MBA Caerdydd

Datblygu arweinwyr sy’n sbarduno newid cadarnhaol ym myd busnes
Profiad heriol a ffurfiannol yw ymgymryd â’n rhaglenni MBA a achredwyd gan AMBA. Byddwn ni’n eich cefnogi i ddatblygu eich gwybodaeth am fusnes, magu’ch sgiliau busnes a rheoli hanfodol, a chynyddu eich hunanymwybyddiaeth. Drwy gamau gweithredu a myfyrio, byddwn ni’n eich helpu chi i ddod o hyd i’ch arddull arwain a rhoi min arno.

Ein rhaglenni

Briefcase icon

MBA Caerdydd (rhaglen amser llawn am 1 flwyddyn)

Ribbon icon

MBA Caerdydd (rhaglen ran-amser am 2 flynedd)

Stats chart

MBA Caerdydd gyda Deallusrwydd Artiffisial (rhaglen amser llawn am 1 flwyddyn)

Bydd dewis gwneud gradd MBA yn fuddsoddiad yn eich dyfodol ac yn llwybr tuag at roi hwb i’ch gyrfa. Ydych chi’n barod i gymryd y cam nesaf?

Calendar icon

Y dyddiad dechrau nesaf: Mis Medi 2025

Location icon

Wyneb-yn-wyneb yn Ysgol Busnes Caerdydd

Money icon

£19,200 ar gyfer myfyrwyr cartref / £31,950 ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol

Pam dewis Prifysgol Caerdydd ar gyfer eich gradd MBA?

Cewch chi’ch addysgu gan arbenigwyr o safon fyd-eang ac arloeswyr ym meysydd busnes a rheoli a allai, yn ei dro, weddnewid eich gyrfa.

Students studying

Cael ein harwain gan heriau

Byddwn ni’n rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau fydd eu hangen arnoch chi i ddod yn uwch-arweinydd sy’n gallu ymdrin â heriau byd-eang. Byddwch chi’n trin a thrafod astudiaethau achos yn y byd go iawn, i gyd tra’n rhannu ac yn trafod syniadau trawsnewidiol er mwyn ceisio datrys senarios cymhleth.

Business conference

Cymhwyso yn y byd go iawn

Mae Prosiect y Cyflymydd yn un o ystod o gyfleoedd ymarferol i brofi a llywio eich meddwl creadigol ac arloesol. Byddwch chi’n cwblhau prosiect law yn llaw â chleient busnes, gan ddatblygu atebion i fater strategol o bwys.

Student discussion

Dysgu yn y gymuned

Rydyn ni’n gymuned amrywiol a rhyngwladol, lle ceir safbwyntiau a phrofiadau gwahanol ymysg ein haelodau. Mae hyn yn cyfoethogi’r amgylchedd dysgu, tra bod siaradwyr gwadd, ymweliadau gan gwmnïau, gweithdai a digwyddiadau cymdeithasu yn caniatáu ichi ymgysylltu’n fwy â chyd-fyfyrwyr yn y garfan MBA a rhwydweithiau eraill.

Dewch i gwrdd â’n myfyrwyr a’n cyn-fyfyrwyr

Stori Sandhya

Stori Harish

Ble byddwch chi’n astudio?

Prifddinas ag iddi dreftadaeth fusnes arbennig o dda, sîn ddiwylliannol fywiog, ac enw da am wydnwch, arloesedd, a chreadigrwydd yw Caerdydd.

Mae Ysgol Busnes Caerdydd wedi’i lleoli yng nghanol y ddinas. Mae’r ysgol yn cynnig cyfleusterau astudio a chymdeithasol o’r ansawdd orau, ac yn manteisio ar ei chydberthnasau sefydledig gyda rhwydweithiau busnes, boed yn lleol, yn genedlaethol neu’n rhyngwladol.

Yn y fideo byr hwn, bydd yr Athro Eleri Rosier yn mynd â chi ar daith o amgylch Canolfan Addysgu Ôl-raddedigion Ysgol Busnes Caerdydd, sef adeilad sydd wedi’i deilwra ar gyfer ein myfyrwyr MBA a’n cymuned ôl-raddedig.

Dyma’r unig brifysgol yng Nghymru sy’n aelod o Grŵp Russell o brifysgolion ymchwil-ddwys

Yr 2il ddinas brifysgol fwyaf fforddiadwy yn y DU

(yn ôl Mynegai NatWest am Gostau Byw i Fyfyrwyr 2023)

Dewiswyd Caerdydd yn y ‘ddinas orau yn y DU’ a’r ‘ddinas fwyaf cyfeillgar yn y DU’

(Gwobrau Dewis Darllenwyr Teithwyr Condé Nast 2023)

Ffyrdd o ariannu eich cwrs

Ysgoloriaethau Gwerth Cyhoeddus (Rhaglenni MBA)

Mae gostyngiad ffioedd dysgu o £7,500 ar gael i bawb sydd wedi cofrestru’n fyfyriwr ar unrhyw un o’n rhaglenni MBA.

Gostyngiad i Gyn-fyfyrwyr

Os ydych chi’n un o raddedigion Prifysgol Caerdydd, cewch chi elwa o ostyngiad o 20% mewn ffioedd. Bydd y gostyngiad yn cael ei gymhwyso’n awtomatig pan fyddwch chi’n cychwyn ar eich astudiaethau.

Cyllid Gradd Meistr Llywodraeth y DU

Hwyrach y gallwch chi wneud cais am gyllid ôl-raddedig gan Lywodraeth y DU i gefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd