhau’r lle hwn, rhaid i chi ychwanegu’r cwrs at eich cais UCAS erbyn hanner nos (amser y DU) ar yr un diwrnod ag y byddwch chi’n derbyn eich cynnig.

Os oes gennych chi le wedi’i gadarnhau mewn prifysgol arall yn barod, ond eich bod chi wedi newid eich meddwl, bydd angen i chi wrthod y lle hwnnw (proses o’r enw hunan-ryddhau) cyn y gallwch chi dderbyn eich cynnig Clirio newydd. Os nad ydych chi eto wedi derbyn unrhyw gynigion o gwbl gan brifysgolion, byddwch chi eisoes yn y broses Glirio’n awtomatig, a gallwch chi dderbyn unrhyw gynnig newydd yn syth.

Beth yw hunan-ryddhau?

Os ydych am ymuno â’r broses Clirio yn hytrach na chysylltu â’ch dewis cyntaf o brifysgol/ coleg ac aros iddi/iddo eich rhyddhau i’r broses Clirio, gallwch wneud hynny eich hun ar-lein. Bydd hunan-ryddhau ar gael yn UCAS Hub ar gyfer yr holl ymgeiswyr sydd wedi’u lleoli.

Camau hunan-ryddhau

Mae’n bwysig peidio â hunan-ryddhau nes eich bod wedi siarad â phrifysgolion eraill a sicrhau cynnig i astudio yn rhywle arall.

Cam 1

Mewngofnodwch i UCAS Hub

Cam 2

Cliciwch ar ‘Decline my place’ yn yr hafan

Cam 3

Byddwch yn mynd i dudalen sy’n esbonio ystyr hunan-ryddhau. Bydd gofyn i chi ateb cwestiwn cwymplen cyn symud ymlaen.

Cam 4

Pan fyddwch wedi ateb y cwestiwn hwn, cewch ebost yn cadarnhau eich bod wedi rhyddhau i’r broses Clirio.

Galwadau Clirio

Os ydych yn edrych am fwy o wybodaeth ar gyfer y broses galwadau Clirio, gallech ddarganfod mwy isod.

Sut i baratoi at yr alwad ffôn Glirio

Fel arfer, y ffordd symlaf o sicrhau lle yw ffonio prifysgol yn uniongyrchol i drafod y cyrsiau sydd ar gael, a thrafod canlyniadau eich arholiadau. Cyn i chi ffonio, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwneud y canlynol:

 

  • Gwnewch yn siŵr bod eich graddau gyda chi wrth law, gan gynnwys eich graddau TGAU neu gyfwerth.
  • Gwnewch yn siŵr bod eich rhif UCAS gyda chi hefyd.
  • Defnyddiwch chwiliadur UCAS Clearning neu cymerwch olwg ar wefannau’r prifysgolion. Gallwch ddefnyddio’r chwiliadur cyrsiau israddedig i ddod o hyd i’r lleoedd gwag sydd ar gael, ond bydd angen i chi ffonio i gael gwybod y gofynion mynediad diweddaraf.
  • Gwnewch restr o brifysgolion rydych chi’n eu hoffi, ynghyd â’u manylion cyswllt a’u gofynion mynediad. Ffoniwch nhw mewn trefn, gyda’ch hoff brifysgol yn gyntaf, ar Ddiwrnod y Canlyniadau.
  • Bydd gennych chi amser i wneud penderfyniad gwybodus, felly cofnodwch y manylion a gewch chi yn ystod y galwadau i’ch helpu i benderfynu pa opsiwn sydd orau i chi.
Canolfan ymholiadau Clirio Prifysgol Caerdydd
  • Mae Canolfan Ymholiadau Clirio Prifysgol Caerdydd yng ngofal tîm o gynghorwyr sydd wrth law i’ch helpu yn ystod y cyfnod Clirio.
  • Ar sail eich canlyniadau a’ch diddordebau, byddwn yn gweithio gyda chi i geisio cael hyd i gwrs addas ym Mhrifysgol Caerdydd.
  • Byddwn yn gofyn cyfres o gwestiynau i chi i gael gwybod rhagor amdanoch chi a’ch profiad

“Wrth edrych yn ôl, rwyf mor ddiolchgar fy mod wedi mynd drwy’r broses Clirio.”

