Dechreuwch eich stori Caerdydd chi

“Dw i’n credu mai’r hyn sy’n fy ngwneud i fwyaf balch yw caredigrwydd pawb ar fy nghwrs. Maen nhw’n gefnogol iawn, a does neb yn cael ei adael ar ôl.”

Katie Phelps (BSc)

Nyrsio Iechyd Meddwl

“Fy enw i Katie, a dw i’n fyfyriwr nyrsio iechyd meddwl ym Mhrifysgol Caerdydd.”

Sut mae dy amser yng Nghaerdydd wedi dy siapio di?

Mae gan Gaerdydd gymuned mor gryf. Dw i’n credu mai’r hyn sy’n fy ngwneud i fwyaf balch yw caredigrwydd pawb ar fy nghwrs. Maen nhw’n gefnogol iawn, a does neb yn cael ei adael ar ôl. Ac yn wir, does dim ots pa gwrs mae pobl yn ei astudio – os byddi di’n dechrau siarad gyda nhw, maen nhw bob amser yn barod i roi eu cymorth i chi. Ac mae hynny wir wedi fy nysgu i ddod â charedigrwydd i bob sefyllfa. Mae hefyd gennyn ni gyfleusterau a chyfleoedd mor dda yma. Mae gennyn ni gymaint o ystafelloedd efelychu, y gallen ni eu defnyddio i recordio’n hunain yn cael sgyrsiau ac ymarfer sut bydden ni’n ymdrin â sefyllfa gyda chleifion yn y byd go iawn. Mae wir wedi fy mharatoi i ar gyfer y dyfodol ac ar gyfer fy rôl fel nyrs iechyd meddwl.

Gyda’n gilydd, gallwn

wella lles ac urddas cleifion ym mhobman

Beth wnaeth dy ysbrydoli di i astudio nyrsio?

Yn 2019, dechreuais i weithio yn yr uned CAMHS (Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed) ar gyfer cleifion mewnol, gyda phobl ifanc rhwng 12 a 18 oed. Ro’n i’n gweithio yn y gegin, a dweud y gwir, pan ddechreuais i, ond yna des i’n weithiwr cymorth a datblygu’n gyflym iawn. Cafodd fy mhrofiad yn yr uned a gyda’r nyrsys ro’n i’n gweithio gyda nhw effaith wirioneddol arna i, a phenderfynais i fy mod i am fod yn nyrs.

Pam nyrsio iechyd meddwl, yn benodol?

Mae’n fater byd-eang. Dydy e ddim yn rhywbeth sy’n digwydd i ychydig o bobl, mae’n effeithio ar bawb. Fe wnes i astudiaeth ar atal hunanladdiad ymhlith pobl ifanc mewn modiwl y llynedd, ac roedd yr ystadegau welais i yn syfrdanol, ac mae’n peri gymaint o bryder ei fod yn digwydd o gwmpas y byd ac yn effeithio ar gymaint o bobl. Pe bawn i ond yn gallu gwneud gwahaniaeth i ddiwrnod un person, byddai’n golygu’r byd i fi.

Beth yw eich cynlluniau ar ôl gorffen eich gradd?

Bydda i’n cymhwyso ym mis Tachwedd a dw i’n bwriadu cael swydd, cael fy nhiwtoriaeth a symud i fyny drwy’r bandiau yn y GIG. Bues i’n byw yn Awstralia am rai blynyddoedd cyn gweithio ym maes iechyd meddwl, felly y nod yn y pen draw fyddai dysgu mwy a chael profiad yma yn y Deyrnas Unedig, ac yna mynd â rhywfaint o’r arbenigedd a’r sgìl yna i’r byd ehangach.

Sut wyt ti’n teimlo am y syniad ‘gyda’n gilydd, gallwn’ wneud gwahaniaeth?

Dw i’n credu gyda’n gilydd, gallwn wella lles ac urddas cleifion ym mhobman. Mae angen mwy o garedigrwydd a dealltwriaeth ar y byd. Os gallwn ni i gyd ddangos mwy o dosturi, gyda’n gilydd, gallwn newid wyneb darpariaeth iechyd meddwl ledled y byd.

“Pe bawn i ond yn gallu gwneud gwahaniaeth i ddiwrnod un person, byddai’n golygu’r byd i fi.”
“Mae angen mwy o garedigrwydd a dealltwriaeth ar y byd. Os gallwn ni i gyd ddangos mwy o dosturi, gyda’n gilydd, gallwn newid wyneb darpariaeth iechyd meddwl ledled y byd.”

Darllenwch fwy o straeon fel stori Katie

Mae ein graddedigion yn unfarn unllais ar y weledigaeth at y dyfodol. O harneisio ein sgiliau, ein dysg a’n safbwyntiau amrywiol, gallwn greu newid cadarnhaol, arloesi a chreu byd gwell i genedlaethau’r dyfodol. Mae graddedigion 2024 yn dweud eu dweud wrthon ni.

Gyda’n gilydd, gallwn

Byron Biggs (BSc)

Cyfrifiadureg

Gyda’n gilydd, gallwn

Rebecca Clery (BSc)

Pensaernïaeth

Gyda’n gilydd, gallwn

Oliver Pearson (BA)

Llenyddiaeth Saesneg

Byron Biggs (BSc)

Cyfrifiadureg

Rebecca Clery (BSc)

Pensaernïaeth

Oliver Pearson (BA)

Llenyddiaeth Saesneg