DA+
Dewch o hyd i’ch cwrs
Llyfryn AI+ – Gwnewch gais am gopi
Llenwch y ffurflen a byddwn ni’n anfon copi o’n llyfryn AI+ yn syth i’ch mewnflwch.
Does angen cefndir codio arnoch chi
Mae ein cyrsiau trosi mewn Deallusrwydd artiffisial (DA)+ wedi’u cynllunio i fyfyrwyr o bob disgyblaeth.
Dysgu DA yn ymarferol
Mynnwch brofiad ymarferol drwy gymhwyso DA i broblemau yn y byd go iawn mewn nifer o sectorau a chyd-destunau gwahanol.
Pwyslais ar yrfaoedd
Datblygwch sgiliau technegol, dadansoddol a chyfathrebu sy’n cael eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr ledled y byd.
Moeseg a chyfrifoldeb
Dysgwch i gymhwyso DA yn gyfrifol, gan roi sylw i foeseg, llywodraethiant a’i effaith ar gymdeithas.
Dysgwch gan arweinwyr yn y maes
Cewch elwa o addysg drawsddisgyblaethol mewn pynciau gan gynnwys cyfrifiadureg, mathemateg, busnes a newyddiaduraeth, yn ogystal ag elwa ar bartneriaethau cryf gyda byd diwydiant sy’n saernïo ein haddysg ac yn rhoi graddedigion mewn cysylltiad â chyflogwyr posibl.
Mae’r cysylltiadau agos sydd gennym â’n Hacademi Gwyddor Data a’r Ganolfan Ymchwil Seiberddiogelwch yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddysgu mewn amgylchedd llawn ymchwil lle caiff DA ei ddatblygu, ei gymhwyso a’i brofi ar y cyd â’r diwydiant.








