Dechreuwch eich stori Caerdydd chi

Rebecca Clery (BSc)
Pensaernïaeth
Yn dechrau blwyddyn i ffwrdd i deithio, mae Rebecca’n bwriadu gweld y byd cyn dychwelyd at ei hastudiaethau gyda blwyddyn ar leoliad mewn cwmni pensaernïaeth. Mae’n gobeithio paru ei gwybodaeth newydd o’i gradd gyda phrofiad ymarferol yn defnyddio pensaernïaeth i’n helpu ni i fyw’n fwy cynaliadwy, gan greu gofodau sy’n bodloni ein hanghenion ond sydd hefyd yn parchu ac yn gwarchod yr amgylchedd.
Mae cydweithio’n rhan mor bwysig o bensaernïaeth, ac mae’n rhywbeth roedd Rebecca wrth ei bodd yn ei archwilio drwy gydol ei hamser yng Nghaerdydd – dysgu gwerth cydweithio a sut gall dyluniadau unigol ddod at ei gilydd a chreu rhywbeth cydlynol a bywiog. Helpodd ei hamser yma iddi gamu o’i chylch cysur a mynd allan a gwneud mwy, gan ganfod yr hyder i roi cynnig ar bethau gwahanol, i dderbyn pan nad hi yw’r gorau ym mhopeth, ac i ddarganfod beth mae hi wir yn ei fwynhau.
Pam wnest ti benderfynu astudio Pensaernïaeth?
Roedd y syniad o greu rhywbeth diriaethol — rhywbeth gallwch chi ei weld a’i gyffwrdd — wir yn apelio ata i. Mae gan bensaernïaeth gyswllt dwfn â’r ffordd rydyn ni’n byw: ble rydyn ni’n gweithio, ble rydyn ni’n ymlacio, ble rydyn ni’n rhyngweithio. Drwy bensaernïaeth addasol ac adferol, gallwn greu amgylcheddau sydd nid yn unig yn ymarferol ond sydd hefyd yn gwella ein lles. Mae’n ymwneud â dylunio gofodau sy’n gwneud bywyd yn well i bawb.
Allwch chi sôn am un o’ch uchafbwyntiau wrthon ni?
Eleni, gweithiais ar brosiect cymunedol yn Nhreherbert yn y de. Roedden ni mewn grwpiau bach, yn dylunio gwahanol agweddau ar y Stryd Fawr, fel canolfannau ymwelwyr, caffis, a chanolfannau hamdden — gyda’r nod o adfywio’r ardal. Roedd hi’n anhygoel gweld ein dyluniadau unigol yn dod at ei gilydd i greu gofod cymunedol cydlynol a bywiog. Atgyfnerthodd y profiad yma mor bwysig yw cydweithio mewn pensaernïaeth.
Beth yw eich cynlluniau ar ôl gorffen eich gradd?
Dw i’n bwriadu cymryd blwyddyn allan i deithio, gan ddechrau gyda thymor sgïo ac yna archwilio Japan a rhannau eraill o Asia. Ar ôl hynny, fe af i’n ôl at fy astudiaethau gyda blwyddyn ar leoliad, gan gael profiad ymarferol gyda chwmni pensaernïaeth go iawn. Yn y pen draw, dw i’n bwriadu parhau â fy ngradd Meistr i ehangu fy ngorwelion.
Beth yw dy obeithion ar gyfer y dyfodol?
Dw i’n credu gyda’n gilydd, gallwn ni fyw yn fwy cynaliadwy. Drwy bensaernïaeth, mae gennyn ni’r pŵer i greu gofodau sydd nid yn unig yn bodloni ein hanghenion ond sydd hefyd yn parchu ac yn gwarchod ein hamgylchedd. Mae’n ymwneud â dylunio gyda phwrpas ac ystyried effaith hirdymor ein hadeiladau ar bobl a’r blaned.
Darllenwch fwy o straeon fel stori Rebecca
ymlafnio i sicrhau bod pawb yn llwyddo
Adam Searle (BSc)
Rheoli Busnes
sicrhau bod mathemateg yn fwy hygyrch i fenywod
Erin Cavan (BSc)
Mathemateg
newid y byd drwy ffiseg
Kavetha Karunaseelan (BSc)
Ffiseg
Adam Searle (BSc)
Rheoli Busnes
Erin Cavan (BSc)
Mathemateg
Kavetha Karunaseelan (BSc)
Ffiseg