Ellie

Beth i’w wneud ar ôl yr alwad

Os cewch gynnig ar lafar dros y ffôn, bydd y brifysgol yn anfon ebost atoch yn nodi manylion y cynnig. Bydd angen i chi fynd i UCAS Hub i ychwanegu’r cwrs â llaw cyn 10am y bore canlynol ar ôl eich cynnig llafar.

Cyn i chi dderbyn y cynnig, sicrhewch eich bod wedi ymchwilio’n drylwyr i’r cwrs a’r brifysgol. Mae’n bosibl y cewch gynnig llawer o leoedd mewn amrywiaeth o brifysgolion yn ystod y cyfnod Clirio. Felly, mae’n bwysig dewis y cwrs a’r brifysgol sy’n teimlo’n fwyaf addas i chi.

Awgrym gwych hefyd yw eich bod yn ymchwilio i’r opsiynau o ran llety yn y prifysgolion rydych yn eu hystyried. Mae Prifysgol Caerdydd yn gwarantu llety i’r rhan fwyaf o fyfyrwyr sy’n gwneud cais Clirio

Cofiwch newid eich gwybodaeth am gyllid myfyrwyr, hefyd!


“Rwy’n dal i allu cyrraedd lle rwyf am ei gyrraedd. Rwy’n dal i wneud beth rwyf am ei wneud. Mae wedi rhoi cyfle i mi ddilyn fy newis lwybr, er gwaethaf un rhwystr bach.”

Izzy

Gwen engineering
“The one thing to know about Clearing is to just relax – everything will work itself out in the end and you have options”

Gwen

Rhestr wirio diwrnod Clirio

Dyma restr wirio gyflym ar gyfer popeth y bydd ei angen arnoch i sicrhau eich lle drwy’r broses Clirio ar ddiwrnod y canlyniadau.

Sicrhewch fod eich rhestr o brifysgolion sydd o ddiddordeb i chi’n barod, yn ogystal â nodyn o rif eu Canolfan Galwadau Clirio a’u gofynion mynediad er mwyn i chi allu dechrau arni’n gyflym.
Sicrhewch fod eich ffôn symudol wedi’i wefru, a dewch â gwefrwr batri cludadwy gyda chi, rhag ofn.
Cadwch eich canlyniadau wrth law.
Byddwch â chopi o’ch datganiad personol.
Sicrhewch fod copi o’ch canlyniadau TGAU wrth law.
Sicrhewch eich bod wedi nodi eich rhif adnabod personol ag UCAS ar bapur.
Cadwch y dudalen Clirio ar wefan UCAS ar agor er mwyn i chi allu ymchwilio i gyfleoedd posibl rhwng galwadau.
Peidiwch ag anghofio eich llyfr nodiadau a phin i nodi unrhyw beth y mae angen i chi ei gofio o’ch galwadau.
Peidiwch â chynhyrfu! Ceisiwch gadw eich pen a chofio y byddwch yn sicrhau llemewn prifysgol wych.

Clywch o’n myfyrwyr

Cysylltwch â ni

Wedi cael eich canlyniadau? Mae lleoedd ar gael gennym drwy’r broses Clirio ac Addasu ar gyrsiau mewn gwahanol bynciau sy’n dechrau yn 2026.

Ffoniwch ni ar

0333 241 2800

i drafod eich opsiynau a sicrhau lle

Diwrnod Agored Clirio

Bydd Diwrnod Agored i fyfyrwyr Clirio yn digwydd ddydd Sadwrn 15 Awst 2026 rhwng 10:30 a 14:30. Bydd staff o’n timau cymorth a’n hysgolion academaidd ar gael i ateb unrhyw gwestiynau ac i drafod eich opsiynau gyda chi. Cynhelir taith dywys o Barc Cathays hefyd i chi gael ymgyfarwyddo â’r campws.

Clearing Open Day