Dechreuwch eich stori Caerdydd chi

Isabella King (BA)
Almaeneg a Sbaeneg
Y bobl y cyfarfu â nhw ar y daith sydd wedi gwneud ei phrofiad ym Mhrifysgol Caerdydd mor arbennig – mae’r gymuned mae hi wedi’i chreu yma wedi gwneud y profiad yn fythgofiadwy. Mewn ysbryd cymunedol, mae Isabella’n credu y gallwn droi iaith yn gysylltiad ac adeiladu cymunedau mwy. Mae’n gobeithio defnyddio ei sgiliau ieithyddol i bontio bylchau, creu dealltwriaeth, a chwarae ei rhan mewn creu byd mwy cysylltiedig ac empathig.
Beth wnaeth dy ysbrydoli i astudio Almaeneg a Sbaeneg?
Roedd fy llwybr i astudio Almaeneg a Sbaeneg yn gymharol annisgwyl — roedd hi yng nghanol pandemig Covid, a chefais fy hun yn dewis y llwybr hwn bron â bod ar hap. Ond yn y pen draw, dyna oedd y penderfyniad gorau wnes i erioed. Dw i wastad wedi caru ieithoedd, ond doeddwn i erioed wedi astudio Almaeneg o’r blaen, ac roedd diddordeb mawr gen i yn hanes yr Almaen. Rhoddodd hyn gyfle i fi edrych yn ddyfnach ar rywbeth dw i’n angerddol amdano. Dw i wedi fy ysbrydoli’n fawr gan bobl sy’n gallu siarad ag unrhyw un, a dw i’n credu bod iaith yn rhan fawr o hynny. Nid yn unig mae dysgu ieithoedd wedi ehangu fy ngorwelion, ond mae hefyd wedi fy nghysylltu i â phobl a diwylliannau anhygoel.
Sonia wrthon ni am foment arbennig.
Un o’r prosiectau mwyaf cofiadwy gweithiais i arno oedd fy modiwl Busnes Sbaeneg, lle roedd rhaid i ni greu a chynnig syniad busnes yn gyfan gwbl yn Sbaeneg. Roedd gweithio mewn dosbarthiadau bach yn golygu bod cydweithio’n allweddol — roedden ni i gyd yn cefnogi ein gilydd, yn enwedig yn ystod y tymor arholiadau. Dw i’n cofio pawb yn dod at ei gilydd i rannu syniadau a gwthio ei gilydd, a bu hyn yn help i ni gyd lwyddo.
Beth yw eich cynlluniau ar ôl gorffen eich gradd?
Fy ngham nesaf yw teithio ac ymdrwytho yn y diwylliannau dw i wedi bod yn eu hastudio. Hoffwn weld y byd trwy lens yr ieithoedd hyn a pharhau i ddysgu – Ffrangeg sydd nesaf ar fy rhestr! Wedi hynny, dw i ddim yn siŵr i ble bydd y byd yn mynd â fi, ond dw i’n gwybod fy mod i am barhau i gysylltu â phobl a diwylliannau, ble bynnag y bydda i’n mynd.
Beth yw dy obeithion ar gyfer y dyfodol?
Dw i’n credu gyda’n gilydd y gallwn ni droi iaith yn gysylltiad ac adeiladu cymunedau mwy. Mae gan ieithoedd y grym i ddod â phobl yn agosach, i bontio bylchau, ac i greu dealltwriaeth. Drwy ddysgu a rhannu ieithoedd, gallwn greu byd mwy cysylltiedig ac empathig.
Darllenwch fwy o straeon fel stori Isabella
ymlafnio i sicrhau bod pawb yn llwyddo
Rheoli Busnes
sicrhau bod mathemateg yn fwy hygyrch i fenywod
Erin Cavan (BSc)
Mathemateg
newid y byd drwy ffiseg
Kavetha Karunaseelan (BSc)
Ffiseg
Adam Searle (BSc)
Rheoli Busnes
Erin Cavan (BSc)
Mathemateg
Kavetha Karunaseelan (BSc)
Ffiseg