Dechreuwch eich stori Caerdydd chi
Llenyddiaeth Saesneg
Yn ogystal â’i alluogi i fynd i’r afael ag amrywiaeth o syniadau, safbwyntiau a digwyddiadau, helpodd ei gyfnod yn y brifysgol iddo ddysgu mwy am ei hun hefyd wrth fod ymhlith cyfoedion sy’n rhannu’r un diddordebau a datblygu cymuned graidd drwy ddysgu a chymdeithasu.
Beth wnaeth dy ysbrydoli i astudio Llenyddiaeth Saesneg?
Rwy’n credu bod llenyddiaeth yn gyfrwng pwerus iawn – mae’n eich galluogi i archwilio gwahanol safbwyntiau a syniadau. Roedd dod o dre fach lle nad oedd llawer o bobl yn rhannu fy niddordeb mewn llenyddiaeth, a chyrraedd Caerdydd a chael fy amgylchynu gan bobl o’r un anian â fi, yn anhygoel. Roedd hi’n wych cael cysylltu gydag eraill oedd yr un mor angerddol â fi.
Sut mae dy amser yng Nghaerdydd wedi dy siapio di?
Drwy gael fy amgylchynu gan bobl â diddordebau tebyg i fi, helpodd fi i ddysgu mwy amdana i fy hun — beth rwy’n ei hoffi, nad ydw i’n ei hoffi, a’r math o berson hoffwn fod wrth symud ymlaen. Mae Caerdydd yn ddinas fach, felly rydych chi’n gweld wynebau cyfarwydd o hyd, sy’n atgyfnerthu pwysigrwydd bod yn ddilys ac yn driw i’ch hun. Mae astudio llenyddiaeth, yn benodol, wir wedi fy ngwneud i’n fwy hunanymwybodol, ac yn fwy ymwybodol o’r hyn rwy’n ei ddarllen: beth rwy’n ei gymryd i mewn a pha ffynonellau i ymddiried ynddyn nhw.
Sonia fwy wrthon ni am brofiad cofiadwy yng Nghaerdydd.
Roedd gweithio ar brosiectau grŵp yn fy nghyrsiau llenyddiaeth yn hynod werthfawr. Bydden ni’n cael ein rhannu yn grwpiau ac yn cael y dasg o ddadansoddi testun trwm, gyda phob un ohonon ni’n canolbwyntio ar wahanol themâu. Roedd yn brofiad newydd i fi gan mai astudio’n annibynnol ro’n i wedi’i wneud yn bennaf cyn hyn. Gwnaeth cydweithio gydag eraill a chlywed eu dehongliadau wir agor fy llygaid i wahanol safbwyntiau y gallwn i fod wedi’u methu ar fy mhen fy hun. Hefyd, roedd bod yn rhan o Gymdeithas Pêl-droed Llenyddiaeth Saesneg yn wych — efallai na enillon ni lawer o gemau, ond roedd y cyfeillgarwch yn amhrisiadwy.
Yn olaf, sut wyt ti’n teimlo am y syniad ‘gyda’n gilydd, gallwn’ wneud gwahaniaeth?
Rwy’n credu gyda’n gilydd, gallwn ddeall y byd drwy lenyddiaeth. Mae astudio Saesneg wedi dangos i fi sut mae hanes yn dueddol o ailadrodd ei hun, a gall deall digwyddiadau’r gorffennol drwy lenyddiaeth fwrw goleuni ar faterion byd-eang presennol. Drwy ddysgu o’r gorffennol a rhannu gwahanol safbwyntiau, gallwn wneud penderfyniadau mwy gwybodus ynghylch beth i’w wneud nesaf.
Darllenwch fwy o straeon fel stori Oliver
ymlafnio i sicrhau bod pawb yn llwyddo
Adam Searle (BSc)
Rheoli Busnes
sicrhau bod mathemateg yn fwy hygyrch i fenywod
Erin Cavan (BSc)
Mathemateg
newid y byd drwy ffiseg
Kavetha Karunaseelan (BSc)
Ffiseg
Adam Searle (BSc)
Rheoli Busnes
Erin Cavan (BSc)
Mathemateg
Kavetha Karunaseelan (BSc)
Ffiseg
